Mae hi wedi bod yn wythnos gymhleth yng ngwleidyddiaeth Cymru wrth i bawb a’i Nain geisio gwneud synnwyr o gynlluniau Llafur a Phlaid Cymru i ddiwygio’r Senedd.

Ar yr wyneb, mae’r darn cyntaf yn hawdd – y bwriad yw cynyddu maint Senedd Cymru o’r 60 aelod presennol i 96, gyda chwotâu rhyw yn cael eu cyflwyno wrth i Mark Drakeford ac Adam Price geisio “creu Senedd fodern” gyda’r un nifer o ddynion a menywod yn y siambr.