Bydd Gwobrau BAFTA yn dychwelyd i Gaerdydd fel digwyddiad byw am y tro cyntaf ers dwy flynedd fis nesaf.

Cafodd yr enwebiadau eu cyhoeddi ar Fedi 7, ac maen nhw’n cynnwys rhaglenni fel Deian a Loli, Huw Edwards yn 60, Am Dro!, Iaith ar Daith, Grav, ac Ysgol Ni: Y Moelwyn.

Mae enwebiadau’r categori cyflwynydd gorau yn cynnwys Elin Fflur a Jason Mohammad, ynghyd â Sean Fletcher a Chris Roberts.

Dream Horse, In My Skin, CODA, Grav, Mincemeat (On the Edge), a The Pact yw’r rhaglenni sydd wedi derbyn y nifer uchaf o enwebiadau eleni.

Alex Jones fydd yn cyflwyno’r noson yn Neuadd Dewi Sant ar Hydref 9 wrth iddyn nhw wobrwyo enillwyr mewn 21 o gategorïau.

“Nid yn unig y mae’n fraint ac anrhydedd cyflwyno Gwobrau BAFTA Cymru eto, ond mae hi mor gyffrous bod yn ôl fel seremoni fyw eleni,” meddai Alex Jones.

“Does yna ddim awyrgylch well i gydnabod a dathlu’r holl deledu a ffilm anhygoel sy’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru – llongyfarchiadau i’r holl enwebai.”

Mae’r cerddor clasurol a chyflwynydd teledu Myleene Klass, yr actor Callum Scott Howells sydd wedi ennill gwobr BAFTA, seren newydd Doctor Who Ncuti Gatwa a dawnswraig broffesiynol Strictly Amy Dowden yn arwain y sêr a fydd yn cyflwyno gwobrau yn y 31ain Gwobrau BAFTA Cymru.

Mae Alex Jones yn dychwelyd fel llywydd y gwobrau, a fydd yn cael eu cynnal yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd ar Hydref 9.

Mae Myleene Klass hefyd yn enwebai Gwobrau BAFTA Cymru 2022 ar gyfer ei rhaglen ddogfen Myleene: Miscarriage and Me.

Mae Callum Scott Howells (It’s A Sin), Ncuti Gatwa (Sex Education) ac enillydd Gwobr BAFTA Cymru, Amy Dowden (Strictly Amy: Crohn’s & Me), yn cyflwyno ochr yn ochr â’r actores Gymreig Morfydd Clark (Ring of Power, His Dark Materials), y perfformiwr drag Cymreig Tayce Szura-Radix (Ru Paul’s Drag Race UK), yr actores Gymreig Alexandra Roach (Killing Eve, Sanditon), yr actor Cymreig Tom Cullen (Weekend, Downton Abbey), yr actores o Gaerdydd Abbie Hern (The Pact, Peaky Blinders), enillydd gwobr Teledu i Blant BAFTA 2019Emily Burnett (Hollyoaks, Doctor Who: The Lonely Assassins), yr actores Gymreig Mali Ann Rees (Hidden, Tourist Trap), y cynhyrchydd a’r ysgrifennydd Shane Allen (Am I Being Unreasonable, Brass Eye), yr actores Miriam Isaac (Age of Outrage), y ddigrifwraig ac ysgrifenwraig Kiri Pritchard-McLean (Rhod Gilbert’s Growing Pains), yr actores Shalisha James-Davis (Casualty, Mary Queen of Scots) a’r actor Ukweli Roach (Annika).

“Mae’n anrhydedd o’r mwyaf cael fy ngofyn i gyflwyno gwobr yn BAFTA Cymru 2022,” meddai Amy Dowden, enillydd gwobr BAFTA Cymru yn 2021 ar gyfer ei rhaglen ddogfen Strictly Amy: Crohn’s & Me.

“Roedd fy rhaglen ddogfen, Strictly Amy: Crohn’s & Me, yn ffilm bersonol a phwysig iawn i mi ac roedd yn gyffrous iawn pan gafodd ei chydnabod gan BAFTA Cymru y llynedd.

“Rydym wedi’n bendithio â thalent greadigol dros ben yng Nghymru ac alla’ i ddim aros i helpu i’w dathlu ar y noson arbennig hon.”

Bydd y canwr-gyfansoddwr Cymreig newydd, MACY, a gyhoeddodd ei EP cyntaf EP ‘Word4Luv’ ddiwedd 2021, yn perfformio’n fyw ar y noson.

Bydd Gwobrau BAFTA Cymru eleni wyneb-yn-wyneb am y tro cyntaf ers dwy flynedd.

Bydd y seremoni ar gael i’w gwylio’n fyw ar sianel YouTube BAFTA.

Yr enwebiadau

Actor gorau

Aneurin Barnard Time – BBC Studios / BBC One

Eddie Marsan The Pact – Little Door Productions / BBC One

Owen Teale Dream Horse – Film 4 Productions / Topic Studios / Ffilm Cymru Wales / Ingenious Media / Raw TV / Popara Films / Warner Bros.

Siôn Daniel Young Deceit ­– Story Films / Channel 4

Actores orau

Aimee Lou Wood Mincemeat (On the Edge) – Blacklight Television / Channel 4

Emilia Jones CODA Apple TV+ / Vendrome Pictures / Pathe Films

Gabrielle Creevy In My Skin – Expectation Entertainment / BBC One Wales

Joanna Scanlan After Love – The Bureau / BFI

Talent newydd

Ben Reed Portrait Kaye – Plainsong / Agile Films

Chloe Fairweather Dying to Divorce – Dying to Divorce Ltd / Aldeles AS / Dartmouth Films

Lemarl Freckleton Curadur – Orchard / S4C

Samantha O’Rourke Mincemeat (On the Edge)  – Blacklight Television / Channel 4

Rhaglen blant

Bex – Ceidiog / S4C

Deian a Loli – Cwmni Da / S4C

Efaciwis – Wildflame Productions / S4C

Hei Hanes! – Cwmni Da / S4C

Cyfarwyddwr: Ffeithiol

Chloe Fairweather Dying to Divorce – Dying to Divorce Ltd / Aldeles AS / Dartmouth Films

Dylan Williams Men Who Sing Ltd / Backflip Media / Cwmni Da / Dartmouth Films

Eric Hayes A Killing in Tiger Bay – BBC Wales / BBC Two

Tom Barrow Murder in the Valleys –  Five Mile Films / Sky Crime

Cyfarwyddwr: Ffuglen

Gareth Bryn Line of Duty – World Productions / BBC One

Marc Evans Manhunt The Night Stalker – Buffalo Pictures / ITV

Molly Manners In My Skin – Expectation Entertainment / BBC One Wales

Siân Heder CODA – Apple TV+ / Vendrome Pictures / Pathe Films

Golygu ffeithiol

Alun Edwards John Owen: Cadw Cyfrinach – Wildflame Productions / S4C

Dan Young Slammed – BBC Wales / BBC One Wales

Ian Durham Snowdonia: A Year on the Farm – Frank Films / BBC One Wales

John Gillanders Huw Edwards yn 60 – Rondo Media / S4C

Golygu ffuglen

Elen Pierce Lewis Landscapers – SISTER in association with South of the River Pictures / Sky Atlantic

Tim Hodges Life and Death in the Warehouse – BBC Studios / BBC Three

Urien Deiniol Enid a Lucy – Boom Cymru / S4C

Rhaglen adloniant

6 Gwlad Shane ac Ieuan – Orchard / S4C

Am Dro! – Cardiff Productions / S4C

Bwyd Epic Chris – Cwmni Da / S4C

Iaith ar Daith – Boom Cymru / S4C

Cyfres ffeithiol

Gwesty Aduniad – Darlun / S4C

The Great Big Tiny Design Challenge –  Yeti Television / More4

Murder in the Valleys –  Five Mile Films / Sky Crime

Ysgol Ni: Y Moelwyn – Darlun / S4C

Ffilm deledu / nodwedd

Dream Horse  – Film 4 Productions / Topic Studios / Ffilm Cymru Wales / Ingenious Media / Raw TV / Popara Films / Warner Bros.

