Mae Llenyddiaeth Cymru wedi penodi Leusa Llewelyn a Claire Furlong fel cyd-Brif Weithredwyr.
Fe fydd y ddwy yn canolbwyntio ar elfennau gwahanol o waith Llenyddiaeth Cymru – Leusa Llewelyn fel Cyfarwyddwr Artistig a Claire Furlong fel Cyfarwyddwr Gweithredol – gan gydweithio’n agos.
Maen nhw wedi dechrau’r gwaith ers dechrau’r mis, ac mae’r ddwy wedi bod yn gyd-Brif Weithredwyr dros dro ers ychydig fisoedd.
‘Braint aruthrol’
Daw Leusa yn wreiddiol o Lanuwchllyn ac mae wedi ymgartrefu bellach yng Nghwm-y-glo ger Llanberis.
Derbyniodd radd mewn Cymraeg a Gwleidyddiaeth Ryngwladol o Brifysgol Aberystwyth, a gradd ymchwil MPhil am astudiaeth o lyfrau taith yn y Gymraeg.
Symudodd i Gaerdydd yn 2011 er mwyn ymuno â Llenyddiaeth Cymru fel Swyddog Plant a Phobl Ifainc, a hynny ar ddiwrnod cyntaf y sefydliad.
Dychwelodd i’r gogledd yn 2015 fel Pennaeth Canolfan Ysgrifennu Genedlaethol Llenyddiaeth Cymru, Tŷ Newydd.
Mae Leusa yn un o Ymddiriedolwyr Theatr Clwyd, ac yn ei hamser rhydd, mae’n cadw gwenyn ac ym mwynhau cerdded mynyddoedd Eryri.
“Mae cael camu i rôl Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru yn fraint aruthrol i mi, a hynny dros ddegawd wedi i mi ymuno â’r sefydliad fel cyw-swyddog yn syth o’r brifysgol,” meddai Leusa Llewelyn.
“Llenyddiaeth yw fy myd, ac mae’n teimlo fel yr anrhydedd mwyaf un i gael y cyfle i arwain y sefydliad llenyddol cenedlaethol sy’n bodoli i ddatblygu mwy o awduron sy’n cynrychioli’r hyn sy’n gwneud Cymru yn wych ac yn unigryw, i arddel ein traddodiad llenyddol, ac i ddefnyddio grym iachaol ysgrifennu creadigol i gyfrannu at lesiant ein cymunedau.
“Fe fydd yn bleser llwyr cael rhannu’r swydd â Claire.
“Rwy’n edmygu ei chraffter a’i meddwl miniog, ac edrychaf ymlaen at gael cydweithio i flaenoriaethu’r llu o syniadau sydd gennym a’u rhoi ar waith yn brosiectau twt, trawsnewidiol.
“Rydym ni ein dwy yn edrych ymlaen yn arw i gychwyn ar yr her.”
‘Gweledigaeth fentrus’
Ymunodd Claire â thîm Llenyddiaeth Cymru yn 2021 fel Dirprwy Brif Weithredwr, ar ôl 15 mlynedd yn y diwydiant cerddoriaeth yn Lloegr lle bu’n datblygu llwybrau addysg a chynlluniau datblygu talent yn y byd jazz.
Astudiodd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd, ac mae hi’n byw ym Mrechfa yn Sir Gaerfyrddin ac yn ddysgwr Cymraeg brwd.
Yn ei hamser sbâr, mae hi’n hoffi beicio yn ei choedwig leol, neu ymgolli mewn llyfr.
“Mae’n fraint i mi gymryd y llyw fel Cyfarwyddwr Gweithredol, ac rwyf wrth fy modd yn cael gwneud hynny wrth ochr Leusa Llewelyn, rhywun y mae gen i barch aruthrol ati am ei hangerdd ddigymar a’i dealltwriaeth o lenyddiaeth Gymraeg a Chymreig,” meddai Claire Furlong.
“Ers i mi ymuno â thîm arbennig Llenyddiaeth Cymru, mae’r awduron gwych sydd yma yng Nghymru wedi gwneud cryn argraff arnaf, ynghyd â’r gwahanol brofiadau o Gymreictod y maent yn eu cynrychioli.
“Rwy’n llawn cyffro wrth fynd ati i helpu datblygu a rhoi llwyfan i’r talentau arbennig hyn – yng Nghymru a thu hwnt.
“Gyda’n gilydd, mae gan Leusa a minnau weledigaeth fentrus o sin lenyddol ffyniannus yng Nghymru, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gydag eraill ar draws y sector i wireddu’n darlun o Gymru lle mae llenyddiaeth yn grymuso, gwella ac yn cyfoethogi bywydau.”
‘Datblygiad blaengar’
Dywedodd Cathryn Charnell-White, Cadeirydd Llenyddiaeth Cymru, bod penodi’r ddwy yn “ddatblygiad artistig, gweinyddol a democrataidd blaengar i’r cwmni”.
“Mae ganddynt ymrwymiad dwfn i’r egwyddorion a ymgorfforir yn ein Cynllun Strategol cyfredol, a syniadau ffres a fydd yn sicrhau bod grym llenyddiaeth yn parhau i ysbrydoli awduron a chymunedau ar draws Cymru.
“Ar ran y Bwrdd, dyma eu llongyfarch yn wresog a dymuno’n dda iddynt wrth iddynt ddechrau ar y gwaith.”
‘Gwledd o brofiad’
Mae’r ddwy yn dod â “gwledd o brofiad” i’r rolau a’r sector, meddai Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, Phil George.
“Yn bwysicaf oll, maent yn llawn brwdfrydedd am waith cyfoethog, heriol ac amrywiol awduron Cymru, a chanddynt ysfa gref i ddatblygu lleisiau newydd.
“Mae’r ddwy yn rhannu cred Cyngor Celfyddydau Cymru fod angen i’r celfyddydau fod yn ganolog i fywyd a llesiant y genedl; yn rhywbeth byw y gall cymunedau ledled y wlad ei fwynhau.
“Rwy’n gwybod y byddant yn egnïol a medrus yn y modd y byddant yn adeiladu ar etifeddiaeth arbennig eu rhagflaenydd, Lleucu Siencyn. Llongyfarchiadau mawr i chi’ch dwy.”