Mae Morgan Elwy am fod yn canu ‘Bach o bach o Hwne’ gydag Eden A Tara Bandito yn yr ŵyl fawr ar benwythnos ola’ Steddfod yr Urdd…
Mae gan y cerddor poblogaidd Morgan Elwy bach o bach o gysylltiad gyda lleoliad Eisteddfod yr Urdd eleni.
Wedi ei fagu ar fferm ger pentref Llansannan, Dinbych oedd y dref agosaf iddo, ac yno yr oedd o’n mynd yn fachgen i chwarae rygbi.
Ac yn Ninbych y chwaraeodd ei gig fawr gyntaf nôl yn 2014, i lansio albwm ei fand roc y Trŵbz.
Felly dim ond iawn yw hi bod y reggae feistr wnaeth ennill Cân i Gymru 2021 gyda’i monster hit ‘Bach o bach o Hwne’ yn perfformio dair gwaith yn y mini-gŵyl ar Faes Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych eleni – tra bo pawb arall o Yws Gwynedd i Tecwyn Ifan ond yn cael llwyfan unwaith!
Mi fydd y mini-gŵyl – ‘Gŵyl Triban’ – yn cael ei chynnal ar y Maes ar benwythnos ola’r Steddfod sydd ar gaeau fferm ar gyrion tref Dinbych.
Mae’r Urdd yn dathlu ei ben-blwydd yn gant oed eleni, felly roedd rhaid cael rhywbeth bach o bach yn ecstra i ddathlu’r garreg filltir.
Y newyddion da i ffans y Sîn Roc Gymraeg yw bod mynediad i Ŵyl Triban yn rhad ac am ddim, gyda’r Urdd wedi cael hanner miliwn o bunnau gan Lywodraeth Cymru i ddathlu ei ben-blwydd mewn steil.
Felly os ewch chi draw i’r Maes ar ddyddiau Gwener a Sadwrn ola’r Steddfod fe gewch chi weld llwyth o fandiau a chantorion megis y Welsh Whisperer, Bwncath, Gwilym, Mellt, Yws Gwynedd, Adwaith ac N’Famady Kouyate.
Ac mi fydd un dyn yno fydd bron mor amlwg â Mr Urdd ei hun!
Ar y nos Wener mi fydd Morgan Elwy yn canu ‘Bach o bach o Hwne’ gyda Tara Bandito, cyn perfformio ei set ei hun tua amser te ar y Sadwrn… ac yna ymuno eto gydag Eden gyda’r nos i gyd-ganu ei anthem reggae.
A chyn ei dri ymddangosiad yng Ngŵyl Triban, mi fydd Morgan hefyd yn perfformio setiau acwstig mewn gwahanol stondinau ar y Maes.
Teg dweud bod y reggae-feistr am fod bach o bach yn brysur yn ystod wythnos Steddfod Dimbech.
A dyna fel mae’r cerddor 26 oed yn ei licio hi.
Tan yn ddiweddar bu yn gweithio yn athro Ffiseg mewn ysgol yn Llundain, yn cyd-fyw yno gyda’i gariad, y gantores Mared Williams.
Mae Morgan wedi dychwelyd i Gymru dros yr Haf i ganolbwyntio ar chwarae llwyth o gigs.
Roedd yn diddanu’r torfeydd yng Ngŵyl Fach y Fro ar Ynys y Barri y penwythnos diwethaf, ac yna yn chwarae yng Nghlwb Ifor Bach gyda’r nos.
Ac eto i ddod dros yr Haf mae gigs blasus yng Ngŵyl Tafwyl yng Nghaerdydd, Sesiwn Fawr Dolgellau a Gŵyl Maldwyn yn y Cian Offis, tafarn yn Llangadfan ger y Trallwng.
“Cadw yn brysur, gig bob penwsos, pretty much, tan diwedd Gorffennaf,” meddai’r canwr sydd am fod yn perfformio gyda band llawn dros yr Haf.
“Mae yna bump yn y band, pryd mae pawb ar gael. Ac mae gena’i extra bassist hefyd, felly mae gena’i plenty of options, sy’n handi iawn ynde.”
