Yn wreiddiol o gyffiniau Dinbych, mi fydd y cyflwynydd teledu a radio adnabyddus a’i gŵr – yr actor Llŷr Ifans – yn cyflwyno’r cystadlu ar ddydd Gwener Eisteddfod yr Urdd…

Rydech chi’n adnabyddus am holi eraill, ond ydach chi’n hoffi ateb cwestiynau?

Na, dw i’n anobeithiol am ateb cwestiynau!

Gan bod gen i radd mewn Seicoleg, mae gen i ddiddordeb mawr mewn pobol a’r hyn sydd ganddyn nhw i’w ddweud, ac mae yna bobol lawer iawn mwy difyr na fi o gwmpas!

Sut beth fydd dychwelyd i’r filltir sgwâr i Lywyddu yn Steddfod yr Urdd? 

Fel hogan o Henllan, dw i wrth fy modd yn manteisio ar bob un cyfle i fynd nôl adre i Ddyffryn Clwyd at Mam, y fam yng nghyfraith, ffrindiau ac aelodau eraill o’r teulu. Mae’r ffaith bod yr Urdd yn gant eleni, a’r steddfod yn digwydd am y tro cynta’ ers blynyddoedd – mewn cae yn Ninbych – yn achlysur i’w ddathlu.

Beth yw’r atgofion am fod yn aelod o’r Urdd? 

Mi fues i’n cystadlu lot efo Ysgol Glan Clwyd mewn amryw o Eisteddfodau, ac mae gen i atgofion hapus iawn o deithio efo ffrindiau ar sawl bws i nifer o lefydd yng Nghymru. O’r cyflwyniad llafar i’r cydadrodd i’r cerdd dant a’r corau amrywiol, dw i’n ddiolchgar iawn i’r ysgol ac i’r Urdd am roi’r hyder i mi berfformio ar lwyfan. Rhywbeth sydd wedi bod o fudd mawr i mi yn ystod fy ngyrfa. 

Ydych chi wedi bod yn Llywydd y Dydd o’r blaen?

Dw i wedi cael y pleser o agor Sioe Flodau Henllan yn y gorffennol ond erioed wedi cyrraedd yr uchelfannau a chael bod yn Llywydd y dydd yn Eisteddfod yr Urdd! Dw i’n siŵr y bydd yn ddiwrnod prysur a hwyliog, mi fydd y ddwy fam wrth eu boddau, ac mi fydd y gŵr yno i afael yn fy llaw! Er wedi deud hynny, gwneud yn siŵr bod Llŷr yn bihafio fydd y gamp fwya’…

Sut wnaethoch chi gychwyn cyflwyno?

Lwcus dros ben fy mod yn y lle iawn ar yr amser iawn, a bod Meirion Davies (Comisiynydd Rhaglenni Plant S4C ar y pryd) wedi sylwi fy mod yn hoff iawn o siarad a holi cwestiynau. Fe newidiodd fy mywyd un amser cinio ym mis Medi 2000, a dw i heb edrych nôl ers hynny. Dw i’n fythol ddiolchgar am y cyfle cynta’ yna, ac wedi mwynhau pob eiliad o fy ngwaith ers hynny.

Pwy yw eich hoff fand erioed?

Pe tawn i’n cael fy ngadael ar ynys bellennig ac ond yn cael gwrando ar un band yn unig… Super Furry Animals fase’r dewis. Wedi eu gweld droeon, eu cyfweld yn aml, a phob un albym yn fy atgoffa o gyfnod penodol yn fy mywyd. Byth yn siomi! 

Beth yw eich ofn mwya’?

Nadroedd oedd yr ateb… ond erbyn hyn, unrhyw niwed i fy mhlentyn Jacob.

Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini?

Fel cyflwynydd Ffit Cymru, dw i’n gwybod pa mor bwysig ydi byw bywyd iach. Dw i’n mwynhau mynd allan i redeg, sesiynau pilates, a cherdded. Mae’r cyfan o fudd mawr i fy iechyd meddwl a fy nghorff. Mae Jacob hefyd wedi mynnu fy mod yn prynu wetsuit er mwyn cadw cwmni iddo yn y môr…

Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?

