Mae’r Urdd wedi bod yn addo “aduniad mwya’r ganrif” yng Ngŵyl Triban ar Faes Eisteddfod yr Urdd yn Sir Ddinbych.

Mae’r ŵyl o fewn gŵyl yn cael ei chynnal yn ystod tridiau olaf yr Eisteddfod rhwng Mehefin 2-4, i ddathlu’r gorau o gerddoriaeth a diwylliant cyfoes Cymru.

“Wrth i’r Urdd ddathlu ein pen-blwydd yn gant oed, dyma ein ffordd ni o ddiolch i bob gwirfoddolwr ac aelod sydd wedi cefnogi’r mudiad,” meddai Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau.

“Mae Gŵyl Triban yn ddatblygiad cyffrous i ni, ac yn gyfle i ni ddathlu holl elfennau o ddiwylliant Cymraeg gan gynnig gwledd i bawb o bob oed.”

‘Digon o sioe’ gan Tara Bandito

Heno (nos Wener, Mehefin 3), bydd Yws Gwynedd, Tara Bandito, Gwilym a Ciwb yn perfformio ar lwyfan y Sgubor.

Dyma o bosib fydd gig mwyaf Tara Bandito ers i gyfyngiadau Covid godi.

“Bydda i’n perfformio pethau Tara Bandito ond efo few trips down memory lane, wnawn ni ddweud,” meddai.

“Mae o’n gyfuniad o bethau Tara Bandito a Lleden rili.

“Mae gennym ni ambell westai gwadd yn ein set ni sy’n rhywbeth neis fel change bach.

“Mi fydd o’n ddigon o sioe de,” meddai.

Ond mae Tara yn edrych ymlaen yn fawr at berfformiadau rhai o’r artistiaid eraill hefyd fel Yws Gwynedd, sy’n perfformio am un o’r troeon cyntaf ers 2017.

Yws Gwynedd yn ôl yn gigio

Mae Yws Gwynedd yn eithaf nerfus.

“Da ni wedi bod yn ymarfer lot achos dydi o ddim yn dod yn naturiol,” meddai.

“Wnaethon ni ddim gigio’r albwm diwethaf wnaethon ni am fwy na blwyddyn felly’r fwya’ ti’n gigio, y fwya’ maen nhw’n dod yn ail natur.

“Ond dw i jyst yn edrych ’mlaen i gael bod yna a chlywed pobol wahanol, pobol newydd.

“Mae o’n brofiad eitha’ cŵl cael bod tu ôl i’r llwyfan fel person bach yn hŷn. Ti’n gweld artistiaid ti heb weld ers oes ac yn enwedig tro yma gan fod gymaint o gap wedi bod ers i bobol fod yn gwneud pethau.

“Mae ’na ryw gynnwrf yn bodoli haf yma sydd heb fodoli o’r blaen. Mae o’n teimlo’n newydd eto mewn ffordd.

“Mae’r ffaith bod y gigs ’ma gan yr Urdd wedi datblygu i fod yn rhywbeth mor fawr yn rili cŵl achos mae o’n rywbeth i artistiaid Cymraeg anelu ato.

“Gwobrau’r Selar oedd un o uchafbwyntiau’r flwyddyn i fi ym mis Chwefror, wedyn oedd gen ti Maes B, Tafwyl. Felly, gobeithio bydd Triban yn rywbeth tebyg,” meddai.

Y DJ Mirain Iwerydd fydd yn cadw cwmni i’r dorf heno rhwng setiau’r artistiaid.

Gwledd gan griw Cabarela

Bu sioe arbennig gan griw Cabarela neithiwr (nos Iau, Mehefin 2), sydd wedi bod ar eu taith Pasg yn ddiweddar.

Roedd hi’n sioe oedd yn ymwneud ag Eisteddfod yr Urdd yn bennaf, lle roedd y criw yn hel atgofion am eu profiadau’n cystadlu ar lwyfan yr Eisteddfod.

“Rhai yn fwy chwerw na’i gilydd yn dibynnu ar ein llwyddiant ni yn y cystadlaethau,” meddai Meilir Rhys Williams sy’n rhan o’r sioe.

Yn ddigwyddiad i oedolion yn unig, roedd hi’n debyg i’w sioeau yn y gorffennol ond ei bod hi’n awr o sioe y tro hwn.

“Dan ni wedi cywasgu’r profiad o sioe Cabarela mewn i awr ond mae o’r un mor hwyl a’r un mor gyffrous ag unrhyw sioe Cabarela arall.

“Mae hi’n brofiad newydd gael perfformio yn Eisteddfod yr Urdd a tydi o ddim y lle fwya’ amlwg fyswn ni wedi disgwyl perfformio ond mae’r Urdd wedi bod yn frwdfrydig iawn am gael ni yno,” meddai.