Byddai “unrhyw blaid gydag asgwrn cefn wedi diarddel” Jonathan Edwards, yn ôl y cyn-newyddiadurwr a sylwebydd gwleidyddol Gareth Hughes.

Daw hyn ar ôl i wraig y gwleidydd sydd wedi ailymuno â grŵp Plaid Cymru yn San Steffan ddweud ei bod hi wedi’i “siomi” ei fod wedi ei adfer yn llwyr fel Aelod Seneddol.

Bydd y ddau bellach yn ysgaru.

Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd Emma Edwards nad yw ei gŵr wedi “derbyn cyfrifoldeb am yr hyn ddigwyddodd” a bod ei groesawu’n ôl i’r gorlan yn anfon neges “nad yw goroeswyr cam-drin domestig o bwys”.

“Er bod Jonathan wedi mynychu cwrs cam-drin domestig ar-lein, nid oedd yn derbyn cyfrifoldeb am yr hyn a ddigwyddodd, gan leihau’r digwyddiad,” meddai.

“Roedd hyn yn golygu na fyddai unrhyw gymodi.

“Efallai fy mod yn naïf i feddwl y gallai fod.”

‘Y gwirionedd yn cael ei gamliwio’

Ychwanegodd fod y datganiad a gafodd ei gyhoeddi ar y pryd yn dweud ei bod yn derbyn ymddiheuriad ei gŵr, oedd wedi cael ei ysgrifennu ar ei rhan gan swyddog y wasg Jonathan Edwards.

“Dywedwyd wrthyf mai dyna fyddai’r ffordd orau i’w hatal rhag bod yn stori,” meddai wedyn.

“Rwy’n difaru nawr dweud y geiriau hynny gan eu bod wedi cael eu defnyddio i esgusodi gweithred Jonathan,” meddai.

“Rwyf wedi dysgu ers hynny ei fod yn cyflwyno ei hun fel y dioddefwr yn hyn i gyd a dyna pam rydw i nawr yn ceisio cywiro hynny.

“Rwyf wedi cael fy arswydo ac yn siomedig bod y blaid yr oeddwn yn aelod ohoni tan yn ddiweddar wedi derbyn rhywun sydd wedi cam-drin yn ddomestig i’w cynrychioli fel Aelod Seneddol.

“Mae hyn yn danfon neges nad yw merched o bwys ac nid yw goroeswyr cam-drin domestig o bwys. Roeddwn bob amser yn credu bod Plaid Cymru yn well na hyn.

“Hyd yn hyn, rwyf wedi cadw’n ddistaw. Nid wyf yn berson gwleidyddol ac nid wyf yn chwilio am gyhoeddusrwydd… Ni allaf sefyll o’r neilltu tra bod y gwirionedd yn cael ei gamliwio.”

‘Safonau yn beth pwysig mewn gwleidyddiaeth’

Wrth siarad â golwg360, dywed Gareth Hughes fod Plaid Cymru yn ildio’r hawl i “siarad am gydraddoldeb rhwng menywod a dynion” drwy adfer Jonathan Edwards yn llwyr fel Aelod Seneddol.

“Roedd y drosedd yn un ddifrifol a byddai unrhyw blaid gydag asgwrn cefn wedi ei ymddiswyddo [sic] yn gyfangwbl,” meddai.

“Y peth ydi, os wyt ti’n wrthblaid ac yn dal pobol eraill i safon uchel, fel y dylech chi, mae hynny yn golygu y dylech chi hefyd fod yn anelu at safon uchel, a dydy hyn ddim yn safon uchel o gwbl.

“Dw i’n meddwl bod safonau yn beth pwysig mewn gwleidyddiaeth.

“Er enghraifft, mae pawb wedi bod yn beio’r Torïaid am y partïon yn Rhif 10 a’r hyn yr oedden nhw yn ei ddweud oedd bod yna un rheol i wleidyddion ac un rheol i bawb arall.

“Mae’r un egwyddor yn wir i Blaid Cymru, ac os ydi eu gwleidyddion yn torri rheolau, neu’n torri’r gyfraith yna mae’n rhaid iddyn nhw dderbyn eu cosb ac yn yr achos hwn fe ddylai’r gosb fod yn ymddiswyddiad a gadael y Senedd.

“All Plaid Cymru ddim siarad am gydraddoldeb rhwng menywod a dynion os ydyn nhw’n bihafio fel hyn.

