Ydach chi’n cofio’r tro cynta’ i chi weld afocado neu flasu hufen iâ? Ydy arogl rhai bwydydd yn mynd a chi nôl i’ch plentyndod neu wyliau hudolus yn yr haul? Mae’r gyfres newydd yma’n bwrw golwg ar atgofion rhai o wynebau cyfarwydd Cymru am fwyd a sut mae hynny wedi dylanwadu eu harferion bwyta heddiw. Y gantores a’r bardd, Gwyneth Glyn, sy’n byw yng Nghricieth yn Eifionydd, sydd Ar Blât yr wythnos hon…
Fy atgof cyntaf o fwyd, neu o flas, ydi rhywbeth fyddwn i’n ei alw’n “Diod tsioc-tsioc” sef siocled poeth Cadbury’s mewn cwpan Tommee Tippee las. Pan o’n i’n fach byddai fy nhad yn paratoi hwn i mi’n ofalus bob bore. Un diwrnod, a Dad i ffwrdd yn gweithio (roedd o’n actor felly byddai’n teithio am gyfnodau’n bur aml) a finnau’n ysu am ddiod tsioc-tsioc, a Mam yn rhy brysur, dyma fi’n dringo stôl uchel er mwyn cyrraedd y potyn piws eiconig yn y cwpwrdd. Yna, dyma fi’n agor y caead, plannu llwy i ganol y coco, ei chodi at fy ngheg a’i lowcio… ac yna poeri’r powdwr sych allan yn syth gan duchan! Siom enbyd… Pam nad oedd hwn yn blasu fel y ddiod a lanwai fy nghwpan las bob bore!?
Mae bwyd wedi bod yn bwysig iawn i ni fel teulu erioed. Roedd fy nain ar ochr fy mam yn confectioner yng Nghaffi Idris, Cricieth, ac yn chwip o gogyddes. Roedd ei gŵr, fy nhaid, yn cadw siop ffrwythau, llysiau a physgod (er ei bod yn gas ganddo bysgod a chiwcymbar â chas perffaith!) Mi etifeddodd Mam ddawn Nain yn y gegin, ac a hithau’n athrawes gynradd ac athrawes Ysgol Sul brysur, roeddan ni’n lwcus ei bod hi a ‘Nhad wastad yn morol fod yna swper maethlon i mi a’m chwiorydd, a byddai’r sgwrs o amgylch y bwrdd yr un mor flasus.
Ar achlysuron arbennig byddai Mam yn codi efo’r wawr ac wrthi fel corwynt yn paratoi gwledd heb ei hail. Un o’i chreadigaethau hyfrytaf fyddai Squidgy Log – sef cacen siocled ddi-flawd, nefolaidd-o-ysgafn a phechadurus-o-hufennog Delia Smith. Fyddai bwffe Gŵyl San Steffan Anti Myfanwy byth yn gyflawn heb Sgwiji Log Mam, a byddai’n amlwg i bawb os oedd unrhyw un o ferched niferus y teulu yn feichiog, achos byddai honno’n gorfod gwrthod tafell o’r anfarwol Sgwiji Log gan fod yna wyau amrwd ynddi!
I mi, mae yna gysur mewn pethau syml a chyfarwydd: cawl cennin blasus, caserol cyw iâr efo garlleg a hufen, rôls ffres o Gaffi Idris yn drwch o fenyn hallt… ac, wrth gwrs, unrhyw beth siocledaidd a thywyll.
Mae yna wneuthurwr siocled gwych o Gymru o’r enw Pablo Spaull sy’n cynhyrchu siocled organig Forever Cacao efo ffa coco Asháninka masnach deg o goedwig law Periw. Un Dolig mi rois i un o’i fariau 100% coco yn anrheg i’r actores Valmai Jones. Roedd hithau draw yn nhŷ fy chwaer, Lusa, yn cael cinio Dolig, a dyma Val yn rhannu tamaid bach o’r siocled efo pawb oedd gylch y bwrdd. A wir i chi, roedd pawb yn taeru fod popeth i’w weld yn gliriach, a lliwiau i’w gweld yn gryfach am sbel wedyn!