Mae ganddo’i chwaer Mali ar y piano a’i frawd Jacob ar y rhythm gitâr – “ond mae o’n ddiawl o brysur yn canu mewn priodasau a ballu. Felly pan dydy o ddim efo gig sy’n talu yn well, mae o’n chwarae efo fi!”
Ac mae yna hen edrych ymlaen at chwarae yng Ngŵyl Triban.
“Fydd hwnna yn really cool, ideal… dw i’n meddwl bo ni ar y main stage,” meddai Morgan, cyn rhannu bach o bach o gyfrinach.
“Dw i ddim yn siŵr os ydw i fod i gyhoeddi hyn, ond mae Eden wedi gofyn i fi ddod ar i ganu ‘Bach o Hwne’ efo nhw, felly fydd hwnna yn dipyn o laff yn bydd…
“Roedd o’n ffyni, achos wnaeth Tara Bethan anfon neges i fi yn gofyn union yr un peth… felly dw i yn mynd ar i ganu efo Tara Bethan ar y nos Wener, ag Eden, achos maen nhw yn joinio hi hefyd – achos mae Tara yn hoffi cael llwyth o bobol ar y llwyfan ynde.”
Felly – i fod yn glir! – mi fydd Morgan yn canu ‘Bach o bach o Hwne’ gyda Tara Bandito ac Eden ar y nos Wener; unwaith eto yn ei set ei hun ar y dydd Sadwrn; ac eto gydag Eden ar y nos Sadwrn.
“Ac rydw i yn gwneud yr acoustic sets yn tent y dysgwyr ar y dydd Mawrth, a tent Coleg Cymraeg ar y dydd Iau. A tent menter iaith hefyd, ryw bryd.
“Dw i yn gwneud dipyn o’r gigs acoustic yna mewn pubs mewn llefydd fel Cerrigydrudion hefyd.”
Roedd Morgan wrth ei fodd yn cael chwarae yng Nghlwb Ifor Bach y penwythnos diwetha’, am y tro cyntaf ers iddo fod yno gyda’i fand Trŵbz flynyddoedd yn ôl.
“Ddaru ni chwarae Clwb Ifor Bach yn 2015, yn syportio Elin Fflur… amser maith yn ôl. Ac roedd y rygbi ymlaen, felly doedd yna neb yna!”
Fydd Morgan yn canu yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron – ond ddim ym Maes B lle mae’r gigs gyda’r nos yn cael eu cynnal a’r parti yn rocio.
“Ro’n i bach yn gutted bo ni ddim yn chwarae Maes B… chwarae Llwyfan y Maes a Caffi Maes B yn Steddfod. Ond ie, dim Maes B…
“A dw i yn excited am chwarae Sesiwn Fawr Dolgellau, achos tydw i erioed wedi chwarae yn fan’na o’r blaen.
“Ac mae gen i gwpwl o festivals sydd yng Nghymru, ond dim rhai Cymraeg, yr ydw i yn edrych ymlaen atyn nhw, fydd yn eithaf diddorol. World Music Fetivals a Reggae Music Festivals fyddan nhw.”
Mi fydd Morgan yn chwarae yn y ‘Tonnau Tropical Garden Party’ ar stad Garreglwyd sydd ger Caergybi ym Môn ar 9 Gorffennaf, ac yn yr ‘Unearthed Festival’ cyn hynny yn Solfach, Sir Benfro, ar 17 Mehefin.
Ac felly mi fydd o’n cyflwyno canu reggae yn iaith y nefoedd i griw brwd o rastas di-Gymraeg.
“Dw i yn eithaf excited i ganu stwff Cymraeg fi i gynulleidfa newydd.”
Morgan yn un da am adrodd
Hwyrach mai ennill Cân i Gymru 2021 roddodd Morgan ar y map, ond mi fydd ffans eisteddfodol yn gwybod bod ganddo bach o bach o dalent am adrodd ac actio.
“Roedd yr Urdd yn rhan massive o dyfu fyny yn tŷ ni ynde,” eglura’r canwr.
