Mae Ben Lake yn galw am gefnogaeth gyfystyr â ffyrlo i helpu busnesau sy’n wynebu’r argyfwng ynni, gan rybuddio bod diffyg gweithredu gan San Steffan yn difetha busnesau’n ariannol.

Daw’r alwad gan Aelod Seneddol Plaid Cymru yng Ngheredigion wrth i’r Deyrnas Unedig aros i weld pwy fydd yn olynu Boris Johnson wrth i’r Blaid Geidwadol ddewis y prif weinidog nesaf.

Mae Ben Lake eisiau gweld y cap ar brisiau’n cael ei ostwng i’w lefelau cyn mis Ebrill, a’i ymestyn i fusnesau bach ac elusennau gan nad ydyn nhw’n cael eu gwarchod gan gap ar hyn o bryd.

Mae 99.4% o fusnesau Cymru’n fusnesau bach neu ganolig, gan ddarparu 62.6% o swyddi’r sector preifat yn y wlad, tra bod 95% o fusnesau Cymru’n feicro-fusnesau sy’n cyflogi hyd at naw o weithwyr yr un.

O ystyried pwysigrwydd y busnesau hyn i’r economi yng Nghymru, mae Ben Lake o’r farn fod rhaid i’r prif weinidog nesaf – naill ai Liz Truss neu Rishi Sunak – gydnabod “heb yr un lefel o gefnogaeth i fusnesau ag a gafodd ei rhoi yn ystod y pandemig, y bydd ein heconomi, yn syml iawn, yn dymchwel”.

Biliau

Yn ôl Ashley Hughes, perchennog siop Premier yn Nefyn, bydd ei filiau trydan misol yn codi o £605.70 i £2,877 ac mae’n cefnogi galwad Plaid Cymru, gan ddweud “heb gefnogaeth San Steffan, bydd trefi fel Nefyn yn troi’n trefi gweigion lle na fydd unrhyw fusnes yn medru aros ar agor”.

“Mae hynny’n frawychus, ac mi fydd yn gwbl anfforddiadwy i fusnesau bach fel ein un ni,” meddai.

“Mae nifer o fusnesau bach cefn gwlad eisoes yn ei chael hi’n anodd oherwydd costau uchel.

“Rwy’n annog y prif weinidog – Truss neu Sunak – i fabwysiadu galwadau Plaid Cymru i ostwng y cap ar brisiau a’i ymestyn o i fusnesau bach.

“Heb y fath weithred, bydd busnesau fel ein un ni’n ei chael hi’n anodd adfer.”

‘Gaeaf llwm’

“Mae parlys y llywodraeth dros yr haf yn golygu bod busnesau bach ar hyd a lled y wlad yn paratoi ar gyfer gaeaf llwm,” meddai Ben Lake, llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys.

“Mae ein prif weinidog nesaf – os gallwn ni gredu’r polau – wedi addo dim byd i aelwydydd neu fusnesau sy’n wynebu chwalfa ariannol ymhen wythnosau’n unig.

“Mae absenoldeb cap ar brisiau ynni i fusnesau’n golygu bod cwmnïau ynni’n ecsbloetio busnesau bach i’r pwynt lle maen nhw’n torri.

“Tra bod corfforaethau mwy yn gallu gochel rhag costau ynni cynyddol, fydd gan gwmnïau llai ddim opsiwn ond cau oherwydd costau anghynaladwy y gaeaf hwn.

“Busnesau bach a chanolig yw asgwrn cefn economi Cymru.

“Heb yr un lefel o gefnogaeth ar gyfer busnesau ag a gafodd ei rhoi yn ystod y pandemig, bydd ein heconomi, yn syml iawn, yn dymchwel.

“Mae angen lefel o gefnogaeth ar raddfa ffyrlo arnom, a dyna pam fod Plaid Cymru’n annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddychwelyd y cap ar brisiau i’w lefel cyn Ebrill a’i ymestyn i fusnesau bach ac elusennau.

“Yn y tymor hirach, mae angen cymysgedd o gefnogaeth ar ffurf grantiau a benthyciadau i fusnesau bach a chanolig gael elwa mwy ar ffynonellau ynni adnewyddadwy a mesurau effeithlonrwydd ynni.

“Heb y fath fesurau, bydd busnesau bach yn parhau i gael eu heffeithio’n anghymesur gan lanw a thrai yn ein marchnad ynni anghynaladwy ac annheg.”