Mae Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor, sy’n cynrychioli Dwyfor Meirionnydd yn San Steffan ac yn y Senedd, yn galw ar Drysorlys y Deyrnas Unedig i leddfu’r baich ar ofalwyr a gweithwyr cymorth sy’n ddibynnol ar eu cerbyd eu hunain at ddefnydd busnes.
Mae’n annog y Trysorlys i gynyddu’r trothwy treth ar gyfer costau teithio sy’n cael eu talu i weithwyr awdurdod lleol Gwynedd i adlewyrchu’r argyfwng costau byw a natur wledig yr ardal lle maen nhw’n gweithio.
Dywed fod y cynnydd sylweddol mewn costau tanwydd ynghyd â chwyddiant a chyfraddau llog cynyddol eisoes yn effeithio’n ddifrifol ar ofalwyr a’r rhai sy’n cefnogi pobol fregus yn y gymuned.
‘Gwerthfawrogi gofalwyr’
“Dylid adolygu’r trothwy ar gyfer codi treth ar gostau teithio fel mater o frys a’i gynyddu i helpu i leddfu’r baich ar weithwyr sy’n ddibynnol ar gerbyd eu hunain i deithio yn rhinwedd eu swydd,” meddai Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor.
“Dylai hefyd adlewyrchu gwir gost tanwydd a’r costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â gweithio ar draws cymunedau gwasgaredig a gwledig lle mae defnyddio cerbyd at ddefnydd busnes yn anghenraid.
“Mae llawer o weithwyr yr awdurdod lleol yng Ngwynedd yn gwneud defnydd rheolaidd o’u cerbyd eu hunain at ddibenion gwaith.
“Mae’r rhai sy’n gofalu am bobol fregus yn eu cartrefi er enghraifft, yn teithio pellteroedd maith wrth fynd o un apwyntiad i’r llall.
“Dylid gwerthfawrogi bod gofalwyr a gweithwyr cymorth yn arbennig yn ymweld â llawer o bobol yn ystod diwrnod gwaith – gyda llawer yn gweithio ar draws cymunedau anghysbell a diarffordd.
“Mae’r baich tanwydd a roddir ar y gweithwyr hyn wedi cynyddu’n aruthrol.
“Tra bod Cyngor Gwynedd yn gweithio i gefnogi gweithwyr trwy’r argyfwng costau byw digynsail hwn, dylai llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd ddefnyddio’r arfau sydd ganddi i liniaru’r baich treth ar weithwyr a darparu iawndal digonol i’r rhai sydd lleiaf abl i ddygymod â’r argyfwng presennol.”
‘Cyfnod arbennig o heriol’
“Gyda chostau tanwydd yn codi i’r entrychion, ynghyd â chostau byw cynyddol – mae’n gyfnod arbennig o heriol a phryderus i ofalwyr a gweithwyr allweddol eraill awdurdodau lleol sy’n gwasanaethu ein cymunedau yng Ngwynedd,” meddai’r Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn, sydd wedi bod yn cyfarfod â gofalwyr yn Nhrawsfynydd.
“Mewn ymateb i’r pwysau ariannol di-ildio ar weithwyr sy’n dibynnu ar eu cerbyd eu hunain i gyflawni eu dyletswyddau o ddydd i ddydd, rydym wedi dechrau’r ddeiseb hon yn annog llywodraeth San Steffan i weithredu’n ddiymdroi a gwneud pethau ychydig yn haws ac yn decach i ofalwyr a gweithwyr eraill.
“Mae gan y Trysorlys y modd i gynyddu’r trothwy ar gyfer talu treth ar gostau teithio – byddai hyn yn galluogi gweithwyr rheng flaen fel gofalwyr i gadw mwy o’u harian parod – ar adeg pan fo pob ceiniog yn cyfrif.”