Mae Nia Roberts, cyflwynydd rhaglen gelfyddydol Stiwdio ar Radio Cymru, wedi dweud wrth golwg360 ei bod hi’n teimlo fod y rhaglen “wedi cael ei gwthio i’r ochr ers tro”.
Daw hyn yn dilyn ymateb chwyrn i’r penderfyniad i ddod â’r rhaglen i ben yn yr hydref.
Stiwdio yw’r unig raglen Gymraeg ar y radio sydd wedi cael ei neilltuo ar gyfer trafod y celfyddydau yng Nghymru.
Fodd bynnag, doedd slot 9 o’r gloch ar nos Lun ddim yn addas i raglen gelfyddydol, meddai Nia Roberts, sy’n dweud iddi “fyw yn y gobaith” y byddai’r rhaglen yn cael lle newydd ar yr amserlen.
Fodd bynnag, dod â’r rhaglen i ben oedd y penderfyniad a gafwyd a hyd yn hyn, dydy’r BBC heb gadarnhau beth fydd yn dod yn ei lle.
Bydd rhaglen Geth a Ger ar nos Wener yn dod i ben hefyd, a Caryl Parry Jones yn cymryd lle Geraint Lloyd ar y shifft hwyr.
Mae Radio Cymru’n dweud mai eu “bwriad yn y cyfnod nesaf yw ehangu’r ddarpariaeth gelfyddydol”, ac y bydd y cynlluniau’n cael eu cyhoeddi “maes o law”.
‘Ddim yn perfformio’
“Doedd hi ddim yn perfformio o ran nifer y gwrandawyr yn y slot lle’r oedd hi,” meddai Nia Roberts wrth golwg360.
“Ro’n i’n teimlo ei bod hi wedi cael ei wthio i’r ochr ers tro am 9 o’r gloch ar nos Lun.
“Ac ro’n i wedi sylwi wrth fynd o amgylch cwmnïau theatr, mynd i weld artistiaid a gwneud cyfweliadau bo’ nhw ddim hyd yn oed yn gwybod amdani.
“Felly ro’n i wedi canu’r clychau yma ers tro yn Radio Cymru gan ddweud, ‘Ylwch, os nad ydi pobol o fewn y byd celfyddydol yn gwybod am Stiwdio, does yna ddim llawer o obaith’.
“Os wyt ti’n edrych ar yr amserlen, mae rhaglenni eraill sy’n mynd allan am 9, neu oedd yn mynd allan am 9, yn rhaglenni oedd wedi cael eu darlledu’n gynharach yn yr wythnos.
“Roedd gen ti Dei Tomos, Beti a’i Phobol ac roedd gen ti Cofio, sef rhaglen John Hardy.
“Felly roedd y rheina i gyd yn beth maen nhw’n ei alw’n second generation programmes, ail ddarllediadau.
“Ond 9 o’r gloch ar nos Lun oedd yr unig adeg oedd Stiwdio yn cael ei ddarlledu.
“Felly ro’n i wedi canu’r clychau yma, yn dweud bod hi angen gwell slot ac ro’n i’n dal i fyw yn y gobaith ’na dyna fasa’n digwydd.
“Ond fe ges i wybod jyst cyn yr Eisteddfod eu bod nhw’n ei thynnu hi.
“Fe ddywedon nhw bod yn rhaid iddyn nhw chwynnu er mwyn arbed arian, a’u bod nhw’n dechrau drwy chwynnu yn y nos a bod yn rhaid i Stiwdio gael ei thynnu.”
‘Eironi’
“Roedd yna eironi mawr i fi yn yr Eisteddfod, oherwydd cyn i mi gyrraedd ro’n i’n gwybod bod Stiwdio yn dod i ben,” meddai wedyn.
“Ond ti’n edrych o dy gwmpas ar y Maes ac mae gen ti bobol o wahanol gefndiroedd, o wahanol oedrannau yn gwneud gwahanol bethau yn enw’r celfyddydau.
“Mae o’n faes hynod o fywiog a dyfeisgar, a does yna ddim lot o bres ynddo fo ond mae yna angerdd yn yr hyn mae pobol yn ei wneud.
“Felly mae’r llwyfannau prin yma i’r celfyddydau yn bwysig, mae adolygiadau’n bwysig.
“Ac eironi mawr arall i mi ydi bod gan Radio Wales yr Arts Show sy’n dal i fynd.
“Mae honno yn cael lle, ac yn cael lle gyda’r nos cynnar sef pryd dw i’n meddwl ydi’r adeg berffaith iddo fod, pryd mae pobol yn dod adra o’r gwaith.
“A dw i’n deall bod hi’n anodd gwneud lle i bopeth ond dw i’n meddwl bod angen i Radio Cymru edrych ar ffeindio nyth bach diogel i’r celfyddydau rywle yn yr amserlen.”
‘Braint’
Er gwaetha’r ffaith fod Stiwdio yn dod i ben, dywed Nia Roberts ei bod hi wedi bod yn “fraint” a “phleser” cyflwyno’r rhaglen.
“Dw i wedi cael cydweithio gydag awduron, artistiaid, actorion ac mae o wedi bod yn fraint, mae o wedi bod yn bleser,” meddai.
“Dw i wedi bod wrth fy modd yn cael gwneud hynny.
“A dw i eisiau gwneud y glir, mae yna ddau beth yn mynd ymlaen yn y fan yma.
“Mae yna fy mherthynas bersonol broffesiynol i gyda Radio Cymru yn un peth.
“Ond y celfyddydau ydi hyn, a’r celfyddydau sydd wedi ennyn y fath ymateb [i Stiwdio yn cael ei thynnu].
“A dw i’n falch bod yna ymateb achos mae’r byd celfyddydol yn fyd bywiog iawn ac mae yna lot o straeon i’w hadrodd.
“Ac mae pobol yn gwrando ar y radio yn benodol i wrando ar beth mae ganddyn nhw ddiddordeb ynddo, rhyw fath o niche listening ydi o, ynde.
“Ond efo hyn rŵan, dydi pobol ddim yn mynd i wrando ar raglenni dyddiol ar hap gan obeithio eu bod nhw’n ffeindio rhywbeth celfyddydol.
“Roedd cael rhywbeth wythnosol, rhyw becyn bach, yn siwtio pobol.”