Tir amaethyddol Dinbych a’r cyffiniau oedd dylanwad dylunydd Coron Eisteddfod yr Urdd eleni.

Dyma’r wythfed tro i’r gemydd Ann Catrin o Gaernarfon ddylunio coron – chwech ohonyn nhw ar gyfer Eisteddfodau – ac roedd hi’n awyddus i blethu dathliadau canmlwyddiant yr Urdd o fewn y goron.

Gofynnwyd iddi wneud y goron yn ôl yn 2018, yn barod ar gyfer Eisteddfod 2020, ond bu’n rhaid gohirio’r gwaith am ddwy flynedd.

Yn ogystal â chael ysbrydoliaeth gan y tir ei hun, mae Ann Catrin wedi defnyddio’r offer a gâi ei ddefnyddio yn draddodiadol ar ffermydd gwledig, fel dylanwad.

“Gan fy mod yn ferch fferm fy hun, mae cefn gwlad Cymru wedi bod yn sylfaen gref i fy nyluniadau,” meddai.

“Rwy’n gartrefol iawn yn yr awyr agored, rwy’n teimlo yn naturiol yn fy amgylchedd yn y wlad, ac mae’r amgylchedd hwn yn ffynhonnell gyson o ysbrydoliaeth.

“Rwy’n eithaf sentimental am yr hen offer ffermio ar y fferm, y pethau sydd wedi’u gadael i rydu wrth i dechnoleg symud ymlaen.

“Y peiriant a ysbrydolodd y goron hon yw’r peiriant torri gwair pŵer Bamford Major neu ‘torrwr bar bys’ a oedd ynghlwm wrth gefn y Fergi bach.

“Mae’r ddelwedd mor addas ar gyfer coron yn fy marn i, a dyma beth wnes i fynd ati i’w wneud, i greu coron fonheddig, urddasol a chain.

“Rwyf wrth fy modd yn rhoi cynnig ar bethau newydd ac arbrofi, gwneud defnydd da o beth dw i’n ddarganfod, trio creu dyluniad arloesol allan o’r holl wybodaeth a gasglwyd drwy ddefnyddio gwahanol dechnegau a chyfuno’r sgiliau a deunyddiau. Y nod yw creu cyfoeth gweledol gyda chydrannau diddorol.

“Roeddwn eisiau ddeunyddiau cyferbyniol i greu drama yn y goron, copaon unionsyth mawr gyda llafnau disglair rhyngddynt, gemau cyfoethog a deunyddiau moethus i gyd-fynd.”

‘Cysylltiad â fy ngwreiddiau’

Mae’r goron wedi cael ei gwneud o gopr ac arian sterling, a’r arian yn sgleinio er mwyn dal y golau, ac mae gemau garnet coch tywyll wedi’u gosod arni.

“Mae’r cap yn felfed sidan coch burgundy hyfryd. Roedd fy nain ar ochr fy mam – hefyd Ann Cathrine – yn filiner a dwi wastad yn meddwl amdani pan dw i’n gwnïo… Gan ddefnyddio rhai o’i nodwyddau a gwniadur mae’n gysylltiad hyfryd â fy ngwreiddiau,” meddai Ann Catrin.

“Defnyddiais rywfaint o stiffener yn y cap fel ei fod yn gallu dal ei bwysau ei hun a phwysau’r goron a gallu sbecian tua 7mm o dan yr arian yr holl ffordd o gwmpas fel nad yw’r metel yn cyffwrdd â’r pen. Roeddwn i’n meddwl y byddai hyn yn fwy caredig i’r gwisgwr, yn fwy cyfforddus a hefyd yn ymyl taclus o goch cyfoethog yn gorffen y goron fetel yn weledol.

“Mae yna bwythau brodwaith burgundy fel manylion o amgylch y goron sy’n gweithredu fel curiad o liw ond sydd hefyd yn bwythau strwythurol. Mae hyn yn atgoffa fi o’r arfwisgoedd o Japan yn amgueddfa’r V&A yn Llundain. Mae’r holl gydrannau metel yn cael eu pwytho gyda’i gilydd fel eu bod yn gallu symud, yn ysgafnach, ac yn hardd.

“Alla’i ddim aros i’w gweld ar ben yr enillydd!”