Mae Jonathan Edwards, cyn-Aelod Seneddol Plaid Cymru, yn cyhuddo Adam Price, arweinydd y blaid, o’i drin mewn ffordd “faleisus”.

Cyhoeddodd Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr fis diwethaf na fyddai’n ailymuno â Grŵp Plaid Cymru yn San Steffan, ddwy flynedd ar ôl cael rhybudd gan yr heddlu am ymosod ar ei wraig.

Fe wnaeth Adam Price, sy’n cynrychioli’r un etholaeth yn Senedd Cymru, gyhoeddi datganiad yr un diwrnod yn dweud nad yw gweithredoedd Jonathan Edwards “yn cynrychioli ein gwerthoedd ac mae ei safle fel Aelod Seneddol yn anfon y neges anghywir at oroeswyr cam-drin domestig”.

Yn wreiddiol, dywedodd Plaid Cymru wrth Jonathan Edwards y byddai’n cael ei groesawu’n ôl i’r gorlan – penderfyniad wnaeth hollti barn o fewn y blaid ac arwain at feirniadaeth gref.

Dywedodd Emma Edwards fod caniatáu i’w chyn ŵr ail-ymuno â grŵp y blaid yn Nhŷ’r Cyffredin wedi anfon neges “nad yw goroeswyr cam-drin domestig o bwys”.

‘Datganiad maleisus’

Bellach, mewn llythyr at drefnwyr Plaid Cymru yn yr etholaeth, mae Jonathan Edwards wedi gofyn iddyn nhw holi penaethiaid y blaid am y “ffordd y cafodd ei drin”.

“Pam a wnaeth yr arweinydd ryddhau ei ddatganiad maleisus yn syth ar ôl i mi ddatgan nad oeddwn am ail-ymuno a grŵp y blaid yn San Steffan, er bod cytundeb y byddai datganiad personol gen i yn cynnig llwybr anrhydeddus?” gofynna.

Mae hefyd yn gofyn a fydd aelodau lleol yn cael gweld y cyngor cyfreithiol gafodd y blaid am ei achos.

“Mae Plaid Cymru yn canolbwyntio ar symud ymlaen yn bositif, mewn undod, er lles y blaid a thrigolion Sir Gâr,” meddai llefarydd ar ran Plaid Cymru wrth ymateb.

Datganiad Adam Price

Yn ei ddatganiad gwreiddiol yn trafod y sefyllfa, dywedodd Adam Price ei fod “yn credu’n gryf na all Jonathan Edwards barhau i gynrychioli Plaid Cymru yn San Steffan ac y dylai ymddiswyddo ar unwaith”.

“Galwaf hefyd ar Jonathan Edwards i adael y blaid,” meddai.

“Nid yw ei weithredoedd yn cynrychioli ein gwerthoedd ac mae ei safle fel AS yn anfon y neges anghywir at oroeswyr cam-drin domestig yng Nghymru a thu hwnt.

“Hoffwn ddiolch i Emma Edwards am siarad ddoe ac iddi wybod bod ei llais wedi’i glywed.

“Hoffwn hefyd gynnig fy ymddiheuriadau iddi hi a’r holl oroeswyr cam-drin domestig am y boen y mae hyn wedi’i achosi.

“Rhaid i’n prosesau disgyblu newid i roi rôl ganolog i ddioddefwyr trais ar sail rhywedd mewn unrhyw ymchwiliadau.

“Bydd y gwaith hwn yn dechrau ar unwaith a bydd yn derbyn y brys a’r difrifoldeb y mae’n amlwg yn ei haeddu.”

Datganiad Jonathan Edwards

Mewn datganiad ganddo yntau, dywedodd Jonathan Edwards fod rhai o aelodau Plaid Cymru “wedi ymosod yn ddialgar” arno, a’i fod e “wedi cydymffurfio â’r blaid a’u gofynion” ond na fydd yn ailymuno â nhw.

“Dw i erioed wedi gwneud unrhyw ddatganiadau cyhoeddus am fy mywyd personol nag am sut oedd y blaid yn delio gyda fy achos,” meddai.

Dywedodd “ein bod mewn amgylchedd peryglus iawn pan nad oes lle i unrhyw un yn y sffêr gyhoeddus i siarad yn onest am y camgymeriadau y maen nhw’n gwneud”.

Ac aeth yn ei flaen i gyhuddo “rhai gwleidyddion o gamddefnyddio eu pŵer” i ymosod arno’n wleidyddol, a chyhuddo’r blaid o fethu â’i “ddiogelu” wrth i “fy mywyd personol a phroffesiynol dorri’n deilchion”.

Cronfa ymgyrchu wleidyddol

Dydy hi ddim yn ymddangos bod gan Jonathan Edwards unrhyw fwriad o gamu’n ôl o’r byd gwleidyddol, er nad yw’n rhan o grŵp seneddol Plaid Cymru mwyach.

Yn ddiweddar, mae wedi lansio ‘cronfa ymgyrchu wleidyddol’, a’r gred yw ei fod yn ystyried sefyll yn annibynnol yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

“Mae bywyd cyhoeddus yn anodd yn enwedig amser mae ‘ffrindiau gwleidyddol’ o ddegawdau yn eich tanseilio, pan maen nhw’n llwyr ymwybodol o’r cefndir a gwirionedd,” meddai wedi i’r gronfa gael ei lansio.

“Mae pob neges o gefnogaeth yn meddwl cymaint. Fe ddaw cyfle yn hwyrach i adrodd fy ochr i o’r stori.

“Rwy’n ddiolchgar iawn i’r sawl sydd wedi cyfrannu yn ariannol i’r gronfa ymgyrchu wleidyddol.

“Rwy’n hapus i adrodd bod miloedd wedi ei gasglu yn barod i gefnogi ymgyrchoedd gwleidyddol dros y cyfnod nesaf.

“Hanfodaeth democratiaeth yw dewis. Y bobol ar ddiwedd y dydd, un ffordd neu’r llall, bydd yn beirniadu gweithredoedd Arweinyddiaeth Plaid Cymru yn yr ardal yma o Gymru.”