Bydd tri o enillwyr Eisteddfod yr Urdd 2022 yn cael eu gwahodd i berfformio fel gwesteion arbennig yng Ngŵyl Gŵyl Gogledd America yn Philadelphia ym mis Medi eleni.
Cafodd Gŵyl Gogledd America ei chynnal gyntaf yn 1929, y flwyddyn gafodd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ei chynnal am y tro cyntaf.
Y flwyddyn honno, fe deithiodd 4,000 o bobol i Niagra Falls ar gyfer y Gymanfa Ganu Genedlaethol i Gymry America.
Erbyn hyn, mae’r ŵyl yn cael ei chynnal bob mis Medi mewn lleoliad gwahanol, naill ai yn yr Unol Daleithiau neu yng Nghanada.
Mae’r ŵyl pedwar diwrnod yn ddathliad o fywyd, treftadaeth a diwylliant Cymru.
Daw’r cyfle unigryw o ganlyniad i gymynrodd i’r Urdd gan y diweddar Dr John M. Thomas, Cymro oedd yn byw yn Fflorida, ers blynyddoedd lawer, ond a oedd ag atgofion hapus o Eisteddfodau yn ei blentyndod.
Mae’r Urdd yn dweud eu bod nhw’n hynod ddiolchgar i Dr Thomas a’i deulu am y gymynrodd sy’n galluogi cynnig profiadau cwbl unigryw aelodau’r Urdd.
Un o uchelgeisiau’r Urdd yn ystod blwyddyn canmlwyddiant y mudiad yw parhau i ddathlu cyfoeth diwylliannol ein gwlad, yn ogystal â rhannu arferion da gyda chysylltiadau rhyngwladol yn sgil llwyddiant cynyddu’r defnydd, hyder a mwynhad o iaith leiafrifol.
Bydd enwau’r tri enillydd yn cael eu cyhoeddi fory (dydd Sadwrn, Mehefin 4).