Mae Plaid Cymru yn galw am ymchwil a gweithredu i fynd i’r afael â’r bwlch iechyd rhwng y rhywiau.
Mewn dadl dan arweiniad Sioned Williams, Aelod o’r Senedd dros y Blaid, dywedodd fod angen i Lywodraeth Cymru ddatblygu strategaeth iechyd menywod pwrpasol i Gymru, a ddylai ganolbwyntio ar iechyd menywod gydol oes, er mwyn mynd i’r afael â’r bwlch.
Yn ôl ymchwil, mae anhwylder dysfforig cyn mislif (PMDD) yn effeithio ar un o bob ugain o ferched, ac mae’r rhai sydd â PMDD yn wynebu risg uwch o ladd eu hunain.
Mae’r ymchwil hefyd yn dangos bod 72% o bobol yn meddwl am ladd eu hunain yn ystod pob cylch PMDD.
Mae’r Aelod o’r Senedd dros Orllewin De Cymru yn galw am wasanaethau o ansawdd uchel, gan gynnwys gofal trydyddol arbenigol a buddsoddiad mewn hyfforddiant o ansawdd uchel ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.
Stigmateiddio cyflyrau iechyd menywod yn eu hynysu
Wrth siarad ar lawr y Siambr, dywedodd Sioned Williams nad yw lleisiau menywod a’u ple am fwy o gefnogaeth yn cael eu clywed oherwydd, yn hanesyddol, mae buddsoddiad cyfyngedig mewn ymchwil i iechyd menywod.
“Mae yna gyn lleied o ymchwil i gyflyrau fel endometriosis nad ydym hyd yn oed yn gwybod beth sy’n ei achosi,” meddai.
“A heb wybod yr achos, ni ellir, wrth gwrs, ddod o hyd i wellhad.”
Yn ôl Sioned Williams, mae stigmateiddio cyflyrau iechyd menywod yn “ynysu menywod pan fyddant, mewn gwirionedd, yn brofiadau a ddylai ein huno a’n sbarduno i weithredu”.
“Mae yno hefyd y gred dreiddiol hon sy’n parhau mewn rhannau o’r gymuned feddygol sy’n deillio o batriarchaeth gymdeithasol ac, i ryw raddau, misogyny – pan fydd menyw yn cwyno am ei hiechyd, ei bod naill ai’n hormonaidd, yn emosiynol neu’n afresymol.
“Yn aml mae’n cael ei fframio o amgylch eu swyddogaethau atgenhedlu fel merched.”
Angen gwasanaethau yn y gogledd yn arbennig
Wrth siarad ar ran menyw o Wynedd, dywedodd Sioned Williams fod angen brys am wasanaeth yn y gogledd sy’n mynd i’r afael â chyflwr endometriosis.
Dim ond un clinig arbenigol sydd yng Nghaerdydd yn delio gyda endometriosis, ond mae’r clinig wedi’i “lethu” â chleifion ar hyn o bryd.
“Mae’r diffyg buddsoddiad mewn triniaeth ar gyfer cyflyrau iechyd menywod fel endometriosis wedi arwain at gytundebau trawsffiniol ar gyfer triniaeth,” meddai.
“Er enghraifft, mae menywod fel Kate, sy’n byw yng ngogledd Cymru, yn mynychu’r ganolfan arbenigol endometriosis yn Lerpwl.
“Ond nid yw hyn bob amser yn digwydd.”