Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynnal ymchwiliad i ledaeniad Covid-19 mewn cartrefi gofal, ond yn pwyso o hyd am ymchwiliad Covid-19 penodol i Gymru.
Daw hyn ar ôl i deuluoedd sy’n galaru ymgyrchu am ymchwiliad yn dilyn marwolaethau eu hanwyliaid yn ystod y pandemig.
“Rydyn ni wedi gofyn yn barhaus @PrifWeinidog am ymchwiliad i gartrefi gofal yng Nghymru yn ystod y pandemig (yn bennaf fel rhan o #YmchwiliadCovidCymru,” meddai’r grŵp ar Twitter.
“Ddoe, fe wnaethon ni egluro iddo eto ar ôl 2.5 flynedd fod ein teuluoedd sy’n galaru yn dechrau rhoi’r gorau i gael unrhyw atebion fyth o ran sut/pam y bu farw eu hanwyliaid mewn cartrefi gofal.
“Mae e fel arfer yn ein cyfeirio ni at @covidinquiryuk.
“Ond ddoe, wnaethon ni ddim sôn am #YmchwiliadCovidCymru na @covidinquiryuk ac yn hytrach, fe wnaethon ni gyfeirio at ymchwiliadau @LlywodraethCymru sydd ar y gweill ar hyn o bryd i Covid mewn ysbytai.
“Sut allwch chi anwybyddu’r teuluoedd cartrefi gofal hynny @PrifWeinidog?
“Mae angen eich help chi arnyn nhw.
“Aeth @PrifWeinidog yn ei flaen i egluro ei bod hi’n anodd oherwydd bod cartrefi gofal dan berchnogaeth breifat a chyhoeddus, “ond er ei bod hi’n anodd, dydy hynny ddim yn golygu na ddylai @LlywodraethCymru wneud dim byd”.
“Yna fe roddodd ei ymrwymiad y BYDDAI ymchwiliad i gartrefi gofal yn ystod y pandemig YN digwydd yng Nghymru.
“Does gennym ni ddim syniad o ran y sgôp a.y.b. ond mae’r ymrwymiad hwn i’w groesawu’n fawr gan ein teuluoedd sy’n galaru.
“Byddwn ni’n rhoi diweddariad cyn gynted â phosib. Diolch.”
‘Atebion o’r diwedd – dydy hi ddim yn rhy hwyr’
“Mae i’w groesawu’n fawr y bydd yna ymchwiliad i ledaeniad Covid mewn cartrefi gofal, nawr bydd teuluoedd sy’n galaru’n cael atebion cyn bo hir, o’r diwedd, ynghylch heintiau yn yr ysbyty – sy’n gyfrifol am chwarter holl farwolaethau Covid yng Nghymru,” meddai Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.
“Fodd bynnag, mae hyn yn codi’r cwestiwn pam fod llywodraeth Mark Drakeford yn atal ymchwiliad Covid penodol i Gymru sy’n cwmpasu eu holl weithredoedd wrth ymateb i’r pandemig.
“Efallai ei bod oherwydd y byddai ymchwiliad yn datgelu eu holl fethiannau, lle bydd yr ymchwiliad hwn ond yn edrych ar gartrefi gofal, sy’n fentrau preifat ar y cyfan.
“Dylai Llafur beidio rhedeg mewn ofn rhag craffu, cofleidio’r atebolrwydd sy’n gorfod dod gyda’r defnydd mwyaf eang o bwerau brys yn hanes datganoli, ac ildio’u hunain i ymchwiliad Covid penodol i Gymru.
“Dydy hi ddim yn rhy hwyr.”