Mae un sydd wedi mentro i’r cyfryngau chwaraeon – diolch i gefnogaeth cwmni sy’n helpu i lansio bwrsariaeth newydd S4C – yn dweud ei bod hi’n bwysig fod pobol o gefndiroedd ethnig yn gwybod am y cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw yn y maes.

Mae’r sianel wedi lansio tair bwrsariaeth newydd er mwyn cefnogi datblygiad talent ddarlledu Cymraeg i’r dyfodol, ac i geisio denu wynebau newydd i ymuno â’r sector gyfryngau yng Nghymru. Bydd bwrsariaeth S4C Chwaraeon yn cefnogi un myfyriwr o gefndir Du, Asiaidd neu ethnig lleiafrifol yng Nghymru i astudio ar gwrs gradd meistr Darlledu Chwaraeon ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, ac mae wedi’i chefnogi gan gwmnïau cynhyrchu Rondo a Media Atom.

Roedd Brandon Richards o Gaerdydd yn gweithio ym McDonald’s pan gysylltodd e â chwmni Jams & Mr B Productions, sef cwmni’r cyflwynydd Jason Mohammad a’r pyndit a chyn-bêldroediwr Nathan Blake, sy’n helpu pobol o gefndiroedd difreintiedig a lleiafrifol i ddod o hyd i gyfleoedd am waith yn y cyfryngau.

Yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, roedd y cyflwynydd chwaraeon Steffan Garrero a’r cynhyrchydd Joe Towns ymhlith darlithwyr Brandon ar gwrs cyfryngau, ac fe wnaethon nhw ei annog i chwilio am gyfleoedd am brofiad gwaith.

“Y peth am y ddau yw bo nhw’n gweithio am flynyddoedd ac wedi cael llawer o contacts a llawer o bobol maen nhw’n nabod,” meddai Brandon. “Ro’n i wedi dod yn ffrindiau gyda Joe a chael ymlaen yn rili dda, ac wedyn daeth Joe ata’i a dweud: ‘Dylet ti gael work experience opportunity os wyt ti eisiau fe.’ Ar y foment yna, ro’n i eisiau fe mwy nag unrhyw beth achos ro’n i’n gweithio ym McDonald’s yr amser yna hefyd. Ro’n i wedi gweithio yna am dair blynedd ers o’n i’n 16. Ro’n i wedi dechrau yno, ac roedd [Joe Towns] wedi anfon wyth cyfeiriad e-bost i fi yn dweud: ‘E-bostia nhw, it might come off, it might not’.

Mynd dan adain Jams & Mr B

Bryd hynny y daeth e i gysylltiad â Jason Mohammad a Nathan Blake ac mae e bellach yn cydweithio â nhw ar y podlediad A Bit of Swazz am hynt a helynt Clwb Pêl-droed Caerdydd.

“Ro’n i wedi anfon e-bost atyn nhw,” meddai. “Yr wythnos wedyn, roedd Nathan wedi cael nôl ataf fi, ac wedi dweud: ‘Dylen ni gael phonecall’. Ro’n ni wedi cael sgwrs 40 munud, ac wedyn dywedodd e: ‘Wyt ti eisiau cwrdda lan a siarad am y cwmni?’ Ro’n i wedi cwrdda lan gyda fe a Jason ac roedd instant connection. Dywedon nhw: ‘Ni’n mynd i gael cyfleoedd i ti gael mewn i’r cyfryngau’.

“Yn syth ar ôl hwnna, roedd Nathan wedi dweud: ‘Dylet ti gael tipyn bach o work experience yn y BBC ar y radio’, achos yn amlwg mae Nathan yn gwneud gwaith gyda’r radio ar y penwythnosau gyda gemau pêl-droed. So ro’n i

Brandon Richards a Jason Mohammad

wedi mynd mewn ac wedi cael cwpwl o ddyddiau Sadwrn. Pan o’n i mewn, ro’n i wedi siarad gyda llawer o bobol yn y BBC i weld beth oedd e fel, ac mae pawb yn siarad gyda phawb, wedyn wrth i fi siarad gyda mwy a mwy o bobol, ro’n i’n dod mewn ar ddydd Sadwrn a ro’n nhw’n dweud: ‘Ni angen rhywun i wneud dydd Mercher, ti eisiau dod mewn?’ Yn amlwg, ro’n i fel: ‘Ydw!’ Ac roedd e wedi snowball-io o fynna, diwrnod arall, diwrnod arall, ac wedyn ro’n i mewn bob dydd Sadwrn yn gwneud y radio ac yn gwneud roliau gwahanol fel producer, co-ordinator, researcher, a runner ar gyfer rhai pethau teledu.”

