Mae dynes sy’n byw yn yr Iseldiroedd ond yn wreiddiol o Awstralia yn dweud bod darllen nofelau Saesneg gyda chysylltiadau Cymreig yn gallu sbarduno pobol i ddysgu Cymraeg.
Darllenodd Jen Bailey The Grey King gan Susan Cooper, nofel ffantasi i blant sydd wedi’i lleoli yng Nghymru, pan oedd hi’n blentyn, gan sbarduno ei diddordeb yn y Gymraeg.
Treuliodd wythnos yn ysbyty plant Perth yn ddeg oed, ac fe ddarllenodd ei mam y nofel iddi, yn ogystal â holl lyfrau eraill y gyfres.
Mwynhaodd hi The Dark is Rising, sef teitl y gyfres sy’n cynnwys pum llyfr, ond cafodd ei swyno gan The Grey King, y pedwerydd llyfr yn y gyfres, oedd â chysylltiadau Cymreig.
Mae hi nawr yn bwriadu ymweld â Chymru, yn ogystal â sefyll arholiad Dysgu Cymraeg lefel Canolradd.
Cael modd i fyw
‘‘Ces i fy magu ar fferm yn Wheatbelt, Gorllewin Awstralia, felly ro’n i’n gallu uniaethu â bywyd cefn gwlad y nofel,” meddai.
“Cefais fodd i fyw wrth ddarllen am rai o’r lleoliadau fel Cader Idris a Chraig yr Aderyn yng Ngwynedd.
“Dw i’n bwriadu dod i Gymru fis Mehefin er mwyn ymweld â’r llefydd hyn, a dw i’n edrych ymlaen yn fawr at hynny.
‘‘Dw i’n gwybod am eraill sydd wedi dysgu Cymraeg ar ôl darllen The Grey King.
“Mi wnes i rannu holiadur ar Facebook, ac mi ymatebodd unigolion o America, Sweden, Awstralia a’r Almaen gan ddweud eu bod wedi cael blas ar ddysgu’r iaith diolch i’r nofel.
“Mae gen i hefyd gyfeillion sydd wedi eu hysbrydoli i ddysgu’r Gymraeg ar ôl darllen llyfrau megis The Chronicles of Prydain gan Lloyd Alexander, The Snow Spider gan Jenny Nimmo, Brother Cadfael gan Ellis Peters, Constable Evans gan Rhys Bowen yn ogystal â llyfrau J. R. R. Tolkien.
‘‘Dw i’n siarad wyth iaith ond dw i wedi syrthio mewn cariad gyda’r Gymraeg.
“Dw i wrth fy modd gyda’r iaith a’i hanes ac mae’n amlwg bod eraill o’r un farn â fi.
“Mae wedi bod yn braf sgwrsio gyda dysgwyr o bedwar ban byd sy wedi’u hysbrydoli i ddysgu Cymraeg, ar ôl darllen nofelau gyda chysylltiadau Cymreig.’’