Awydd i ddweud diolch sydd y tu ôl i gasgliad newydd o hen emynau a chaneuon gwerin gan gantores soul-pop-jazz hynod dalentog…
Mi fyddwch chi yn adnabod sawl un o’r caneuon ar albwm newydd Kizzy Crawford, Cariad y tir, sydd ar gael yfory (20 Mai).
Mae’r gantores gyda’r llais hyfryd wedi mynd ati i recordio hen emynau a chaneuon gwerin y mae hi wedi bod yn eu perfformio yn fyw ers blynyddoedd.
Mae ganddo chi ‘Dafydd y Garreg Wen’, ‘Ar lan y môr’, ‘Si Hei Lwli’, ‘Sosban Fach’, ‘Calon Lân’ a ‘Hen Wlad Fy Nhadau’.
A thra bo ambell fersiwn gan Kizzy yn cadw yn eitha’ triw i’r gwreiddiol, mae yna arbrofi hefyd gyda feib fflamenco i ‘Sosban Fach’ a dehongliad jazzy a synhwyrus o ‘Ar lan y môr’.
Fydd yr arbrofi ddim yn newyddion i unrhyw un sy’n gyfarwydd â gwaith Kizzy – mae hi’n canu ei chaneuon jazz-pop dyfeisgar ers blynyddoedd bellach, a syndod yw deall mai dim ond 26 oed yw hi o hyd.
Ac ar gyfer ei chasgliad newydd mae hi wedi dychwelyd at y caneuon y cafodd hi eu magu arnyn nhw, gan recordio Cariad y tir yn ei stiwdio gartref yn Aberfan, a hynny ar ei phen ei hun gan chwarae’r holl offerynnau sydd i’w clywed – gitâr, bass, ffidil, allweddellau ac offerynnau taro.
Mae yn dweud bod creu’r albwm “yn ffordd o ddweud diolch” am ei magwraeth a’r cyfleon a gafodd wrth ddysgu siarad Cymraeg yn blentyn.
“Roeddwn i wedi canu rhai o’r caneuon yma yn tyfu lan yn yr ysgol, yn yr Eisteddfod neu yn yr Eglwys,” meddai Kizzy, “ac roeddwn i moyn dweud diolch a dangos sut mae tyfu lan o gwmpas cerddoriaeth Gymraeg, a dysgu siarad Cymraeg o oedran ifanc iawn, cymryd rhan yn yr eisteddfod… wedi helpu person ifanc eithaf swil gydag awtistiaeth, lle doeddwn i ddim yn gweld pobol eraill oedd yn frown neu yn ddu. Felly roeddwn i yn teimlo yn wahanol.
“Ac fe wnaeth canu yn Gymraeg a chymryd rhan mewn pethau Cymraeg wir helpu fi i gael hyder yn fi fy hun a helpu fi i deimlo fel fy mod i yn ffitio fewn.
“Mewn ffordd, mae recordio’r albwm yma yn ffordd o ddweud diolch am beth mae cerddoriaeth draddodiadol Gymraeg wedi ei roi i fi fel artist sydd nawr gyda hyder i fod ar y llwyfan a chanu yn fyw a pethe.
“Daeth hwnna yn wreiddiol o’r ysgol a chanu yn yr Eisteddfod a sioeau ysgol…
“Sa i yn credu bydden i wedi bod yn gwneud cerddoriaeth, gigs a phethe oni bai am yr eisteddfod yn yr ysgol. Does dim byd fel yr eisteddfod yn Lloegr, a sa i wedi clywed amdano fe mewn unrhyw wlad arall. Mae e’n unigryw.
“A beth mae hwnna yn rhoi i ti, mae e yn rhoi shwt gymaint. Ti’n gallu credu yn ti dy hun. I fi, roeddwn i wedi ofni hwnna pan oeddwn i yn ifanc iawn. Roedd lot yn ofni fe.
“Ond mae yn dangos i ti bod ti yn gallu gwneud rhywbeth. Dangos i ti bod gen ti dalent.”
Yn wreiddiol daeth Kizzy i Gymru o Rydychen yn dair oed a chael ei thrwytho yn yr iaith Gymraeg yn Ysgol Gynradd Aberaeron yng Ngheredigion.
“Yn ystod y blynyddoedd yna’r oeddwn i yn gwneud lot o ran canu yn yr Eisteddfod a bod yn y sioeau ysgol, a chwarae ffidil a dysgu offerynnau gwahanol. Roedd yna lot o fiwsig yn y Gorllewin, lle rili neis i dyfu lan,” cofia.
