Ar ôl dod â miwsig drill i sylw’r Sîn Roc Gymraeg, mae’r rapiwr aeth yn feiral gyda’i gân gynta’ yn perfformio yn fyw yr wythnos nesaf…

Diolch i’w gân drill ddwyieithog ‘Rownd a Rownd’, mae’r rapiwr sy’n perfformio dan yr enw Sage Todz yn prysur ennill ffans dros Gymru a thu hwnt, a’r wythnos nesaf mi fydd yn perfformio yn fyw yn y brifddinas.