Ond fel dyn ifanc hil-gymysg o Lanrhymni, mae’r Cymro sydd o dras Jamaicaidd a Sbaenaidd, a dreuliodd flynyddoedd cynnar ei fywyd ym Malaga, yn dweud ei bod hi’n amlwg nad yw pobol o’r un cefndir â fe’n cael eu cynrychioli ddigon ym myd y cyfryngau. Ond mae’n ffyddiog y gallai’r fwrsariaeth newid y sefyllfa.

“Mae’n bwysig iawn,” meddai. “Wrth i fi ddechrau gweithio yn y cyfryngau, ro’n i wrth fy modd gyda fe, ond mae’n amlwg bod under-representation ym mhob department, ddim jyst chwaraeon. Mae e mor vital, y bwrsari yma, i gael mwy o bobol mewn oherwydd am un peth, i berson fel fi, mixed-race o council estate area, do’n i ddim yn gwybod fod cyfleoedd fel hyn ar gael. Ro’n i jyst yn mynd mewn yn blind a jyst yn lwcus o’n i wedi cael y cyfleoedd yma.

“Dydy e ddim jyst yn bwysig bod y bwrsari yna, ond bod pobol yn gwybod amdano fe, bod pobol yn gwybod fod cyfleoedd mas fynna. Yn enwedig ble fi’n dod o, does dim ond cwpwl o avenues i gael mas.”

Yr her o sicrhau amrywiaeth

 Yn ôl Jason Mohammad, roedd y bwriad o helpu pobol o gefndiroedd difreintiedig a lleiafrifol yn greiddiol wrth sefydlu’r cwmni, gyda fe a Nathan Blake ill dau wedi’u magu mewn ardaloedd sydd weithiau’n gallu dioddef yn sgil diffyg cyfleoedd a hunanhyder.

“Un o’r pethau ni’n gwneud ydy gwneud rhaglenni teledu ond ar y dechrau, pan o’n ni’n siarad am setio lan cwmni sy’n gallu creu teledu, radio neu bodlediad, ro’n ni’n siarad am y ffaith bod rhaid i ni… achos bod Nathan yn dod o Ringland a fi’n dod o Drelái… rydyn ni eisiau helpu pobol o gymunedau eraill lle ’dyn nhw ddim weithiau yn meddwl bo nhw’n gallu gweithio yn y byd darlledu,” meddai’r cyflwynydd.

“Felly, roedd o’n rili pwysig i ni i setio lan cwmni sy’n adlewyrchu’r sialens i roi amrywiaeth yn y BBC, S4C, ITV, Netflix, Amazon a phopeth, i helpu’r cwmni i godi’r targedau i gael pobol o’r cymunedau ni’n gwybod amdanyn nhw, a bo ni’n tyfu mewn cymunedau fel Trelái.

“Pan o’n i’n ifanc, ro’n i’n gobeithio gweithio yn y byd darlledu gyda’r BBC a BBC Sport a phethach, ond do’n i ddim yn gwybod os oeddwn i’n gallu’i wneud e… dw i ddim wedi bod i ysgol breifat, ydw i’n gallu gwneud beth fi’n gwneud nawr?

“Felly’r sialens oedd, ydyn ni’n gallu creu rhyw fath o batrwm, rhyw fath o bartneriaeth lle ni’n gallu helpu pobol. Chwarae teg i S4C, roedden nhw a Phrifysgol Met Caerdydd yn rhoi syniadau i ni ac yn dweud, beth am i ni gynnig bwrsari, chi’n gallu helpu ni i ffeindio rhywun sy’n gallu mynd i’r brifysgol a gwneud yr MSc, y radd ym Met Caerdydd, yn y byd darlledu chwaraeon, a ni’n gallu’u helpu nhw i gael eu traed mewn trwy’r drws.

