Mae cyn-athro Daearyddiaeth, Phil Thomas, wedi bod yn cerdded fyny llethrau Cadair Idris bob mis ers ugain mlynedd, ymhob tywydd, er mwyn mesur a chofnodi’r glaw sy’n syrthio yno.

Ac yntau bron yn 80 oed, cwblhaodd Phil y gorchwyl gwirfoddol am y tro diwethaf ym mis Ebrill.

Cadair Idris yn ne Eryri oedd y mynydd cyntaf i Phil, sy’n byw ym Mhenrhyndeudraeth, ei ddringo yn naw oed.