Grav – Regan Development / Tarian Cyf / S4C

The Trick – Vox Pictures / BBC / BBC One

Gwallt a cholur

Claire Williams The Pursuit of Love – Open Book Productions / Moonage Pictures / BBC One

Jacquetta Levon Save The Cinema – Future Artists Entertainment Ltd / Sky Cinema

Roseann Samuel Dream Horse – Film 4 Productions / Topic Studios / Ffilm Cymru Wales / Ingenious Media / Raw TV / Popara Films / Warner Bros.

Newyddion a materion cyfoes

A Killing in Tiger Bay – BBC Wales / BBC Two

Coronvirus: A Care Home’s Story – ITV Cymru Wales

Covid, Y Jab a Ni – Cloud Break Pictures / S4C

No Body Recovered – ITV Cymru Wales / ITV

Ffilmio ffeithiol

Mei Williams Peter Moore: Dyn Mewn Du – Kailash Films / S4C

Tim Davies The Long Walk Home – Rediscover Media / Telesgop / BBC One

Tudor Evans Dark Land – The Hunt for Wales’ Worst Serial Killer – Monster Films / BBC One Wales

Ffilmio a goleuo:

Ffuglen

Chas

Bain A Discovery of Witches – Bad Wolf / Sky

Erik Alexander Wilson Dream Horse – Film 4 Productions / Topic Studios / Ffilm Cymru Wales / Ingenious Media / Raw TV / Popara Films / Warner Bros.

Ryan Eddleston Grav – Regan Development / Tarian Cyf / S4C

Will Baldy The Pact – Little Door Productions / BBC One

Cyflwynydd

Chris Roberts Bwyd Byd Epic Chris – Cwmni Da / S4C

Elin Fflur Sgwrs Dan y Lloer – Tinopolis / S4C

Jason Mohammad DRYCH: Trelai, y Terfysg a Jason Mohammad – Hall of Mirrors / S4C

Sean Fletcher Wonders of the Border – ITV Cymru Wales

Ffilm fer

Affair of the Art – Beryl Productions International / National Film Board of Canada / BBC Two Wales

Face Down in the Back of a Car – Scymru

Jackdaw – Broadside Films

Louder in Not Always Clearer – On Par Productions

Rhaglen ddogfen sengl

John Owen: Cadw Cyfrinach  – Wildflame Productions / S4C

Mothers, Missiles and the American President – ie ie Productions / BB One Wales

Myleene Klass: Miscarriage & Me – Hall of Mirrors / W

Y Parchedig Emyr Ddrwg – Docshed / S4C

Sain

John Markham Cyngerdd Tangnefedd Llangollen – Rondo Media / S4C

Tîm Sain Dream Horse – Film 4 Productions / Topic Studios / Ffilm Cymru Wales / Ingenious Media / Raw TV / Popara Films / Warner Bros.

Tîm Sain Wonders of the Celtic Deep – One Tribe TV / BBC One Wales

Drama deledu

In My Skin – Expectation Entertainment / BBC One Wales

Life and Death in the Warehouse – BBC Studios / BBC Three

Mincemeat (On the Edge) – Blacklight Television / Channel 4

Yr Amgueddfa – Boom Cymru / S4C

Awdur

Kayleigh Llewellyn In My Skin – Expectation Entertainment / BBC One Wales

Owen Thomas Grav – Regan Development / Tarian Cyf / S4C

Peter McTighe The Pact – Little Door Productions / BBC One

Siân Heder CODA – Apple TV+ / Vendrome Pictures / Pathe Films