Mae llu o Gymry wedi cael eu hanrhydeddu fel rhan o ddathliadau pen-blwydd Brenhines Lloegr – o’r awdures a dramodydd Gwyneth Lewis i’r pêl-droediwr Gareth Bale.

Daw’r MBE i gapten tîm pêl-droed Cymru yn ystod yr wythnos pan enillodd e Gynghrair y Pencampwyr am y pumed tro gyda Real Madrid, ac ar drothwy gêm fawr i Gymru ddydd Sul yn erbyn Wcráin am le yng Nghwpan y Byd yn Qatar yn ddiweddarach eleni.

Mae’r gantores o Sgiwen, Bonnie Tyler, hefyd wedi cael ei hanrhydeddu ag MBE.

Mae canwr arall, Wynne Evans, y cyn-chwaraewr rygbi a sylwebydd Brynmor Williams, a’r dyn tywydd a chyflwynydd Derek Brockway, ill tri, yn derbyn Medal yr Ymerodraeth (BEM), a Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant newydd Cymru, a Gwyneth Lewis, Bardd Cenedlaethol cyntaf Cymru, yn derbyn MBE.

Mae Hugh Morris, prif weithredwr a chyn-gapten Clwb Criced Morgannwg, wedi derbyn MBE.

Yn y byd gwleidyddol, mae Nia Griffith, Aelod Seneddol Llafur Llanelli, yn dod yn Fonesig, ac Angela Burns, y cyn-Aelod Ceidwadol o’r Senedd, yn derbyn MBE.

Mae llu o bobol o’r byd meddygol hefyd wedi cael eu hanrhydeddu am eu gwasanaeth yn ystod y pandemig Covid-19.

Llongyfarchiadau

Mae Simon Hart, Ysgrifennydd Cymru, wedi llongyfarch pawb sydd wedi cael eu hanrhydeddu, gan ddweud iddo gael ei “ysbrydoli” ganddyn nhw a’u straeon.

“Yn ogystal ag anrhydeddu pobol sydd wedi rhagori yn y campau a’r celfyddydau, mae’r anrhydeddau hyn yn dathlu unigolion sydd wedi rhoi yn ôl yn anhunanol i’r rheiny o’u cwmpas, drwy eu gwaith ac yn eu bywydau personol,” meddai.

Ond nid pawb sy’n hapus, mae’n ymddangos.

Ond mae Jason Morgan yn cynnig y dadansoddiad hwn: