Mae angen gwneud mwy i ehangu apêl a chynulleidfa operâu, yn ôl y gyfansoddwraig Mared Emlyn.
Bydd cynhyrchiad diweddaraf Opra Cymru, Cyfrinach y Brenin, yn ceisio unioni’r cam hwnnw a a denu cynulleidfa newydd.
Opera gomedi ar gyfer plant a theuluoedd ydy opera gyntaf Mared Emlyn, cyfansoddwraig o Eglwysbach ger Llanrwst, ac mae’n dilyn chwedl y Brenin March.
Fe fydd yr opera – a’r cast sef Steffan Lloyd Owen, Erin Gwyn Rossington, Rhys Meilyr, Elen Lloyd Roberts a Beca Davies – yn teithio o amgylch Cymru drwy gydol mis Medi, gan ddechrau yn Llanegryn nos Fercher (Medi 7) a dod i ben ym Mlaenau Ffestiniog ar Fedi 24.
Dyma’r opera Gymraeg gyntaf i blant cynradd, medd Opra Cymru, a Patrick Young ac Iwan Teifion Davies sydd wedi bod yn gyfrifol am ysgrifennu’r libretto.
Ac yn ôl Mared Emlyn, does yna ddim rheswm pam na all opera fod yn agored i bawb, waeth beth yw eu hoedran a’u cefndir.
“Pam bod opera jyst i rai pobol neu rai grwpiau oedran?” meddai wrth golwg360.
“Mae cerddoriaeth yn gyffredinol i fod yn agored i bawb, i greu, i fod yn rhan ohono fo, i fwynhau.
“Rydyn ni’n bobol greadigol, a’r gobaith ydy y bydd [Cyfrinach y Brenin] yn arwain at bethau eraill i’r plant sy’n gwrando ac, efallai, i bobol eraill wneud rhywbeth tebyg.”
‘Ddim yn rhywbeth i bobol posh’
Mae Erin Gwyn Rossington, sy’n chwarae rhan y Doctor yn yr opera, o’r un farn, ac yn gobeithio y bydd pobol yn cymryd siawns a mynd i weld Cyfrinach y Brenin.
“Dw i’n cofio bod yn yr ysgol ac roedd yna sioeau fel Arad Goch yn dod mewn a chofio meddwl eu bod nhw’n anhygoel, felly dw i eisiau rhoi’r siawns yna i blant ifanc, a phawb, a chael dweud: ‘Mae opera yn hygyrch, it’s not a posh people thing’,” meddai Erin Gwyn Rossington wrth golwg360.
“Mae o’n dda bod nhw’n teithio hefyd ac yn mynd â’r opera i lefydd gwahanol.
“Mae hynna’n broblem weithiau, pobol methu cyrraedd llefydd felly mae’r siawns bod yr opera’n mynd i lefydd ac mae o’n eithaf rhad – dw i’n meddwl y dylai pobol gymryd y risg a dod i’n gweld ni.
“Weithiau mae pobol yn meddwl: ‘Och opra, fydda i methu dilyn honna’… ond dw i’n meddwl y dylai pobol gymryd y cam ac efallai y cawn nhw eu synnu.”