Mae pedwar o gantorion yr Urdd wedi teithio draw i America i gynrychioli Cymru ar lwyfan rhyngwladol.

Bydd Siriol Elin o Abergele, Manon Ogwen o Fro Morgannwg, Tomos Bohana o Gaer, a Dafydd Jones o Ddinbych yn cynrychioli’r mudiad ac yn perfformio yng nghyngerdd agoriadol Gŵyl Cymru Gogledd America yn Philadelphia’r wythnos hon.

Mae’r ŵyl yn cynnwys Eisteddfod, cyngherddau, a Chymanfa Ganu, ac yn ystod y trip bydd y pedwar yn cael cyfle i berfformio yn siop enwog Macy’s ac yn cyflwyno diwylliant Cymru ar strydoedd Philadelphia hefyd.

Cafodd y pedwar eu dewis i gynrychioli’r Urdd gan banel o feirniaid yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych eleni ac Eisteddfod T 2021.

‘Hyrwyddo’r wlad a’r iaith’

Mae Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd, wedi ymuno â’r pedwar ar y daith, a dywedodd: “Ers 1922 mae Urdd Gobaith Cymru wedi annog pobl ifanc i wneud gwahaniaeth positif yw cymunedau a hefyd ar draws y byd, drwy feithrin hunanhyder a chynnig amryw o gyfleoedd drwy gyfrwng y Gymraeg.

“Yn ystod blwyddyn y cant mae’r Urdd yn falch o gael cynnig cyfle unigryw i bedwar Llysgennad hyrwyddo ein gwlad a’n hiaith i gynulleidfa newydd wrth rannu eu talent ar lwyfan rhyngwladol.

“Rydym yn edrych ymlaen at fynychu’r ŵyl ac i ddathlu iaith a diwylliant Cymru yn Philadelphia.

“Ar ran yr Urdd hoffwn ddiolch i bwyllgor Gŵyl Cymru Gogledd America am y gwahoddiad ac am roi’r cyfle arbennig yma i bobl ifanc Cymru.”

Rhodd gan y diweddar Dr John M. Thomas, Cymro oedd wedi ymgartrefu yn Florida, sydd wedi caniatáu i’r pedwar ymweld â’r ŵyl.

Cyfleoedd rhyngwladol i enillwyr Eisteddfod yr Urdd 2022

Bydd tri o enillwyr yn Eisteddfod yr Urdd 2022 yn cael eu gwahodd i berfformio yng Ngŵyl Gŵyl Gogledd America yn Philadelphia fis Medi