Wrth i Gymru geisio cyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958, mae’r artist ‘drill’ Sage Todz wedi creu ‘O Hyd’, ei fersiwn unigryw ei hun o glasur Dafydd Iwan, cyn y gêm fawr yn erbyn Wcráin yng Nghaerdydd ddydd Sul (Mehefin 5).

Mae’n rhan o bartneriaeth gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru, ac mae’r gân yn dechrau gyda sampl o’r gân wreiddiol o 1983.

Ond mae’n mynd yn ei blaen at rap gan Sage Todz, sy’n dweud “Dani yma. On the way to the top of game, ar y ffordd i dop y byd. Motsh gen i am awgrymiadau. Mae’r wlad ei hun yn fach. Ond mae’r ddraig yn pwyso tunnell”.

“Rydw i’n gyffrous iawn i fod yn gweithio â Chymdeithas Bêl-droed Cymru a Chymru ar y trac yma,” meddai’r artist ‘drill’ o Benygroes.

“Mae pêl-droed yn enfawr yng Nghymru ac ar draws y byd, ac mae gan y gêm le pwysig yn fy nghalon.

“Mae wedi bod yn wych cyfuno agweddau ar y pethau dwi’n eu caru a chreu rhywbeth arbennig.

“Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru a’r timau cenedlaethol mor bwysig i’r wlad.

“Pan mae ein pêl-droedwyr yn mynd allan a chynrychioli Cymru, mae’n fwy na gêm yn unig, mae hefyd am gymuned, undod ac mae’n gynrychiolaeth o bwy ydyn ni a beth allwn ni, bobol Cymru, ei wneud.”

Y diwylliant a’r Gymraeg

Mae Sage Todz a Tiny Welsh Media wedi bod yn ffilmio fideo’r gân sydd wedi’i chomisiynu gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru (Llun: John Smith/CBDC)

“Mae diwylliant Cymru yn golygu llawer i mi fel artist,” meddai Sage Todz wedyn am ei Gymreictod.

“Yn amlwg dwi’n siarad Cymraeg ac yn gwneud hynny yn fy mywyd bob dydd, felly dwi’n teimlo ei bod hi ond yn naturiol i mi rannu ein hiaith yn fy ngherddoriaeth.

“Rydw i’n falch iawn o barhau i ddod â’r Gymraeg i gyd-destun mwy modern a dangos bod y Gymraeg yn gallu cyfieithu i fath gwbl wahanol o gerddoriaeth i’r cyfryngau lle mae hi’n cael ei defnyddio fel arfer.”

Yn ôl Rob Dowling, Pennaeth Cynnwys ac Ymgysylltu Cymdeithas Bêl-droed Cymru, does dim angen i’r Gymdeithas “ddilyn yr un rheolau confensiynol ag eraill”.

“Mae’r hyder hwn i’w weld yn glir yn ein cydweithio â Sage Todz,” meddai.

“Rydyn ni’n ymgysylltu’n naturiol â diwylliant modern Cymreig nid yn unig i dynnu sylw at y dalent o fewn y wlad, ond hefyd i gynrychioli amrywiaeth y diwylliant hwnnw, lle mae pobol yn mynegi eu hunaniaeth genedlaethol mewn llawer o wahanol gyfryngau.

“Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn talu teyrnged i hanes ac iaith Cymru, sy’n cael eu cynrychioli yn ein holl waith, tra hefyd yn gyfrwng i ni gyd fod yn falch ac yn hyderus yn yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn Gymreig wrthi ni edrych tua’r dyfodol a chreu ein hanes ein hunain.

“Mae’r cydweithio hwn yn ymgorffori ein cenedl fodern a’i chalon hynafol, gydag ‘Yma o Hyd’ Dafydd Iwan bellach yn anthem angerddol i’r Wal Goch a thimau cenedlaethol Cymru.

“Mae geiriau ac ystyr y gân wrth galon sut rydyn ni’n uniaethu â bod yn Gymry, ac i Sage mae’r mynegiant creadigol sy’n deillio o hynny yn ‘O Hyd’.”

Mae’r cydweithio rhwng CBDC yn parhau â hanes y gymdeithas bêl-droed o weithio gydag artistiaid Cymreig a’u cefnogi drwy gyfrwng cynllun Gorwelion / Horizons y BBC.

Tocynnau

Mae pob tocyn wedi’i werthu ar gyfer gêm Cymru yn erbyn Wcráin ddydd Sul, ond gall cefnogwyr Cymru barhau i brynu tocynnau ar gyfer y gemau cartref sydd ar y gweill yng Nghynghrair Cenhedloedd UEFA yn Stadiwm Dinas Caerdydd trwy: faw.cymru/tickets

“Rhywbeth mawr” i ddod gan Sage Todz

Elin Wyn Owen

“Ro’n i jyst eisio gwneud rhywbeth efo’r iaith Gymraeg sy’n catchy. Dw i’n meddwl bo’ rapio Cymraeg yn gallu bod yn corny weithiau”