Ciarán Eynon yw Prifardd Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022.

Cafodd ei enw ei gyhoeddi mewn seremoni arbennig o lwyfan Y Cyfrwy ar faes Eisteddfod yr Urdd.

Mae’n dod o Landrillo-yn-rhos, Sir Conwy, yn wreiddiol ac yn byw yn Llundain.

Yn ail yn y gystadleuaeth roedd Gruff Gwyn o Fachen ger Caerffili, ac yn drydydd roedd Tegwen Bruce-Deans o Landrindod, Maesyfed.

Enillodd Gruff dlws yr ifanc yn Eisteddfod Gadeiriol Caerdydd 2022, a daeth Tegwen yn drydydd yng nghystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod T llynedd.

Ar ôl gorffen ei Lefel A yn Ysgol y Creuddyn, Bae Penrhyn aeth Ciarán Eynon yn ei flaen i astudio Mathemateg ym Mhrifysgol Warwick ac yna MA Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Daeth yn ail yng nghystadleuaeth y Gadair ac yn drydydd yng nghystadleuaeth Prif Lenor Eisteddfod T 2021.

Mae’n wyneb cyfarwydd ar y llwyfan hefyd, ac wedi dod i’r brig yng nghystadlaethau llefaru Unigol Eisteddfod Genedlaethol Môn 2017 ac Eisteddfod AmGen 2021.

Roedd yn olygydd cyntaf ‘Ffosfforws’ yn 2021 – cyfnodolyn barddoniaeth newydd sy’n cael ei gyhoeddi gan gylchgrawn Y Stamp.

Y feirniadaeth

Yn unol â’r drefn newydd ar gyfer prif seremonïau’r dydd, roedd y beirniaid Eurig Salisbury a Peredur Lynch yng nghwmni’r tri chystadleuydd terfynol ar y llwyfan.

Y dasg eleni oedd cyfansoddi cerdd gaeth neu rydd heb fod dros 100 o linellau ar y testun ‘Diolch’.

Gruff Gwyn, Tegwen Bruce-Deans a Ciarán Eynon
Gruff Gwyn, Tegwen Bruce-Deans a Ciarán Eynon

Ymateb i’r pandemig, ymgodymu ag ysgariad rhieni, a rhywioldeb oedd themâu’r tair cerdd a ddaeth i’r brig, gyda’r ddau feirniaid yn unfrydol mai Ciarán (ffugenw ‘Un Ymhlith Mwy’) heb unrhyw amheuaeth, yw bardd gorau’r gystadleuaeth”.

“Nodwedd amlycaf y gystadleuaeth hon eleni oedd amrywiaeth rhyfeddol y lleisiau barddol y bu’n rhaid i ni eu tafoli, ac roedd hynny’n amlwg o ran mesurau, arddull a bydolwg,” meddai’r beirniaid.

“Mae doniau ‘Un Ymhlith Mwy’ yn dra amlwg o agoriad y gwaith hyd at ei ddiwedd.

“Ceir gafael sicr ar iaith, y gallu i amrywio cyweiriau ieithyddol ac ymwybyddiaeth gadarn o seiliau rhythmig mesur y wers rydd.

“Yn y llinellau agoriadol fe’n cyflwynir yn y trydydd person i fardd ac mae’r bardd yn ymgodymu â dau beth, ei rywioldeb ac, yn ei dyb ef, anallu’r iaith Gymraeg – ei ddeunydd crai fel bardd – i roi mynegiant i’r rhywioldeb hwnnw.

“Dyma fardd sy’n ymdeimlo ‘nad yw’r Gymraeg / yn siarad iaith Ru Paul. Ond, erbyn diwedd y gerdd, a’r bardd bellach yn arddel ei rywioldeb yn agored, awgrymir nad oes raid iddo ‘ddeisyfu llwybr amgenach’ ac ymwrthod â’r Gymraeg fel cyfrwng creadigol. Ac yn y sylweddoliad hwnnw y down at ‘ddiolch’ y testun gosodedig.”

Y Gadair

Mae Ciarán Eynon yn derbyn cadair hardd wedi ei chreu gan y saer Rhodri Owen a’i rhoi gan Ysgol Uwchradd Glan Clwyd, a chafodd y seremoni ei noddi gan Ymddiriedolaeth Ivor ac Aeres Evans.

“Ron i am gofnodi canmlwyddiant yr Urdd mewn ffordd gynnil oedd yn berthnasol i’r ardal – mae’r marciau Ogam ar y coesau ôl wedi eu hysbrydoli gan Garreg Groes Rhyd y Beddau, ger Clocaenog sydd yn enghraifft brin o Ogam yng Nghymru,” meddai Rhodri Owen.

“Mae’r marciau ar y gadair yn rhifo 100 ac yn sillafu Sir Ddinbych ar y ddwy ochor.

“Mae’r panel gwaelod ar siâp rhan o Fryniau Clwyd a’r marciau lliwgar ar y panel mwyaf yn dynodi bywiogrwydd ieuenctid yr ardal ar siapiau llif afon.

“Dwi’n gweld y lliwiau yma yn rhedeg drwy’r ffawydd fel yr Afon Clwyd yn tarddu o Hiraethog cyn rhedeg o un pen o’r Sir i’r llall.”

Bydd y cyntaf, ail a thrydydd yn y cystadlaethau llenyddol gydol yr wythnos yn cael cyfle i fynd ar Gwrs Olwen yn yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd er cof am Olwen Dafydd, ac mae hyn yn bosib drwy nawdd Ymddiriedolaeth Olwen Griffith.

Mi fydd y gwaith buddugol ynghyd â’r feirniadaeth ar gael i’w darllen ar wefan Eisteddfod yr Urdd o brynhawn Gwener, 3 Mehefin ymlaen.

Bwriad trefnwyr yr Eisteddfod yw cyhoeddi cyfrol o gyfansoddiadau Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022 ar ei newydd wedd, wedi’i guradu gan rai o Brif Enillwyr yr ŵyl, erbyn yr hydref.

Gellir dod o hyd i holl ganlyniadau’r Eisteddfod hyd yma drwy ymweld â gwefan s4c.cymru/urdd.