Llŷr Evans a Lisa Gwilym yw Llywyddion y Dydd Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinych heddiw (dydd Gwener, Mehefin 3).

Cafodd Llŷr Evans yn Rhuthun, a’i addysgu yn Ysgol Gynradd Pentrecelyn, cyn teithio’n ddyddiol dros fryniau Clwyd am addysg uwchradd yn Ysgol Uwchradd Maes Garmon.

Er nad oedd yn gystadleuwr brwd yn Eisteddfod yr Urdd, mi geisiodd ambell dro efo’r ysgol ym myd y ddrama, ac mae ganddo atgofion arbennig o’i ymweliadau â gwersylloedd yr Urdd yn Llangrannog a Glan-llyn.

Mae wedi gweithio ar nifer o gynyrchiadau ar y sgrin fawr a’r sgrin fach, a’i ffilmiau yn cynnwys Ymadawiad Arthur, Twin Town ac Y Syrcas.

Mae wedi ymddangos ar raglenni teledu megis Pengelli, Treflan, Rownd a Rownd, Casualty a The Bill, ac ym myd y theatr mae wedi gweithio i gwmnïau Bara Caws, Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Clwyd ymysg eraill.

Hoffai Llŷr ddiolch i’w rieni, Bet ac Eirwyn, am ei ysbrydoli fo a’i frawd pan oedden nhw’n fach, drwy fynd â nhw i wylio amrywiol gynyrchiadau yn Theatr Clwyd a’u cyflwyno i fyd y ddrama drwy fynychu ymarferion Cwmni Drama Rhuthun.

Bellach mae’n byw yn Y Felinheli gyda’i wraig Lisa Gwilym a’u mab Jacob.

Lisa Gwilym

Mae Lisa Gwilym yn gyflwynwraig brofiadol aml-gyfrwng sy’n gwbl gyfforddus o flaen camera neu’r tu ôl i feicroffon.

Daw yn wreiddiol o Henllan yn Nyffryn Clwyd, a derbyniodd ei haddysg gynradd yn Ysgol Henllan cyn symud i Ysgol Uwchradd Glan Clwyd.

Mae wrth ei bodd gyda phobol, a does dim syndod felly ei bod yn meddu ar radd seicoleg o Brifysgol Caerdydd.

Dechreuodd ei gyrfa fel cyflwynydd teledu ugain mlynedd yn ôl yn cyflwyno Planed Plant ar S4C, a blwyddyn yn ddiweddarach, roedd yn un o gyflwynwyr y rhaglen gylchgrawn Uned 5.

Mae ganddi gariad mawr at y celfyddydau er pan oedd hi’n ifanc, ac arweiniodd hyn at y swydd ddelfrydol, sef cyflwyno pob math o gelfyddyd newydd a chyffrous i’r gynulleidfa ar gyfresi Y Sioe Gelf a Pethe – cyfle gwych i holi rhai o’i harwyr ym myd celf, llenyddiaeth, drama a cherddoriaeth.

Bu’n cyflwyno Stiwdio Gefn am flynyddoedd, a honno’n raglen gerddorol ar S4C.

Dros y blynyddoedd, mae wedi cyflwyno’n fyw o rai o wyliau a digwyddiadau mwyaf Cymru, gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol, Sesiwn Fawr Dolgellau, Gŵyl y Faenol Bryn Terfel, a Gŵyl Jazz Aberhonddu.

Ers 2018, Lisa yw cyflwynydd y gyfres boblogaidd ac ysbrydoledig Ffit Cymru.

Mae hi hefyd – ynghyd â Nia Roberts, Huw Edwards, Ryland Teifi a Nigel Owens – yn un o gyflwynwyr y gyfres Dechrau Canu Dechrau Canmol.

Blynyddoedd lawer felly o waith teledu, ond mae hi hefyd ers 2003 yn un o leisiau BBC Radio Cymru, BBC Radio Cymru 2 a BBC Radio Wales.

Mae radio yn gyfrwng sy’n agos iawn at ei chalon, ac mae’n angerddol am gyflwyno y gerddoriaeth newydd orau o Gymru a rhoi llwyfan a llais i’n cerddorion ar y tonfeddi.

Yn gyflwynydd, DJ a ‘seicolegydd’, mae Lisa Gwilym yn falch iawn o gael yr anrhydedd o fod yn Llywydd y Dydd yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych, ardal sydd dal i olygu cymaint iddi, Dyffryn Clwyd, ‘adre’.


Holi Llŷr a Lisa

Beth, yn dy farn di, yw’r peth gorau am yr Urdd?

Llŷr – Glan-llyn beryg, dim bo fi yn un am weithgareddau anturus ac ati, ond roedd yn gyfle da i gymdeithasu a chamfihafio efo plant o bob cwr o Gymru.

Lisa – Y cyfle i gymdeithasu yn y Gymraeg efo pobol ifanc eraill o bob cwr o Gymru – boed hynny tra’n dawnsio mewn disgo yng Nglan-llyn neu’n cystadlu mewn cystadleuaeth Dawnsio Disgo yn yr Eisteddfod – mae yna rywbeth i bawb. O’r gwersylloedd i’r chwaraeon i’r cystadlu – mae’r Urdd yn cynnig cyfleoedd gwych a phrofiadau arbennig.

Wnest ti erioed gymryd rhan/ennill cystadleuaeth yn Eisteddfod yr Urdd?

Llŷr – Wedi cymryd rhan dros y blynyddoedd a chael llwyddiant efo drama yng Nghaerdydd yn 1985. Dwi’n cofio’r flwyddyn achos roedd y gystadleuaeth yn Theatr y Sherman yr un noson â thrychineb stadiwm Heysel.

Lisa – Mi fues i’n cystadlu lot pan o’n i’n ddisgybl yn Ysgol Glan Clwyd – côr, parti merched, parti cerdd dant, parti alaw werin, parti cydadrodd, cyflwyniadau llafar a.y.y.b. Wrth fy modd yn cael hwyl efo ffrindiau yn ystod yr ymarferion, ac wedyn yn teithio i Eisteddfodau gwahanol. Fe wnaethon ni gyrraedd llwyfan y pafiliwn sawl gwaith ac ennill ar ambell achlysur dwi’n siŵr.

Beth mae bod yn Lywydd y Dydd ym mlwyddyn canmlwyddiant yr Urdd yn ei olygu i ti?

Llŷr – Y peth pwysicaf ydy cael rhannu’r fraint efo fy annwyl wraig, a rhoi gwên lydan ar wyneb mam.

Lisa – Mae’r Urdd yn cynnig gymaint o bethe gwahanol i filoedd o blant ers 100 mlynedd – mae hynny’n eitha’ anhygoel ac yn rhywbeth sydd angen ei ddathlu yn bendant! Dwi’n falch iawn fy mod i a Llŷr yn cael y fraint o fod yn Llywydd y Dydd nôl adre’ yn ‘steddfod Dinbych, ac yn dymuno hir oes i’r mudiad arbennig yma.

20: 1 Lisa Gwilym

Barry Thomas

“Ges i fy mwrw i’r llawr ar Westgate Street yng Nghaerdydd gan fws double decker!”