“Ac roedd cystadlu yn yr eisteddfod yn cael ei weld yn rhywbeth pwysig… ac fel person rili swil, wnaeth e helpu fi i agor mas a chael hyder.”
Yn 11 oed fe symudodd Kizzy a’i theulu i Landeilo ac yna y daeth yr ysbrydoliaeth i gychwyn creu ei chaneuon ei hun.
“Gwario lot o amser ym myd natur a dechre gweld pa mor hardd yw’r wlad rydyn ni yn byw ynddo, a gwerthfawrogi hynny.
“A dyna lle wnes i ddechre ysgrifennu fy nghaneuon fy hunan.”
Her yr hen ganeuon
Faint o her oedd mynd ati i recordio hen ganeuon fel ‘Calon Lân’ a ‘Sosban Fach’ sydd MOR adnabyddus?
“Rydw i wedi cadw’r teimlad traddodiadol i rai ohonyn nhw, a dangos beth sy’n hyfryd am y caneuon a’r nostaljia sydd yn dod efo nhw, i rai pobol,” eglura Kizzy.
“Fel gyda ‘Gwahoddiad’, rydw i wedi ei gadw yn eithaf traddodiadol. Roeddwn i eisiau canolbwyntio ar yr harmonïau.
“Pan wnes i ddechrau mas yn gigio, roedd gyda fi loop pedal ac yn arbrofi lot gydag adeiladu vocals. Felly roeddwn i moyn dangos ychydig bach o hwnna ar yr albwm…
“Wedyn mae yna [ganeuon ar yr albwm] gyda naws mwy alternative, mwy fel stwff fi, fel ‘Cariad Cywir’, ‘Cân Merthyr’ a ‘Pais Dinogad’ – mae honna yn hen gân Gymraeg, ond bod fersiwn fi fwy amgen.”
A gan bod canu rhai o’r caneuon yma wedi codi hyder Kizzy yn ei gallu i berfformio pan oedd hi yn blentyn, roedd hi “moyn i’r albwm yma fod i blant hefyd. Plant yn yr ysgol sydd efallai eisiau help yn dysgu rhai caneuon.”
Ar yr albwm mae fersiwn Kizzy o ‘O flodyn bach hardd’, cân y wnaeth hi berfformio yn ddeg oed mewn eisteddfod.
“Roeddwn i wir yn teimlo yn nerfus y diwrnod yna, a ges i’r wobr gyntaf, a wnaeth e wir roi lot o hyder i fi wedyn. Helpu fi drwy’r ysgol… efallai fydd plant eraill sydd tua’r oedran yna, naw, deg oed, yn hoffi’r gân yna.”
Mae ‘Cân Merthyr’ yn berlan gomig sy’n cael ei chanu o safbwynt dyn sy’n cael ei gam-drin gan ei wraig a ddim yn cael baco na bwyd ganddi.
Yr hyn sy’n hynod yw ei bod yn gân ‘facaronic’, sef bod y geiriau yn gymysgedd o Gymraeg a Saesneg.
Ynddi mae’r gŵr yn cwyno: ‘she eat the cig – wel dyna i chi ddiawl o bartner!’
“Wnes i recordio’r gân yna ryw bum mlynedd yn ôl gyda Sam o’r band Calan, a wnaethon ni roi e ar bandcamp,” cofia Kizzy.
“Ond doedd dim lot wedi clywed y fersiwn yna, felly roeddwn i eisiau ei recordio hi eto.
“Ac mae hi wastad wedi bod yn gân rydw i wedi mwynhau perfformio achos mae yn wahanol iawn i fersiynau eraill sydd wedi cael eu rhyddhau.
“Roeddwn i eisiau rhoi sbin jazzaidd arno fe.”
Albwm arall yn y beipan!
Mae Kizzy wedi recordio albwm o ganeuon gwreiddiol fydd yn cael ei rhyddhau tuag at ddiwedd y flwyddyn – “mae gen i lwyth o gerddoriaeth rydw i eisiau cael mas yna, er mwyn symud ymlaen i’r project nesaf”.
Fy Ngofod fydd enw’r albwm ac mi fydd y rhan fwyaf yn “ganeuon hen” a gafodd eu cyfansoddi flynyddoedd yn ôl, ond na chafodd erioed eu recordio ar y pryd.