“Roeddwn i wastad yn cystadlu hefo’r adrodd, ac yn gwneud yn reit dda pan oeddwn i yn yr ysgol gynradd, yn cyrraedd y genedlaethol a chael llwyfan.
“Ro’n i yn ennill ar yr ymgom. Ges i ail yn blwyddyn pump a cynta yn blwyddyn chwech, dw i’n meddwl.”
Mae Morgan yn un o chwech ac roedd ei frodyr Jacob a Twm yn ymgomio hefyd – “roedd o’n massive rhan o teulu ni”.
Pan oedd Morgan yn 13 oed, fe enillodd am adrodd yn yr Eisteddfod Genedlaethol – ond nid dyna’r pinacl yn ei hanes o gystadlu ar lwyfannau steddfod!
“Wnes i sdopio pan oeddwn i yn teenager. Ti’n gwybod fel wyt ti, yn embarassed am bob dim.
“Ac wedyn wnes i gystadlu yn 2015, pan oeddwn i yn 19 oed, ac ennill Gwobr Richard Burton. Wedyn dw i yn rhan o’r Orsedd yn y Steddfod Genedlaethol!”
Yr Orsedd yw’r criw yn y Steddfod mewn rôbs gwyrdd, glas a gwyn. Er mwyn cael bod yn aelod, mae yn rhaid i chi fod yn fardd, actor, cerddor neu berson creadigol sydd wedi cyfrannu at yr iaith Gymraeg.
Actio dau fonolog wnaeth Morgan i gipio Gwobr Richard Burton, sydd yn dipyn o bluen yn ei het.
Ymysg cyn-enillwyr ‘y Richard Burton’ sydd wedi mynd ymlaen i wneud enw iddyn nhw eu hunain ym myd theatr a theledu, mae Daniel Evans a gafodd y wobr yn 1990, Dyfrig Topper yn 1996 a Dyfan Dwyfor yn 2004.
Er iddo ennill y wobr, aeth Morgan i Fanceinion i astudio Ffiseg a chanolbwyntio ar yrfa yn addysgu plant am y pwnc gwyddonol hwnnw.
“Ond dw i wedi ailafael ar yr actio dros y blynyddoedd diwethaf ac wedi bod yn gwneud cwrs actio rhan amser yn Llundain, sydd wedi bod yn eithaf cool.
“Felly dw i yn trio cael fewn i’r byd actio hefyd. Mae o’n job pan mae miwsig yn cymryd drosodd, ond dw i ddim yn cwyno o gwbl.”
TALU’R PRIS!
Does dim dwywaith bod ‘Bach o bach o Hwne’ wedi dod yn un o anthemau cyfoes y Cymry, yn gân reggae pop wirioneddol boblogaidd.
Ond mae Morgan Elwy wedi gorfod talu bach o bach o bris!
“Mae o bach yn annoying weithie, achos dw i yn gwneud supply yn [Ysgol] Creuddyn [Llandudno] ar y funud.
“A pob gwers, mae yna ryw blentyn yn mymblo ‘Bach o bach o Hwne’!”
PWY? PLE? PRYD?
Mi fydd yna ddau lwyfan yng Ngŵyl Triban a lot o lot o fiwsig…
GWENER, 3 MEHEFIN
Llwyfan y Sgubor
12.50 Welsh Whisperer
1.40 Dienw
2.30 Hana Lili
3.20 Jacob Elwy
4.10 Maes Parcio
6 Ciwb
7 Gwilym
8.05 Tara Bandito
9.30 Yws Gwynedd
Garddorfa
1.40 Cai
4.10 Tesni Hughes
7.05 Bwncath
8.10 Mellt
SADWRN, 4 MEHEFIN
Llwyfan y Sgubor
12.50 Queer Emporium: Dragdotyn
2.30 Skylrk
3.20 Mali Haf
5 Morgan Elwy
6 Tecwyn Ifan
7 Delwyn Sion
8.05 Y Cledrau
9.30 Eden
Garddorfa
1.30 Y Symffoni Werdd
3 Mari Mathias
4.50 Lewys Wyn
6.50 Eadyth x Izzy
7.40 N’famady Koyuaté
8.45 Adwaith