Mae’r penderfyniad i ddod â rhaglen gelfyddydol Stiwdio ar Radio Cymru i ben yn un “gwarthus”, yn ôl arweinwyr yn y maes celfyddydau.

Stiwdio, sy’n cael ei chyflwyno gan Nia Roberts, yw’r unig raglen ar y radio sydd wedi cael ei neilltuo ar gyfer trafod y celfyddydau yng Nghymru, a bydd yn dod i ben yn yr hydref.

Hyd yn hyn, dydy’r BBC heb gadarnhau beth fydd yn dod yn ei lle.

Bydd rhaglen Geth a Ger ar nos Wener yn dod i ben hefyd, a Caryl Parry Jones yn cymryd lle Geraint Lloyd ar y shifft hwyr.

Mae Radio Cymru wedi dweud mai eu “bwriad yn y cyfnod nesaf yw ehangu’r ddarpariaeth gelfyddydol”, ac y bydd y cynlluniau’n cael eu cyhoeddi “maes o law”.

‘Gwarthus’

Yn ôl yr actores Sharon Morgan, mae’r penderfyniad yn gosod gwaith celfyddydol Cymraeg mewn “safle israddol” o ran y BBC, gan nad oes unrhyw gynlluniau i ddod â’r rhaglen Saesneg gyfatebol, rhaglen Nicola Heywood Thomas, i ben.

“Mae’n gwbl warthus nad oes rhaglen yn trafod y celfyddydau yn y naill iaith na’r llall ar y teledu beth bynnag, ac mai dim ond ar y radio gellid dathlu ac archwilio a dadansoddi a hysbysebu’r ystod eang uchel iawn ei safon,” meddai wrth golwg360.

“Mae’n warthus â dweud y gwir, yn enwedig pan fo gymaint o gyfoeth gyda ni yn gelfyddydol ar draws pob disgyblaeth – actorion, cyfarwyddwyr, artistiaid, arlunwyr…

“Mae gyda ni gyfoeth o artistiaid, a does dim byd ar y teledu [chwaith].

“Dyw Radio Wales ddim yn cael gwared ar eu rhaglen nhw drwy gyfrwng yr iaith Saesneg. Roedd Stiwdio yn trafod gwaith yn y Gymraeg a’r Saesneg a thu hwnt, ond wrth reswm yn gallu edrych ar y gwaith sy’n gallu digwydd drwy gyfrwng y Gymraeg – does neb yn mynd i wneud hynny wedyn.

“Mae’n gosod gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg mewn safle israddol o ran y BBC.

“Roedd hi’n rhaglen tu hwnt o ddifyr, tu hwnt o bwysig, nid dim ond i ni sy’n gwneud ein bywoliaeth o’r celfyddydau, ond i’r cyhoedd hefyd.

“Ble mae’r cyhoedd yn mynd i [glywed am bethau sy’n mynd ymlaen]?

“Ydyn ni’n dweud nawr taw dim ond drwy ryw nodyn bach ar y cyfryngau cymdeithasol mae pobol yn mynd i ddod o hyd i bethau.

“Rydyn ni’n sôn am drafodaeth, archwilio, dadansoddi. Dyna i gyd alla i ei ddweud, bod e’n gwbl, gwbl warthus.”

‘Siomedig’

Mae’r colofnydd radio a theledu, Dylan Wyn Williams, yn rhannu’r un ymateb chwyrn hefyd, ac wedi galw’r penderfyniad yn un “siomedig”.

“I genedl sydd newydd roi cymaint o bwys ar y Pethe yn Nhregaron, mae’n rhyfedd ac uffernol o siomedig nad ydi’n cyfryngau ni’n neilltuo rhaglenni penodol i’r celfyddydau. Dim Stiwdio, dim Sioe Gelf, dim byd,” meddai Dylan Wyn Williams wrth golwg360.

“Fydd eitemau byrion rhwng recordiau ar raglenni Aled Hughes a Shan Cothi na phytiau ar Heno byth yn diwallu anghenion y celfyddydau bywiog heddiw serch y pandemig diweddar.

“Mae rhai wedi achub cam y BBC trwy gyfeirio at raglen Dei Tomos ar y Sul, sy’n trafod rhai elfennau llên, ond tydi honno ddim cweit yr un fath.

“Mae Stiwdio yn fformat ardderchog, gydag awr yr wythnos i’r newyddion a’r adolygiadau diweddaraf dan law cyflwynwyr hyddysg yn eu maes fel Nia Roberts a Catrin Beard.

