Caryl Parry Jones fydd yn cymryd lle Geraint Lloyd ar y shifft hwyr ar BBC Radio Cymru.

Bydd hi’n cyflwyno bob nos Lun i nos Iau rhwng 9yh a hanner nos o fis Hydref.

Ar ôl cyflwyno ar Radio Cymru ers dros 25 mlynedd, dywedodd Geraint Lloyd wrth golwg360 ei fod mewn “sioc ac yn siomedig” ynghylch penderfyniad Radio Cymru i ddod â’i raglen i ben.

Mewn ymateb, cafodd deiseb ei lansio i achub rhaglen Geraint Lloyd a chafodd ei llofnodi gan 1,800 o bobol hyd yn hyn.

Mae Radio Cymru wedi cadarnhau bod rhaglen Geth a Ger ar nos Wener yn dod i ben hefyd, ynghyd â rhaglen gelfyddydol Stiwdio Nia Roberts.

Bydd Caryl Parry Jones yn cyflwyno ei Sioe Frecwast olaf ar BBC Radio Cymru 2 fore Iau, Medi 29, a bydd cyhoeddiad arall maes o law am arlwy newydd yr orsaf honno.

“Dw i wir yn edrych ymlaen at gyfnod newydd wrth i mi neidio o Radio Cymru 2 i Radio Cymru,” meddai Caryl Parry Jones.

“Ar ôl bron i bum mlynedd o fod yn un o gŵn Caer, dwi am fod yn un o adar y nos gan ddiolch o galon i bawb yn Radio Cymru 2 am gael bod yn rhan o wasanaeth mor hapus ac arloesol.

“Ond ymlaen â ni – ffling i’r cloc larwm a helo slipars a jim-jams a miwsig gora’r nos!”

‘Hwyl a hiwmor’

Dywed Dafydd Meredydd, Golygydd BBC Radio Cymru, ei fod yn “falch iawn” y bydd Caryl Parry Jones yn diddanu cynulleidfaoedd Radio Cymru gyda’r nos.

“Mae Caryl yn enw cyfarwydd i gynulleidfaoedd ar draws Cymru gyfan, ac wrth ddiddanu cynulleidfaoedd ar hyd y blynyddoedd – boed ar y radio, teledu neu mewn cyngherddau – mae hi wedi dod a’i brand unigryw o hwyl a hiwmor i genedlaethau o Gymry.

“Wrth groesawu’r lleisiau newydd rydym hefyd eisiau dangos ein gwerthfawrogiad i’r rheiny sydd wedi bod yn rhan o’r tîm hwyrol dros y blynyddoedd.

“Diolch i Geraint Lloyd, Geth a Ger a Nia Roberts am eu holl waith a’u gwasanaeth i’r orsaf ac edrychwn ymlaen i chwilio am gyfleoedd i gydweithio â nhw eto yn y dyfodol.”

Geraint Lloyd yn “siomedig” gyda phenderfyniad Radio Cymru i ddod â’i raglen i ben

Cadi Dafydd

“Mae’n anodd credu ar ôl yr holl flynydde,” meddai’r cyflwynydd sydd wedi bod ar Radio Cymru ers 25 mlynedd

Deiseb i achub rhaglen Geraint Lloyd yn “syrpreis” i’r cyflwynydd

Elin Wyn Owen

Mae dros 200 o bobol wedi llofnodi’r ddeiseb dros y 14 awr ddiwethaf