Mae’r cyfle i fagu hyder sy’n cael ei roi drwy aelwydydd yr Urdd yn gwneud plant yn ddinasyddion gwell yn y pendraw, yn ôl enillwyr Gwobr John a Ceridwen Hughes, Uwchaled eleni.
Caiff y tlws ei gyflwyno’n flynyddol yn ystod wythnos yr eisteddfod, fel gwobr am gyfraniad sylweddol i fywyd ieuenctid Cymru.
Sylfaenwyr ac arweinyddion Adran Aberystwyth oedd yr enillwyr eleni, ac roedd y hi’n “sioc fawr” i Helen Medi Williams a Lona Phillips.
Cafodd y tlws ei gyflwyno i’r ddwy ar faes yr Eisteddfod yn Ninbych heddiw (dydd Iau, Mehefin 2), yn yr ardal lle bu John a Ceridwen Hughes yn weithgar am hanner canrif a mwy.
“Rydyn ni’n falch ac yn gwerthfawrogi bod pobol wedi cymryd yr amser i’n henwebu,” meddai Lona Phillips, sy’n nyrs yn Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth, wrth golwg360.
“Rydyn ni’n ei wneud o gan ein bod ni’n ei fwynhau o, rydyn ni’n enjoio gweld y plant yn cymryd rhan, mae’n ein cadw ni’n ifanc, i ryw raddau.
“Rydyn ni wrthi ers dipyn o amser, erbyn hyn mae rhai o’r plant yn eu hugeiniau.
“Tref ydy Aberystwyth wrth gwrs, ond mae gennym ni aelodau o bentrefi bach tu allan – Talybont, Llangwyrfon, ac ati.
“Weithiau mae gennych chi un neu ddau sydd yr unig ferch yn y flwyddyn yn eu hysgol nhw, maen nhw’n dod ac maen nhw’n cyfarfod pobol wahanol.
“Maen nhw’n datblygu hyder; hyder cymdeithasol yn ogystal â hyder wrth gystadlu a hyder i gymysgu.
“Dw i’n meddwl bod hynna’n gwneud nhw’n ddinasyddion gwell yn y pen draw.”
‘Cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg’
Dechreuodd yr adran fel un ar gyfer plant cynradd yn unig pan gafodd ei sefydlu yn 2009, ond hi aeth o nerth i nerth ac ers 2013, mae ganddi adran uwchradd hefyd.
“Mae hi’n neis gweld y plant yn tyfu efo ni. Bychan iawn oedd yr adran ar y dechrau,” meddai Helen Medi Williams, sy’n athrawes yn Ysgol Rhydypennau yn Bow Street.
“Rydyn ni’n trio rhoi amrywiaeth o weithgareddau, dim jyst y cystadlu wrth gwrs, er yn fan honno mae Lona a fi’n dod mewn fwyaf, ar yr ochr cystadlu, ond mae yna arweinyddion eraill sy’n weithgar iawn o ran gweithgareddau yn wythnosol hefyd.
“Rydyn ni’n ffodus iawn o bobol felly.”
Mae rhoi’r cyfle i bobol ifanc gymysgu â phlant o’r tu allan i’w hysgol yn werthfawr hefyd, meddai Helen Medi Williams.
“Pan maen nhw’n mynd i’r uwchradd maen nhw’n gyfarwydd â phlant eraill ac yn y blaen.
“Mae rhywun yn teimlo eu bod nhw’n cael cyfle, yn enwedig yn y byd sydd ohoni o ran yr iaith Gymraeg, [mae hi’n bwysig] bod ein to ni yn trio rhoi cyfleoedd iddyn nhw tu allan i’r ysgol o ran y Gymraeg…”