Bydd Gŵyl Triban yn dechrau ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Ninbych fory (nos Wener, Mehefin 3).

Fel ‘aduniad mwyaf y ganrif’, mae’r dathliadau fydd yn cael eu cynnal heddiw, nos fory a nos Sadwrn yn rhan o ddathliadau canmlwyddiant y mudiad.

Mae’r ŵyl yn cynnwys Jambori yng nghwmni Dilwyn Price, a arweiniodd Jambori cyntaf yr Eisteddfod yn y Rhyl yn 1998.

“Y tro cyntaf, doeddwn i ddim yn siŵr sut ymateb oeddwn i am ei gael gan y plant, ond yn reit sydyn roedd y plant a’r athrawon wedi dod i fwynhau. Fe wnaeth y mwynhad dyfu ac esblygu’n naturiol,” meddai Dilwyn Price wrth golwg360.

“Roedd yna lot o hwyl, ond ansicrwydd hefyd, rhaid dweud. Roeddwn i’n ddibynnol ar gydweithrediad yr athrawon a bod y plant ddim yn canu’r caneuon yn oer ond eu bod nhw wedi bod yn rhan o’r gwaith yn yr ysgol.

“Fel athro a phennaeth roeddwn i’n gweld hyn yn amhrisiadwy, yn enwedig o ran ail iaith. Roedd yna batrymau iaith yn y caneuon roeddwn i’n gallu eu defnyddio’n ddyddiol.

“Dw i methu coelio ein bod ni wedi cael ein tynnu allan o focs. Mae’n mynd yn ôl 30 mlynedd pan gychwynnon ni, ond mae’r wefr yma dal mor gryf.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen fel band, fel rydyn ni’n dweud yn y band – no stars in the show.”

‘Fel llaw a maneg’

Mae Gŵyl Triban yn gyfle i ddathlu holl elfennau diwylliant Cymraeg, a bydd artistiaid fel Bwncath, Delwyn Siôn ac Eden yn canu a bydd sesiynau ioga ac aerobics gyda Mistar Urdd, ynghyd â thalwrn.

“Dyna un o’r pethau mae’r Urdd wedi’i wneud erioed, maen nhw’n edrych ymlaen a gweld sut fedran nhw addasu, sut maen nhw’n gallu ymateb,” meddai Dilwyn Price, wrth ystyried pwysigrwydd yr ŵyl o fewn gŵyl.

“Dw i’n meddwl i gyplysu’r ŵyl gerddorol, gŵyl o ddathlu be’ sy’n dda mewn cerddoriaeth Gymreig ynghlwm gyda gweithgareddau cerddorol… mae e wedi plethu i’w gilydd. Mae e fel llaw a maneg, maen nhw’n ffitio’i gilydd yn arbennig iawn.”