Bydd S4C yn noddi gorymdaith Pride Cymru eleni, a hynny am y tro cyntaf erioed.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd yn ystod penwythnos Gŵyl Banc mis Awst, ac mae’n fan cychwyn ar gyfer partneriaeth hirdymor rhwng S4C a Pride Cymru, gyda’r darlledwr wedi ymrwymo i wella cynhwysiant ar y sgrîn ac oddi arno.

Dyma’r tro cyntaf ers 2019 hefyd i Pride Cymru gael ei gynnal yn fyw ac wyneb yn wyneb – y tro hwnnw, roedd tua 15,000 yn rhan o’r orymdaith liwgar yn y brifddinas.

Ond mae cefnogwyr LHDTC+ wedi bod yn gorymdeithio trwy strydoedd Caerdydd ers 1985, ac mae’r digwyddiad wedi tyfu’n sylweddol dros y blynyddoedd.

Bellach, mae’n un o uchafbwyntiau penwythnos Pride Cymru ers 2012, gan sicrhau ei le fel un o ddigwyddiadau mwyaf lliwgar Caerdydd.

Yn ystod Pride Cymru, bydd gweithwyr S4C yn ymuno â’r orymdaith ac yn cefnogi’r digwyddiad.

‘Cerdded law yn llaw’

“Rydyn ni’n gyffrous iawn i gefnogi a bod yn rhan o parêd Pride Cymru eleni,” meddai Nia Edwards-Behi, Swyddog Amrywiaeth a Chynhwysiant S4C.

“Bydd bod yn rhan o’r digwyddiad, a gwahodd pobl sy’n gwneud ein cynnwys i orymdeithio gyda ni, yn dangos ein hymrwymiad i gerdded law yn llaw â’r gymuned LHDTC+.

“Mae hefyd yn ddechrau ar bartneriaeth newydd gyffrous gyda Pride Cymru, a fydd yn ein harwain wrth i ni geisio sicrhau bod y gymuned LHDTC+ yn cael eu cynrychioli’n well.

“Fe fyddwn ni yna drwy gydol dathliadau’r penwythnos.

“Gall unrhyw un sy’n rhan o ddathliadau’r penwythnos ymweld â ni ar stondin S4C.

“Byddwn yno i wrando ar eich syniadau ar sut y gallwn gynrychioli’r gymuned yn well ar draws ein gwahanol blatfformau yn y dyfodol, yn ogystal â darganfod sut y gallwn gefnogi ac annog ein ffrindiau LHDTC+ i ffynnu o fewn y sector darlledu.”

‘Un o’n huchafbwyntiau bob blwyddyn’

“Mae’r orymdaith yn un o’n huchafbwyntiau bob blwyddyn,” meddai Gian Molinu, cadeirydd Pride Cymru.

“Rydyn ni wrth ein bodd i gael S4C yn rhan ohono fel noddwr y parêd.

“Mae eu hymrwymiad i sicrhau cynrychiolaeth yn eu cynnwys a datblygu talent ar draws gwahanol gymunedau yng Nghymru yn ysbrydoliaeth.

“Mae ymrwymiad cyhoeddus S4C i ni fel elusen ac i’r gymuned LHDTC+ ehangach yn amhrisiadwy.

“Mae eu cyfraniad yn dangos fod Pride yn bwysig, ac y dylid dathlu amrywiaeth o fewn cymdeithas.”

Bydd Pride Cymru yn cael ei gynnal ar Awst 27-28, a’r parêd am 11.00yb ar y dydd Sadwrn.