Mae’r cynlluniau ar gyfer safle i Deithwyr ar ddarn o dir yn Ewlo wedi cael eu gwrthod.

Mae pwyllgor cynllunio Cyngor Sir y Fflint wedi gwrthod y cais am dir ger Lôn yr Eglwys yn Aston Hill.

Cafodd y cais ei gyflwyno ar ran dynes a’i mab o’r gymuned o Deithwyr er mwyn newid defnydd y safle oddi ar Lôn yr Eglwys, sy’n ffordd breifat oddi ar Old Aston Hill yn Ewlo.

Roedd y cais yn gofyn am garafan ddi-symud, un garafan deithiol, safle trin dŵr a pharcio i ddau gar.

Er bod y cais wedi cael ei gymeradwyo ar gyfer ei dderbyn gan benaethiaid cynllunio, daeth gwrthwynebiad cyn y cyfarfod gan Gyngor Cymuned Penarlâg a thrigolion lleol.

Cafodd mwy na 100 o lythyron o gefnogaeth i’r cais eu hysgrifennu gan aelodau’r cyhoedd, ond roedd 95 o wrthwynebiadau wedi cael eu cyflwyno hefyd.

Roedd penaethiaid cynllunio’r Cyngor wedi argymell fod y cais yn cael ei dderbyn, gan nodi nad oedd yna unrhyw sail o ran polisi cynllunio er mwyn ei wrthod.

Cwestiynu’r penderfyniad

Ond siaradodd y bargyfreithiwr Philip Robinson fel cynrychiolydd trigolion lleol yn y cyfarfod, gan gwestiynu’r argymhelliad.

Fe gododd e bryderon ar sail diogelwch priffyrdd, gan fod yna “weladwyedd is na’r safon ddisgwyliedig” ar y cyffordd, y potensial y gallai trigolion lleol a’r rhai fyddai’n byw ar y safle’n colli eu preifatrwydd, ac y byddai’r cais “yn groes i gefn gwlad agored”.

Siaradodd y Cynghorydd Gillian Brockley, Cynghorydd Aston Penarlâg, er mwyhn dweud bod “arwyneb Lôn yr Eglwys mewn cyflwr truenus”, a chafodd ei sylwadau eu hategu gan ei chyd-gynghorydd ym Mhenarlâg, y Cynghorydd Helen Brown, oedd wedi disgrifio Lôn yr Eglwys fel “llwybr yn hytrach na ffordd”, ymhlith pryderon eraill.

Cynigiodd y Cynghorydd Bernie Attridge, cynghorydd Canol Cei Conna, fod y cais yn cael ei wrthod ar ôl ymweld â’r safle, gan roi cymeriad, ymddangosiad a diogelwch priffyrdd yn rhesymau.

Ychwanegodd y Cynghorydd Mike Peers, Cynghorydd Bwcle Pentrobin, ei fod yn teimlo bod y cais wedi cael ei gyflwyno gan “ei fod yn ymddangos yn fwy o gyfleustra bod y tir ar gael yn hytrach nag angen” y trigolion.

Dywedodd Sue Thomas, Rheolwr Rheoli Datblygiad Priffyrdd y Cyngor, wrth y cyfarfod nad oedd “tystiolaeth gadarn yn y data damweiniau i gyfiawnhau gwrthod”, er bod gweladwyedd ar y priffyrdd ar y safle “ymhell o fod yn ddelfrydol”.

Ond pan ddaeth hi at y bleidlais, cafodd y cais ei wrthod gan aelodau, ar sail y rhesymau gafodd eu cyflwyno gan y Cynghorydd Bernie Attridge, yn ymwneud â chymeriad a pha mor agored yw’r ardal, diogelwch priffyrdd a cholli preifatrwydd.