Er ei fod yn rhedeg tri bwyty – gan gynnwys un yn y Swistir – mae’r cogydd adnabyddus ym mro ei febyd i helpu gyda’r Eisteddfod yn Ninbych…

Heb yr Urdd mi fysa hi wedi bod “lot anoddach” i Bryn Williams ddod o hyd i’r hyder i ddefnyddio’r Gymraeg ym myd busnes.

Y cogydd o bentref Llandyrnog ger Dinbych fydd Llywydd y Dydd ar ddydd Iau Eisteddfod yr Urdd eleni, sy’n “fraint fawr” iddo.