“Mae trosedd yn erbyn menywod yn uffernol o uchel yn y wlad hon, ac mae’n rhaid ar bob cyfle gymryd y siawns i ddangos nad dyna’r ffordd i bobol ymddwyn ac mae hynny yn cyfrif i Blaid Cymru hefyd.

“Does yna ddim rheswm o gwbl, yn fy nhyb i, iddyn nhw beidio cymryd y cam o’i ddiarddel o’r blaid a’i ddiarddel o’r senedd.

“Mae o fel petaen nhw’n meddwl bod hyn yn rhywbeth dibwys, dyna’r neges maen nhw’n ei hanfon.

“Ocê, mae o wedi cael ei gosb am flwyddyn a hyn a’r llall, ond mi ddylai’r gosb yna fod yn fwy.

“Ac fel rydan ni’n ei wybod nawr o be’ mae ei wraig o wedi dweud, rhywun arall oedd wedi ysgrifennu datganiad yn dweud ei bod hi’n derbyn ei ymddiheuriad.

“A dydy hi ddim yn ymddangos ei fod o wedi edifarhau.

“Mae o’n sefyllfa drist ac mae’n rhaid iddo fo ddelio gyda’i gydwybod ei hun.

“Ond mae’n rhaid iddo fo, yn fy nhyb i, sefyll i lawr.”

‘Pobol yn anghofio reit sydyn mewn gwleidyddiaeth’

Er gwaethaf difrifoldeb y sefyllfa, dyw Gareth Hughes ddim yn rhagweld y bydd yn cael “llawer o effaith” ar obeithion Jonathan Edwards o gael ei ailethol yn yr etholiad cyffredinol nesaf pe bai’n dewis sefyll.

“Y diffyg ydi fod pobol yn anghofio reit sydyn mewn gwleidyddiaeth,” meddai.

“Mae’n debyg y bydd hyn yn ffrae fewnol i Blaid Cymru am beth amser, ond yn anffodus dw i ddim yn meddwl y bydd o’n cael llawer o effaith ar ei siawns o gael ei ailethol petai o’n sefyll eto.

“Mae hynny yn codi tristwch i mi i fod yn onest, ond mae pobol yn dueddol o anghofio yn sydyn iawn.”

Dadansoddiad

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru wrth golwg360 nad yw’r blaid am “ddweud dim” yn dilyn sylwadau Emma Edwards.

Dyma blaid sydd wedi treulio blynyddoedd lawer yn ceisio perswadio pobol Cymru eu bod nhw un: yn cynnig dewis amgen i bleidleiswyr nag ystrydebau cyfarwydd Llafur a’r Blaid Geidwadol, a dau: yn blaid y gall y cyhoedd ymddiried ynddi i lywodraethu. Ac eto, wrth iddi wynebu argyfwng sy’n bygwth dadrithio pleidleiswyr yn ogystal ag achosi rhaniadau mewnol dwys, does gan y Blaid ddim ymateb – radio silence.

Pe bai un aelod o un o’r pleidiau eraill wedi ffeindio ei hun mewn ffasiwn lanast fe alla i eich sicrhau y byddai golwg360 yn derbyn datganiadau lu gan y Blaid yn galw am ymddiswyddiad.

Yn fwy arswydus byth yw’r honiad gan Emma Edwards fod y datganiad gafodd ei ryddhau yn 2020, yn mynegi maddeuant i’w gŵr, wedi cael ei ysgrifennu gan ei swyddog gwasg. Mae’r peth yn drewi!

Yn wir, mae hyn oll yn nodweddiadol o’r agwedd sydd at unrhyw fath o feirniadaeth at sefydliadau Cymraeg. Ond mae un peth yn sicr, mae her fawr wedi cael ei chyflwyno i Blaid Cymru, a hyd yma maen nhw wedi methu’n llwyr â mynd i’r afael â hi.

Ydyn nhw’n sylweddoli difrifoldeb y sefyllfa a’r niwed y mae hyn oll yn mynd i achosi i enw da’r Blaid?

Hyd yma, dyw hi ddim yn ymddangos felly.

  • Mae Plaid Cymru bellach wedi cyhoeddi datganiad, yn dilyn y datganiad gan Emma Edwards:”Mae Plaid Cymru yn credu bod yn rhaid gwrando ar lais dioddefwyr trais domestig, ac mae’r blaid yn ystyried yn ofalus oblygiadau datganiad cyhoeddus Emma Edwards a pha gamau all fod angen eu cymryd o ganlyniad i’w datganiad,” meddai llefarydd.