Mae enillwyr categorïau Cymraeg Gwobrau Tir na n-Og wedi cael eu cyhoeddi mewn dathliad arbennig yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych heddiw (dydd Iau, Mehefin 2).

Er eu bod nhw’n wahanol iawn o ran lleoliad a thema, mae’r cymeriadau sy’n ganolog i’r nofelau buddugol – Gwag y Nos ganSioned Wyn Roberts ac Y Pump, sydd wedi’i golygu gan Elgan Rhys– yn rhai cofiadwy.

Wedi eu sefydlu yn 1976, mae Gwobrau blynyddol Tir na n-Og yn dathlu’r llyfrau gorau i blant ac oedolion ifanc yng Nghymru, ac maen nhw’n cael eu trefnu gan Gyngor Llyfrau Cymru gyda nawdd gan CILIP Cymru Wales, Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth Cymru.

Mae’r enillwyr yn derbyn gwobr ariannol o £1,000 trwy nawdd gan CILIP Cymru Wales, yn ogystal â thlws a gafodd ei gomisiynu’n arbennig ac a gafodd ei greu gan The Patternistas, sy’n ddylunwyr o Gaerdydd.

Enillydd y categori oedran cynradd – Gwag y Nos gan Sioned Wyn Roberts (cyhoeddwyd gan Atebol)

Dyma nofel sydd yn dod â’r cyfnod Fictoraidd a byd creulon y wyrcws yn fyw trwy anturiaethau Magi, rebel a phrif gymeriad hoffus a direidus y stori.

Dilynwn Magi wrth iddi fynd o Wyrcws Gwag y Nos i Blas Aberhiraeth, gan gwrdd â chymeriadau cofiadwy ar hyd y ffordd fel Mrs Rowlands, Nyrs Jenat a Cwc.

Wrth ddilyn sawl tro annisgwyl yn y stori, rydyn ni a Magi eisiau gwybod yr ateb i’r un cwestiwn – beth yw cyfrinach dywyll Gwag y Nos?

“Dyma lyfr oedd yn hoelio sylw’r darllenydd o’r paragraffau cyntaf, ac yn bwrw iddi’n syth i ganol stori gyffrous,” meddai Alun Horan, cadeirydd y panel beirniaid.

“Rhaid rhoi canmoliaeth i’r dylunio trawiadol – roedd y clawr yn cyfleu naws iasol y Wyrcws, ac roedd y lluniau tu fewn yn eich ysgogi chi i baentio’r byd yn y dychymyg.

“Edmygwyd gwreiddioldeb a dychymyg yr awdur, a dyfnder y gwaith ymchwil er mwyn gwneud cyfnod Oes Fictoria mor real i’r darllenydd.”

Dywed Sioned Wyn Roberts ei bod hi wrth ei bodd.

“Diolch o galon i’r Cyngor Llyfrau a’r beirniaid am yr anrhydedd yma,” meddai.

“Diolch hefyd i Rachel Lloyd am olygu, i Almon am ddylunio, i Atebol am gyhoeddi’r nofel ac i’r holl ffrindiau a phlant sydd wedi darllen drafftiau cynnar ac wedi cynnig sylwadau craff.

“Dwi’n lecio meddwl amdani fel stori am girl-power Fictoraidd,” meddai wedyn am ei chyfrol.

“Mi ges i’r syniad am y nofel ar ôl darganfod bod fy nheulu i wedi gorfod mynd i fyw i Wyrcws Pwllheli am eu bod nhw mor dlawd.

“Felly roedd fy hen, hen nain a’i phump o blant yno, a ddes i o hyd i’w henwau nhw yng Nghyfrifiad 1881.

“I mi, mae hanes yn sbarduno syniadau ac yn tanio’r dychymyg. A gobeithio, trwy stori Magi, bod plant yn gweld pa mor wahanol, a pha mor debyg, oedd bywydau pobol ifanc ers talwm o’u cymharu â’u bywydau nhw heddiw.

“Fyswn i erioed wedi dechrau ysgrifennu oni bai ’mod i wedi mynychu cwrs yng Nghanolfan Tŷ Newydd tua thair blynedd yn ôl.

“Ges i fy ysbrydoli gan awduron talentog i roi cynnig arni, a dydw i ddim wedi stopio sgwennu ers hynny.”

 Enillydd y categori oedran uwchradd – Y Pump, gol. Elgan Rhys (cyhoeddwyd gan y Lolfa)

Mae Y Pump yn dilyn criw o ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Llwyd, wrth iddyn nhw ddarganfod y pŵer sydd gan eu harallrwydd pan maen nhw’n dod at ei gilydd fel cymuned.

Cawn ein tywys gan safbwyntiau unigryw Tim, Tami, Aniq, Robyn a Cat gan ddod i adnabod realiti cymhleth bod yn berson ifanc ar yr ymylon heddiw.

Drwy gydweithio â’r golygydd Elgan Rhys, mae pum ysgrifennwr ifanc wedi gweithio ar y cyd ag awduron mwy profiadol i greu’r gyfres uchelgeisiol, arbrofol, bwerus yma.

“Beth sy’n gwneud y straeon yma’n wahanol ac yn arbennig o berthnasol yw’r cydweithio rhwng y cyd-awduron, ac mae’r holl gymeriadau, eu sefyllfaoedd a’u rhyngberthynas yn teimlo’n real iawn, iawn,” meddai Alun Horan.

“Mae defnyddio awduron amrywiol yn creu lleisiau unigol i bob un o’r cymeriadau, rhywbeth oedd yn effeithiol tu hwnt.

“Camp ddiamheuol y golygydd yw’r ffordd mae e wedi dod â’r holl straeon at ei gilydd yn effeithiol.

