Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu polisi twristiaeth Llywodraeth Cymru, ar ôl i un atyniad yn y de wahardd y Prif Weinidog Mark Drakeford a’i weinidogion rhag mynd yno.

Mae Ashford Price, cadeirydd Dan yr Ogof yn Abercrâf ger Abertawe, yn dweud nad oes croeso iddyn nhw yn sgil eu polisïau ar ail gartrefi a llety gwyliau sydd, meddai, yn lladd y diwydiant.

Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, mae’r polisi’n golygu bod miloedd o swyddi yn y fantol a hynny o ganlyniad i’w safiad ar y dreth dwristiaeth, ail gartrefi a’r posibilrwydd o newid gwyliau’r haf.

Mae’r blaid yn amddiffyn safiad Dan yr Ogof fel “gweithred symbolaidd”, safiad yn erbyn “arweinwyr ym Mae Caerdydd” ac fel arwydd o undod gyda busnesau twristiaeth.

Yn 2018, fe wnaeth ymwelwyr dros nos â Dan yr Ogof wario £2bn, meddai’r blaid.

“Mae’r gwaharddiad hwn wedi dod gan atyniad twristaidd Cymreig rhyfeddol sy’n denu £2bn i economi Cymru,” meddai Tom Giffard, llefarydd twristiaeth y Ceidwadwyr Cymreig.

“Mae angen i Lafur ailystyried eu polisïau gwrth-dwristiaeth a rhoi economi Cymru uwchlaw eu hagenda genedlaetholgar.

“Mae pobol yn hollol iawn wrth dynnu sylw at y ffaith fod miloedd o swyddi yn y fantol yn sgil ymosodiad Llafur ar y diwydiant twristiaeth yma yng Nghymru.

“P’un ai’r dreth dwristiaeth, torri i lawr ar ail gartrefi neu newidiadau posib i wyliau’r haf yw e, dydy Llafur yn amlwg ddim yn deall twristiaeth yng Nghymru.”