Cafodd cofiant newydd y newyddiadurwr a’r Cymro Gareth Jones ei lansio gan yr awdur, Martin Shipton, neithiwr (Medi 5).
Gareth Jones oedd y gohebydd cyntaf i ddatgelu’r gwir am yr Holodomor, newyn a laddodd dros bedair miliwn o bobol yn Wcráin rhwng 1932-33.
Gwaethygodd y newyn yn sgil penderfyniadau’r Undeb Sofietaidd, ac mae Gareth Jones yn cael ei ystyried fel arwr cenedlaethol yn Wcráin am ddatgelu’r gwir.
Cafodd Gareth Jones ei lofruddio ym Mongolia yn 1935, ac yntau ond yn 29 oed.
‘Trychinebus o amserol’
Gan ddefnyddio ei erthyglau, llyfrau nodiadau a’i ohebiaeth bersonol, mae Martin Shipton, gohebydd gwleidyddol y Western Mail, yn rhannu bywyd hynod y newyddiadurwr o’r Barri yn ei lyfr, Mr Jones.
“Mae hi’n drychinebus o amserol bod cofiant Gareth Jones wedi cael ei gyhoeddi yn ystod y cyfnod hwn o ddioddefaint dynol erchyll sy’n cael ei achosi gan ymosodiadau ar bobol Wcráin dan gyfarwyddyd y Kremlin,” meddai Martin Shipton wrth drafod y llyfr, a ddechreuodd ei sgrifennu yn 2019.
“Mae hi’n stori y byddai Jones wedi’i hadnabod, yn anffodus, yn sgil ei brofiadau fel llygad-dyst yn adrodd ar yr Holodomor yn 1933.
“Fel gyda newyddiadurwyr modern sy’n cael eu pardduo a’u hymosod am drio datgelu’r gwir am oresgyniad Putin yn Wcráin, fe wnaeth Gareth Jones wynebu dichell o du’r wladwriaeth wrth i Stalin drio gwyrdroi realiti.
“Nid yn unig y pardduwyd cymeriad Jones gan y Kremlin a’i glymblaid o ohebwyr-gleientiaid – mae amheuon ynghylch ei farwolaeth yn parhau hyd heddiw. Mae’r amheuon hynny’n fwy yn sgil rhan agos unigolion oedd gan gysylltiadau hysbys â’r NKVD, heddlu cudd yr Undeb Sofietaidd.
“Efallai bod hon yn stori o’r 1930au, ond mae hi’n atseinio â’r digwyddiadau 90 mlynedd wedyn.”
‘Arwr’
Yn ogystal â thrafod profiadau Gareth Jones yn gweithio gyda chyn-Brif Weinidog Prydain, David Lloyd George, mae’r llyfr yn sôn am sut y cafodd wahoddiad i hedfan gyda Hitler ar y diwrnod y daeth yn Ganghellor yr Almaen.
Mae’n cyfeirio hefyd at ei deithiau i’r Eidal pan oedd Mussolini mewn grym, a’i hanes yn cyfarfod Éamon de Valera, arweinydd Iwerddon.
“Fel un o’i olynwyr yn y Western Mail, dw i’n gallu ei ddychmygu fel cydweithiwr cydnaws yn yr ystafell newyddion fyddai wastad yn mynd a dod, ond a fyddai gan amser i siarad â’r aelod ieuengaf, lleiaf profiadol o staff.
“Fe wnaeth orffen gyda’r papur yn fuan cyn mynd ar ei daith olaf, taith a arweiniodd at ei farwolaeth, ond pan fu farw roedd galar ei gyn-gydweithwyr yn llethol, yn ôl pob tystiolaeth.
“Mae hi’n amser i Gareth Jones dderbyn statws fel arwr Cymraeg gwirioneddol, statws y mae’n ei haeddu, heb amheuaeth.”
Bydd lansiad arall yn Llundain fory (Medi 7) i ddilyn yr un yng Nghaerdydd neithiwr.