“Byddai angen tudalennau er mwyn gwneud cyfiawnder â’r cyfrolau yma, roedden nhw mor gyfoethog o ran cynnwys.

“Llongyfarchiadau mawr i’r tîm tu ôl i’r fenter uchelgeisiol hon, a dwi’n siŵr y bydd cynnwys y cyfrolau yma yn cael ei drafod a’i ystyried am flynyddoedd i ddod.”

Teitlau ac awduron y pum cyfrol unigol yw Tim (gan Elgan Rhys a Tomos Jones), Tami (gan Mared Roberts a Ceri-Ann Gatehouse), Aniq (gan Marged Elin Wiliam a Mahum Umer), Robyn (gan Iestyn Tyne a Leo Drayton) a Cat (gan Megan Angharad Hunter a Maisie Awen).

Dywedodd Elgan Rhys, golygydd y gyfres: “Mae’r wobr hon yn gydnabyddiaeth o angerdd a gwaith caled pob aelod o dîm Y Pump, wnaeth ddod at ei gilydd o bob cwr o Gymru yn ystod dyddiau tywyll y clo mawr gyda’r uchelgais o greu darlun gwirioneddol newydd ac awthentig o fywydau pobol ifanc yng Nghymru heddiw,” meddai Elgan Rhys, golygydd y gyfres.

“Hoffem ni i gyd ddiolch i’r beirniaid, i’r Lolfa a’r Cyngor Llyfrau a phawb arall sydd wedi cyfrannu at greu byd Y Pump, ac yn fwyaf oll, i bawb sydd wedi ymdrochi ynddo wrth godi un o’r llyfrau.”

‘Profiad arbennig iawn’

“Roedd o’n brofiad arbennig iawn, yn enwedig oherwydd bod o wedi bod yn ystod y pandemig pan oedd pawb reit isolated. Gaethon ni gyfle i weithio mewn grŵp o ddeg ohonom ni ar rywbeth roedden ni i gyd yn credu’n gryf ynddo, o ran y straeon a’r cymeriadau roedden ni’n eu portreadu,” meddai Marged Elen Wiliam, un o awduron Y Pump, wrth golwg360.

“Roedd o’n brofiad unigryw. Roedd gen ti’r pump awdur, ac roedd y pump cyd-awdur fwy neu lai yn gwneud yn siŵr bod y profiad a’r cymeriad yna yn driw i be’ roedden ni’n drio’i wneud ac yn dod â’r authenticity mewn i’r prosiect.

“Roedd o’m amrywio rhwng bob pâr be’ oedd y berthynas yna o sut roedden ni’n mynd ati i sgrifennu.

“Efo Mahum Umer oeddwn i’n gweithio, ac fe wnes i ofyn iddi hi am ddarn sgrifennu ac roedd hi’n gallu ei fwydo mewn i’r sgrifennu a’r stori ei hun.

“Roedd o reit fluid, roedd o’n ffordd gwbl newydd o weithio ac roedden ni’n gweithio fo allan wrth i ni fynd ymlaen â dweud y gwir.

“Pan wnaethon ni gychwyn doedd ennill gwobr ddim yn rhan o’r ffordd roedden ni’n feddwl, mae hyn jyst yn treat go iawn!

“Dw i’n meddwl hefyd, bod hi’n braf bod y Cyngor Llyfrau yn cydnabod gwaith cydweithredol, bod o ddim yn waith un person.”

‘Lle i ni yn y diwylliant’

“Roedd y profiad yn rhywbeth wnaeth wneud i fi sylweddoli pa mor bwysig yw llais fi. Dydy’r straeon sydd yn Y Pump ddim yn cael eu rhannu, roedd e jyst mor bwysig i weld pobol fel fi a gweddill y cymeriadau a bod yna le i ni yn y diwylliant,” meddai Leo Drayton, un o’r cyd-awduron.

“Mae e’n neis i weld bod e’n golygu gymaint i bobol eraill ag y mae e i ni.

“Mae e’n brosiect sydd mor sbesial i ni.”

Llongyfarchiadau

“Llongyfarchiadau fil i’r enillwyr ar eu camp aruthrol,” meddai Amy Staniforth ar ran CILIP Cymru Wales.

“Rydym yn falch o noddi Gwobrau Tir na n-Og eto eleni, gan barhau i helpu plant a phobl ifanc i ddarganfod y gorau o’r llyfrau o Gymru ac am Gymru.”

“Bu Gwobrau Tir na n-Og yn dathlu’r goreuon ymhlith llyfrau i blant a phobol ifanc yng Nghymru ers 1976, ac mae ansawdd y deunydd yn parhau i wella’n gyson,” meddai Helgard Krause, Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau.

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r gystadleuaeth eleni – bu’n gyfle gwych i arddangos talentau awduron a darlunwyr ym maes llenyddiaeth plant yng Nghymru.”

Dyma’r teitlau eraill oedd ar restr fer y categorïau Cymraeg:

Categori oedran cynradd

  • Gwil Garw a’r Carchar Crisial gan Huw Aaron (Broga)
  • Sara Mai a Lleidr y Neidr gan Casia Wiliam (Y Lolfa)

Categori oedran uwchradd

  • Fi ac Aaron Ramsey gan Manon Steffan Ros (Y Lolfa)
  • Hanes yn y Tir gan Elin Jones (Gwasg Carreg Gwalch)

Enillydd y wobr yn y categori Saesneg yw The Valley of Lost Secrets gan Lesley Parr (Bloomsbury), a gafodd ei chyhoeddi ar y Radio Wales Arts Show ar nos Wener, Mai 20.