Fy ffrindiau! Does byth digon o amser i weld pawb dyddiau yma, a does dim yn well nag eistedd o amgylch bwrdd yn sgwrsio, mwydro, a rhoi’r byd yn ei le efo’r bobol agosa’ ata’ ti.

Mi fuaswn i’n gwahodd Tomos Parry draw i goginio. Ges i’r pleser o fwyta yn ei fwyty Brat yn Llundain a dw i’n ysu eisio mynd nôl!

Gan bwy gawsoch chi sws gorau eich bywyd?

Y gŵr wrth gwrs!

Pa air neu ddywediad ydych chi’n gorddefnyddio?

Cadwch yn Ffit Cymru!

Hoff wisg ffansi? 

Mae’r gair ‘gwisg ffansi’ yn gwneud i mi feddwl am un o fy ffrindiau pennaf, Iwan Charles. Un tro, wnaethon ni ddweud wrth Iws bod yna barti gwisg ffansi mewn pub yn Ninbych – doedd yna ddim – ac fe gyrhaeddodd yn hwyr, fel mae o, yn edrych fel dracula… Sori Charles, a diolch am wneud i ni chwerthin!

Pa ddigwyddiad wnaeth achosi’r mwya’ o embaras i chi?

Wel embaras i Jacob a deud y gwir… Mae ganddo wallt bendigedig ond roedd angen torri’r ffrinj. Felly dyma brynu siswrn a mynd ati i dorri ei wallt yn y bath, ond trychineb a fu… Roedd ei ffrinj yn dechre reit ar dop ei dalcen ar un ochr ac yn gorffen uwchben ei lygad ben arall. Diolch byth ei fod yn rhy ifanc ar y pryd i sylweddoli pa mor ddrwg oedd cyflwr ei wallt, ond mi o’n i yn teimlo fel y fam waetha’ ar wyneb y ddaear… Ac mae yna rai pobol yn dal i chwerthin ar fy anffawd hyd heddiw!

Parti gorau i chi fod ynddo?

Dw i wedi bod mewn sawl parti gwyllt a gwallgo’ ac wedi joio fy hun lot gormod! Ond fe briododd fy mrawd bach yn gynharach eleni, ac roedd y parti ar y nos Sadwrn yn dipyn o achlysur. Mor braf cael dathlu efo Bobs a Kate tan yr oriau mân yng Nghaerdydd. Noson i’w chofio – er gwaetha’r ffaith bod pawb wedi mynd adre’ efo Covid…

Beth sy’n eich cadw’n effro gyda’r nos?

Chwyrnu’r gŵr, llwyth o ‘to do lists’, a dw i hefyd yn un drwg am symud dodrefn o amgylch y tŷ yn fy mhen!

Hoff ddiod feddwol?

Dibynnu ar y cwmni… Mojitos efo Len a Dyl, gwin coch efo Mair a Siôn a Charles, gwin gwyn oer efo Mari, gwin pop efo’r Golden Girls, cwrw ar wal [tafarn] y Gardd Fôn efo ffrindiau Felin… ayyb!

Beth yw’r llyfrau difyrraf i chi eu darllen?

Mae yna silffoedd llawn llyfrau yn tŷ ni, a llwyth o ‘coffee table books’ am bensaerniaeth, dylunio, celf, artistiaid, cerddoriaeth a ffasiwn.

Hoff air?

Cymedroldeb – gair dw i wedi ei glywed yn aml yn ystod y blynyddoedd gan Beti Wyn, y fam yng nghyfraith! 

Beth wnaethoch chi ddarganfod yn y cyfnod clo?

Dw i’n enwog iawn am fy hygs tynn, felly roedd peidio cael gafael mewn pobol yn hynod rwystredig…

Rhannwch gyfrinach efo ni…

Ges i fy mwrw i’r llawr ar Westgate Street yng Nghaerdydd gan fws double decker!