Mae 18 o blant wedi dod i frig cystadleuaeth fathemategol Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych eleni.

Roedd dros 800 o blant Blwyddyn 8 wedi rhoi cynnig arni, gan gynrychioli 20 o ysgolion uwchradd.

Mae Gareth Ffowc Roberts, Athro Emertiws yn Ysgol Addysg Prifysgol Bangor, wedi llongyfarch yr holl enillwyr.

“Mae llwyddiant y gystadleuaeth mewn cydweithrediad â’r Urdd yn tystio i frwdfrydedd ysgolion a disgyblion,” meddai.

“Cyflwynir y gwobrau ar 2 Mehefin yn y GwyddonLe ar faes yr Eisteddfod.”

Cefndir y gystadleuaeth

Yn 1983, lansiodd y Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol gystadleuaeth fathemategol yn y Gymraeg ar gyfer ysgolion uwchradd.

Mae’r cysylltiad rhwng y gystadleuaeth honno a’r Urdd wedi datblygu dros y blynyddoedd a chaiff y gwobrau eu dyfarnu gan yr Urdd a’r Gymdeithas Wyddonol ar y cyd.

Gareth Ffowc Roberts yw cadeirydd panel llywio’r gystadleuaeth.

Yr enillwyr eleni yw: Owain-Morgan Weighel (Bro Morgannwg), Morgan Williams (Caer Elen), Lily Rowlands (Creuddyn), Mali Hughes (Cwm Rhymni), Alana Worsfold (Cwm Rhymni), Ruby Parry (David Hughes), Sherry Mannion (David Hughes), Frankie Pill (Glantaf), Jacob Kingman (Glantaf), Lowri Harrington (Gwynllyw), Rhys Mathias (Gwynllyw), Romilly Ellis (Llanidloes), Hâf Higgs (Llanidloes), Ella Gaudet (Plasmawr), Osian Oyibo-Goss (Preseli), Téo Truslove (Preseli), Catherine Nia Wyn (Tryfan), Efan Williams-Foel (Tryfan).