Bydd cynhyrchiad newydd o geinciau’r Mabinogi yn teithio safleoedd treftadaeth ledled Cymru drwy gydol fis Medi.

Fel rhan o Ŵyl Hanes Cymru i Blant 2022, bydd Y Mabinogion yn teithio deuddeg o safleoedd hanesyddol Cadw.

Fe fydd yr addasiad dwyieithog gan Gwmni Theatr Struts and Frets yn ymweld â rhai o safleoedd hynaf Cymru, gan gynnwys cestyll Normanaidd Caernarfon a Chydweli, Abaty Nedd, a Phlas yr Esgob Tyddewi.

Mae’r perfformiad yn cynnwys pypedau, cerddoriaeth fyw a chast ensemble o chwe pherson, a bydd hanesion Rhiannon, Pryderi a Blodeuwedd yn cael eu hadrodd.

‘Dramateiddio chwedloniaeth Gymreig’

Yn ôl Francesca De Sica, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Struts and Frets, mae’r cynhyrchiad yn “gwireddu uchelgais oes o ddramateiddio chwedloniaeth Gymreig ar safleoedd hanesyddol Cymru, yn Gymraeg, i’w rhannu gyda phlant ysgol (ac oedolion) Cymru”.

“Ni allaf aros i weld actorion a chynulleidfaoedd yn gyffrous, wedi eu difyrru, ac yn falch o’u treftadaeth yn y dathliad hwn o hunaniaeth Gymreig,” meddai.

“Rydym yn falch iawn o fod yn bartner gyda Cadw a Gŵyl Hanes Cymru i Blant ac edrychwn ymlaen at rannu ein haddasiad o’r straeon clasurol a bythol hyn gyda phlant Cymru.”

‘Ffenestr i hanes a mytholeg’

Siân Owen sy’n chwarae rhan Rhiannon, a meddai: “Y peth rydw i’n edrych ymlaen ato fwyaf am ddod â’r Mabinogi i’r llwyfan yw adrodd y straeon hudolus hyn mewn cestyll mawreddog i gynulleidfaoedd sydd o bosib heb brofi hud Y Mabinogion o’r blaen.

“Mae’r straeon yn ffenestr anhygoel i hanes a mytholeg Cymru – ac maen nhw’n llawer o hwyl hefyd!”

Bydd Gŵyl Hanes Cymru i Blant yn cael ei chynnal â pherfformiadau byw, wyneb yn wyneb am y tro cyntaf ers 2019 rhwng Medi 12 a Hydref 21.

Ochr yn ochr â pherfformiadau mewn safleoedd treftadaeth, bydd yr ŵyl hefyd yn cynnig amrywiaeth o weithdai digidol wrth i sefydliadau hanes a chelfyddydol ddod ynghyd.

Gall ysgolion archebu sesiynau am ddim ar sail cyntaf i’r felin drwy fynd i wefan yr ŵyl.

Dod â hanes Cymru yn fyw yn y cestyll

Cadi Dafydd

Bydd gŵyl arbennig yn cychwyn ddydd Llun nesaf, sy’n para mis a mwy ac yn cynnwys perfformiadau dramatig o’r Mabinogi