“Dw i ddim yn gwybod os ydyn nhw ddim i gyd, yn gyffredinol, yn meddwl dydyn nhw ddim yn ddigon da i wneud rhywbeth fel hyn. Ond Nathan a fi, roedden ni’n siarad yn Grangetown flwyddyn ddiwethaf yn ystod yr haf, a gaethon ni chat fach gyda lot o bobol yn dweud: ‘Dydyn ni ddim yn gwybod sut i wneud y forms a phethau, dydyn ni ddim yn gwybod y ffordd orau i wneud e’. Dw i’n meddwl, mae yna athrawon yng Nghymru, ar draws y wlad, sy’n gallu helpu pobol, yn dweud bo nhw’n gallu gwneud o. Ond ar ôl hanner awr, ro’n i’n cael y teimlad doedd y bois yn y neuadd ddim yn deall be’ o’n i’n dweud. Ro’n i wedi troi at Nathan a dweud: ‘Dw i ddim yn gwybod os ydyn ni wedi helpu heno’. Ac un o’r bois reit ar ddiwedd y cyfarfod, dywedodd o: ‘Y peth yw, Jason a Nathan, ni’n cael yr un peth drwy’r amser, pobol yn dod mewn, maen nhw’n siarad am gyfleoedd, maen nhw’n mynd a dydyn ni ddim yn clywed dim byd ar ôl hynny’. Felly roedd Nathan yn dweud: ‘Rydyn ni yma i aros, ac rydyn ni yma i helpu chi bob step i ddechrau gyrfa yn y byd darlledu;.”

Sut, felly, mae’r cwmni am ddenu mwy o bobol fel Brandon i weithio yn y cyfryngau?

“Ni’n mynd i brifysgolion, ni’n mynd i ysgolion hefyd, i siarad ar draws y wlad, i siarad am gyfleoedd a sut ydyn ni’n gallu helpu fel cwmni, achos ni wedi setio lan cwmni sy’n gallu gwneud radio a theledu,” meddai Jason.

“Mae Brandon wedi dechrau gyda ni, a nawr mae e’n seren ac mae lot o bobol, oherwydd mae’n siarad Cymraeg hefyd ac yn gweithio yn y byd radio a theledu, a lot o gwmnïau yn gofyn: ‘Ydy Brandon ar gael i weithio gyda ni?’ Ond blwyddyn yn ôl, roedd Brandon jyst yn un o’r bois gyda’r gobaith i weithio yn y byd darlledu, ond nawr mae o actually yn gwneud o ac mae gyda fe’r gobaith.

“A dyna beth sy’n bwysig, cael yr hyder bod e’n gallu gwneud e, a’r profiad hefyd. Felly mewn blwyddyn, mae e wedi cael profiad o weithio gyda Scrum V, gwneud stwff gyda’r byd chwaraeon, mae e’n gwneud stwff gyda’r pêl-droed, gyda Radio Wales a Radio Cymru, felly os ni ddim yn llwyddiannus gydag unrhyw beth arall, ni wedi helpu un person sy’n gallu mynd i’r byd darlledu.”

Mae Brandon yn sicr yn teimlo bod Jason Mohammad a Nathan Blake wedi ei helpu a’i gefnogi ar hyd y daith i le mae e nawr, yn gweithio ar raglenni chwaraeon i S4C a’r BBC.

“Yr holl amser, roedd Jason a Nathan yn galw fi bob wythnos: ‘Sut mae popeth yn mynd?’ Dyna’r peth am y cwmni, maen nhw’n helpu mas yn rhoi cyfleoedd i ni ond maen nhw fel consultants hefyd. Fi wedi cael rhai cyfleoedd sydd wedi dod i fi sydd, at first glance, yn gyfleoedd amazing ond ro’n i wedi siarad gyda Jason a Nathan a ro’n nhw wedi tynnu fi mewn tamaid bach.

“Yn amlwg, mae Jason wedi cael llawer o brofiad yn y cyfryngau, ar y radio a’r teledu. A hefyd gyda Nathan, egni fe a’i support e. A hefyd yn amlwg y profiad proffesiynol mae e wedi cael o chwarae pêl-droed. Mae e fel perfect mix. Their hearts are in the right place, ac maen nhw wedi helpu fi mas massively.”