Mae cwmni ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi ildio eu nod masnach ar y geiriau cariad, hiraeth a chacennau cri yn dilyn pwysau gan y cyhoedd a deiseb a oedd wedi ei llofnodi gan dros 6,000 o bobol.

Cafodd y geiriau eu nod masnach gan y cwmni Fizzy Foam ar ôl gwneud cais i’r Swyddfa Eiddo Deallusol.

Mae Amanda James, perchennog y cwmni Gweni a sylfaenydd y ddeiseb, nawr yn teimlo rhyddhad ond yn galw am stopio busnesau rhag gallu hawlio geiriau cyffredin.

‘Berchen i bawb’

Roedd hi wrth ei bodd yn clywed y newyddion bod Fizzy Foam wedi ildio eu hawliau.

“Ro’n i mor hapus i glywed ac mae’n newyddion arbennig i fusnesau,” meddai wrth golwg360.

“Rhwng pob un ohonom ni, trwy weithio fel tîm, ni wedi cael y llwyddiant yma.

“Do’n i methu gweld sut ar y ddaear y byddai’r peth yn cael ei weithredu ganddyn nhw wrth ystyried bod gymaint o gwmniau yn defnyddio’r termau yma.

Cannwyll Gweni

“Geiriau cyffredin y’n nhw. Ein geiriau ni y’n nhw. Maen nhw’n eiriau sy’n berchen i bawb ac i’r iaith Gymraeg.

“Roedd yr holl syniad o gofrestru y rhain yn wirion i fi.”

Dod ynghyd mewn protest

Daeth Gweni a chwmni Cowbois at ei gilydd ar hap mewn protest yn erbyn hawlio’r geiriau wrth iddyn new ryddhau cynnyrch ‘Cariad Hiraeth Welsh Cake’.

“Mae yna syniad am amddiffyn yr iaith a fi’n credu roedd y tri therm wedi dod i symboleiddio’r achos,” meddai wedyn.

“Ro’n i wedi creu’r gannwyll ar gyfer ffair lawr ym Mae Caerdydd ac wedyn roedd Cowbois wedi gwneud y crys-T ar yr un amser.

“Roedd pobol yn prynu’r canhwyllau ac yn dweud ’dw i ddim am losgi hwn, dw i jest am gadw hwn am byth’.

‘Difrod wedi’i wneud’

Dywed Amanda James ei bod hi’n ddiolchgar i bawb a wnaeth lofnodi’r ddeiseb, ond mae hi’n gobeithio y bydd ffordd o sicrhau nad yw hyn yn gallu digwydd eto.

“Fi’n credu bod hwn yn rhywbeth sydd ddim jest yn digwydd yma yng Nghymru, mae’n rywbeth sy’n digwydd dros y byd i gyd,” meddai.

“Mae geiriau cyffredin yn mynd tu hwnt i remit y Swyddfa Eiddo Deallusol byswn i’n dweud.

“Os byddwn i’n eistedd lawr a chreu rhyw fath o linell neu englyn, digon teg!

“Ond dyw e ddim yn reit bod pobol yn gallu bachu ar eiriau Cymraeg y ffordd yma.

“Mae e jest yn rhyfedd fod pobol yn gallu hawlio geiriau cyffredin.”

“Yn bendant mae angen deddf sy’n gadael i’r geiriau yma  gael eu defnyddio gan bawb, heb os! Dyna fyddai’n ddelfrydol.

“Fi’n credu mae e bach rhy hwyr nawr. Mae’r difrod wedi’i wneud i’w cwmni nhw.

“Ond gobeithio bydd yr achos yma’n gweithio fel ataliad i fusnesau eraill sydd moyn gwneud rhywbeth tebyg.”

Mae hi wedi cysylltu â’i Haelod o’r Senedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Sarah Murphy, ond heb gael llawer o lwc hyd yn hyn, meddai.

Mae hi’n gobeithio y bydd Aelodau o’r Senedd nawr yn ceisio sicrhau bod geiriau cyffredin fel hyn yn cael eu gwarchod.