Yn hanu o Ddinbych, dysgodd Bryn Williams i werthfawrogi bwyd a’i darddiad o oedran cynnar.

Mae wedi gweithio yn rhai o geginau enwocaf Llundain, o fwyty Marco Pierre White, The Criterion, i Le Gavroche, sef bwyty Michel Roux, am dair blynedd.

Bu’n gweithio fel uwch gogydd ym mwyty The Orrery am bedair blynedd.

Ers 2008, mae’n Brif Gogydd ei fwyty ei hun yn Llundain, Odette’s.

Mae ganddo leoliad hefyd ym Mhorth Eirias, sydd yn fwyty, caffi a bar.


Beth yw dy atgof hoff atgof o’r Urdd?

Glan-llyn! Oni’n caru Glan-llyn. Yr atgofion gorau sydd yn fythgofiadwy a gwneud ffrindiau newydd. Dwi dal i garu Glan-llyn!

 

Wnest ti erioed gymryd rhan/ennill cystadleuaeth yn Eisteddfod yr Urdd?

Dwi’n cofio’r dawnsio gwerin, a gwisgo mewn glas ar gyfer cystadlu yn Eisteddfod Yr Urdd, y Rhyl, ond dwi methu cofio pa flwyddyn oedd hi.

 

Ydy’r profiad o gystadlu wedi bod o fudd yn dy fywyd proffesiynol?

Mae’r profiad o fod ar lwyfan, o flaen cynulleidfa fyw, yn rhoi hyder i rywun wrth dyfu’n oedolyn. Mae gwneud sesiynau byw a theledu byw yn rhan o fy ngwaith o ddydd i ddydd erbyn hyn.

 

Disgrifia ardal Dinbych i bobol sydd erioed wedi ymweld o’r blaen.

Mae Dinbych yn dref hardd sy’n rhan o Ddyffryn Clwyd, ond y bobol leol yw calon y dref. Mae pobol Dinbych mor gyfeillgar ac agored. Ac mae gennym gastell wych hefyd – does dim llawer o drefi sy’n gallu dweud hynny!

 

Pa gystadleuaeth wyt ti’n mwynhau ei gwylio fwyaf yn yr Eisteddfod?

Dwi’n caru’r ffaith fod cystadleuaeth coginio nawr yn rhan o’r ŵyl. Mae mor bwysig i ddysgu’r sgiliau yma i blant ac mae cystadlu yn brofiad da. Un arall dwi’n fwynhau ei wylio yw’r dawnsio gwerin, er mod i’n arfer ei alw yn dawnsio gwirion! Ond dim ond wrth dynnu coes wrth gwrs.

 

Beth, yn dy farn di, yw’r peth gorau am yr Urdd?

Mae’r Urdd wedi bod yn rhoi profiadau bythgofiadwy i blant ers 100 mlynedd, does dim llawer o fudiadau sy’n gallu dweud hynny. Ymlaen a ni i’r 100 mlynedd nesaf!

 

Beth mae bod yn Lywydd y Dydd ym mlwyddyn canmlwyddiant yr Urdd yn ei olygu i ti?

Roeddwn wrth fy modd o’r cynnig. Mae pawb sydd wedi bod yn rhan o’r Urdd yn caru’r Urdd ac roedd yn fraint cael y gwahoddiad i fod yn Lywydd. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr, yn enwedig at ŵyl Triban. Mae’r lein-yp yn anhygoel a mae fy hen ffrindiau Eden yn perfformio hefyd, dwi methu aros!