“Roedd rhifyn diweddar ar Llyfr y Flwyddyn yn chwa o awyr iach, gyda beirniadaethau gonest a chytbwys yn lle’r hen arferiad Cymraeg o ganmol dim ond achos ei fod o’n Gymraeg.

“Tydi’r rhaglen ddim at ddant pawb, ac mae’r ffaith bod Radio Cymru yn gorfod bod yn bopeth i bawb yn hen, hen gŵyn.

“Ond siawns na fyddai Radio Cymru 2 estynedig yn cynnig digon o fiwsig a mwydro iddyn nhw yr un amser o’r hydref ymlaen?”

“Siom” llyfrwerthwyr

Mewn llythyr ar y cyd at Dafydd Meredydd, Golygydd BBC Radio Cymru, mae perchnogion a rheolwyr 14 o siopau llyfrau annibynnol Cymru wedi galw arno i ailystyried y penderfyniad.

“Siom o’r mwyaf ydi cael ar ddeall fod Radio Cymru am ddileu’r unig raglen, sef Stiwdio, sydd wedi’i neilltuo ar gyfer trafod y celfyddydau yng Nghymru,” meddai rheolwyr y siopau mewn llythyr sydd wedi cael ei rannu â golwg360.

“Dyma raglen sydd yn rhan annatod o ddiwylliant Cymru, ac fel llyfrwerthwyr, credwn, trwy ddileu’r rhaglen, sy’n cynnwys Y Silff Lyfrau, eich bod yn dileu fforwm drafod holl bwysig i awduron, cyhoeddwyr, llyfrwerthwyr a darllenwyr Cymraeg.

“Mae’r rhaglen hefyd wedi chwarae rhan bwysig yn natblygiad awduron newydd, a meithrin a hybu eu gwaith.

“Mae’r rhaglen yn chwarae rhan bwysig iawn wrth drafod gwobrau llenyddol fel Llyfr y Flwyddyn, a Gwobrau Tir na n-Og, a gresynwn fod y ffasiwn benderfyniad wedi’i wneud i’w dileu.

“Wrth ddatblygu ac ymestyn i gyrraedd gwrandawyr newydd, mae’n allweddol cael cydbwysedd a chadw peth arlwy sy’n apelio at y gynulleidfa draddodiadol sydd wedi bod yn ffyddlon i Radio Cymru dros y blynyddoedd.

“Gofynnwn i chi ail-ystyried eich penderfyniad, a mynd ati rhag-blaen i barhau, a datblygu ymhellach yr arlwy celfyddydol ar Radio Cymru.”

Mae’r llythyr wedi cael ei lofnodi gan reolwyr neu berchnogion Awen Meirion, Y Bala; Awen Menai, Porthaethwy; Bys a Bawd, Llanrwst, Awen Teifi, Aberteifi; Cant a Mil, Caerdydd; Cwpwrdd Cornel, Llangefni; Llên Llŷn, Pwllheli; Palas Print, Caernarfon; Siop Cwlwm, Croesoswallt; Siop Eifionydd, Porthmadog; Siop Elfair, Rhuthun; Siop Na-nOg, Caernarfon; Siop y Siswrn, Yr Wyddgrug; a’r Hen Bost, Blaenau Ffestiniog.

‘Cwbl ymroddedig’

Wrth ymateb, dywed llefarydd ar ran BBC Radio Cymru eu bod nhw’n “gyfan gwbl ymroddedig i roi sylw haeddiannol i’r celfyddydau yng Nghymru”.

“Mae’n gwneud hyn ar draws ystod o raglenni, gan gynnwys oriau lawer o ddarlledu bob wythnos – o raglenni fel Aled Hughes, Bore Cothi i Dei Tomos a Dros Ginio – i enwi ond rhai o raglenni Radio Cymru sy’n rhoi llwyfan i’r celfyddydau drwy gyfrwng y Gymraeg,” meddai.

“Ein bwriad yn y cyfnod nesaf yw ehangu’r ddarpariaeth gelfyddydol a chaiff y cynlluniau hynny eu cyhoeddi maes o law.”

Caryl Parry Jones yn cymryd lle Geraint Lloyd ar Radio Cymru

Radio Cymru wedi cadarnhau bod rhaglenni Geth a Ger a Nia Roberts yn dod i ben ym mis Hydref hefyd