Bydd yn rhaid i Gwenno aros i glywed a yw hi wedi ennill Gwobr Mercury, ar ôl i’r seremoni gael ei gohirio neithiwr (nos Iau, Medi 8) yn dilyn marwolaeth Brenhines Lloegr.

Mae’r Gymraes, sydd hefyd o gefndir Cernyweg, yn y ras am ei halbwm Tresor, sydd yn gyfangwbl Gymraeg a Chernyweg – y tro cyntaf i albwm nad yw’n un Saesneg gael ei enwebu.

Roedd sêr y byd cerddorol wedi ymgasglu yn yr Apollo yn Llundain yn fuan cyn i’r newyddion am y frenhines dorri.

“Mae digwyddiad Gwobr Mercury heno wedi’i ohirio ar yr adeg hon o dristwch cenedlaethol mawr,” meddai’r trefnwyr.

“Rydym yn gwybod y bydd pawb sydd ynghlwm wrth Wobr Mercury yn deall.

“Mae ein meddyliau a’n cydymdeimlad gyda’r Teulu Brenhinol ar yr adeg anodd iawn hon.

“Byddwn yn gwneud cyhoeddiad ynghylch trefniadau’r dyfodol cyn gynted ag y gallwn ni.”

Gwenno Saunders

Gwenno ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Mercury am ei halbwm yn Gymraeg a Chernyweg: “Pwy feddyliai?”

Bydd hi’n cystadlu yn erbyn albymau gan Harry Styles, Sam Fender, Self Esteem ac eraill