Fy mhryd bwyd delfrydol fyddai swper efo’r teulu i gyd ym mwyty Platanos, Assos – pentref glan môr bach hyfryd ar ynys Ceffalonia [yng Ngwlad Groeg]. Mae’r perchennog yn dipyn o gymeriad, ac yn dod â dŵr i’ch dannedd wrth ddisgrifio seigiau lleol y dydd yn afieithus – calamari ffres o’r môr, stifado gafr neu gwningen, tatws lemon a theim, caws saganaki euraid wedi ei bobi… Mae’r bwyd yn wefreiddiol a’r awyrgylch yn deuluol-gysurus a hamddenol.
Fel hogan o Eifionydd, mae hufen iâ Cadwaladers yn fy ngwaed. Fy hoff ddull o fwyta’r enwog ‘99’ ydi gwthio’r fflêc i waelod y côn a chymryd fy amser… Weithiau, erbyn imi gyrraedd y gwaelod, mi fydda i wedi anghofio am y fflêc – a dyna ichi wefr o’i ganfod yno, fel trysor cudd wedi’i gladdu.
Ar ôl chwarae gig a chyrraedd adref yn hwyr ac ar fy nghythlwng, does dim byd gwell na phlatiad o gaws ar dost, efo llwyth o bupur du a sôs coch (tydi hwnnw ddim at ddant pawb, ond dw i wrth fy modd efo’r stwff).
Fuo gen i erioed fynadd chwipio menyn a siwgwr am hanner awr wrth ddechrau gwneud cacen. Mae hon yn gacen ddi-chwipio, ddi-lol a di-flawd. Mae yna fersiwn hyfryd efo clementin yn unig, ond dw i’n gwirioni ar y cyfuniad o siocled ac oren, felly dyma ni, gyda diolch i’n cyfeilles ni oll, Nigella Lawson!
Cacen siocled oren (o lyfr Nigella Lawson ‘Feast’)
Cynhwysion:
2 oren bach neu un mawr, tua 375g
6 wy
1 lwy de lwythog o bowdr pobi (baking powder)
Hanner llwy de o bicarbonate of soda
200g o almwns mân
250g o siwgwr mân (llai os dymunir)
50g o goco
Croen oren i addurno os dymunir
Dull:
- Cynheswch y popty i 180 gradd C, marc nwy 4. Irwch a leiniwch dun crwn tua 20cm go ddyfn.
- Rhowch yr orennau’n gyfa’ mewn dŵr a’u berwi am 2 awr tan yn feddal (gallwch wneud hyn y noson cynt os ydach chi’n drefnus! Gallwch hefyd wneud dwbwl a’i rewi ar gyfer y tro nesa, i arbed ynni prin.)
- Sychwch yr orennau, a phan maen nhw wedi oeri, tynnwch unrhyw hadau mawr allan.
- Rhowch yr orennau mewn prosesydd bwyd a’u mathru’n fân (neu wneud hynny â llaw – gwelwch isod).
- Ychwanegwch bopeth arall at yr orennau yn y prosesydd (yr wyau, powdr pobi, bicarb, almwns, siwgwr a’r coco) a’i gymysgu’n drwyadl, ond nid cymaint nes bod y darnau bach o oren mân yn diflannu. Os ydach chi’n gweithio â llaw, mathrwch yr orennau’n fân â’ch dwylo, a churwch yr wyau fesul un i mewn i’r siwgwr, bob yn ail â llwyaid o’r almwns mân a’r coco, yna ychwanegwch yr orennau, er mae’n rhaid imi gyfaddef nad ydw i na Nigella ond wedi gwneud hon y ffordd ddiog!
- Ewch ati i dywallt a chrafu’r cymysgedd i’r tun. Pobwch am awr, pan ddylai sgiwar ddod allan yn eithaf glân. Cymrwch gip ar y gacen ar ôl 45 munud rhag ofn bod angen ei gorchuddio â ffoil, rhag iddi losgi cyn iddi goginio drwyddi. Efallai na fydd angen awr ar ei hyd, mae’n dibynnu ar eich popty.
- Gadewch iddi oeri yn y tun, ar rac oeri. Pan fydd hi’n oer, tynnwch hi allan o’r tun.
- Addurnwch y gacen â stribedi hir o groen oren neu gratiwch y croen os dymunwch. Ond mae hi’n dywyll a gogoneddus yn union fel mae hi, yn blaen a diaddurn.
Dyma linc i rysáit Nigella Lawson.