Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu penderfyniad y Senedd i ddarparu mwy o gefnogaeth i wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru, er eu bod yn dweud bod “angen gwneud mwy”.

Daw hyn ar ôl i Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, benderfynu sefydlu Gweithrediaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar ffurf model hybrid.

Bydd hwnnw’n cynnwys “uwch dîm bach a chryfach” o fewn Llywodraeth Cymru, “wedi’i atgyfnerthu a’i ategu drwy ddwyn ynghyd arbenigedd a chapasiti presennol cyrff cenedlaethol yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a fydd yn gweithredu o dan fandad uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru”.

“Ei diben canolog fydd cynorthwyo’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i ddarparu gofal o ansawdd gwell i bobol ledled Cymru – gan arwain at ganlyniadau, mynediad a phrofiad gwell a thecach i gleifion, llai o amrywiad, a gwelliannau o ran iechyd y boblogaeth,” meddai Eluned Morgan.

“Bydd Gweithrediaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn darparu arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol cryf – gan alluogi, cefnogi a chyfarwyddo’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru i drawsnewid gwasanaethau clinigol yn unol â blaenoriaethau a safonau cenedlaethol drwy:

  • gryfhau arweinyddiaeth a chymorth cenedlaethol ar gyfer gwella ansawdd;
  • darparu cyfarwyddyd mwy canolog i sicrhau dull cyson a theg o gynllunio’n genedlaethol ac yn rhanbarthol ar sail canlyniadau;
  • galluogi trefniadau rheoli perfformiad cryfach, gan gynnwys y gallu i herio a chynorthwyo sefydliadau nad ydynt yn gweithredu yn ôl y disgwyl.

‘Angen gwneud mwy’

“Mae gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed yn llawer is na’r safon dderbyniol yma yng Nghymru ac mae angen gwneud mwy,” meddai James Evans, llefarydd iechyd meddwl y Ceidwadwyr Cymreig.

“Edrychaf ymlaen at edrych ar fanylion yr adolygiad y pleidleisiodd y Senedd drosto yn ogystal â sicrhau bod gwasanaethau argyfwng 24 awr ar gael i blant a phobol ifanc ledled Cymru.

“Mae angen i Weinidogion Llafur wrando ar ewyllys y Senedd a sicrhau bod mwy yn cael ei wneud i wella gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed gan gynnwys agor uned anhwylderau bwyta yng Nghymru.”

‘Siomedig iawn’

Fodd bynnag, mae’r penderfyniad yn un “siomedig iawn”, yn ôl Dirprwy Lywydd Coleg Brenhinol y Ffisegwyr Cymru.

“Daw’r cyhoeddiad heddiw bedair blynedd ar ôl i Lywodraeth Cymru ymrwymo i sefydlu Gweithrediaeth,” meddai Dr Olwen Williams.

“Allwn ni ddim fforddio gwneud cynnydd mor araf: mae gweithlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn cael trafferth ymdopi, mae yna filoedd o gleifion ar restrau aros cynyddol, ac mae targedau perfformiad yn cael eu methu’n ddyddiol – dyw hi ddim yn ddigon da gosod y bai am y diffyg gweithredu ar Covid-19 pan na wnaeth y pandemig ddechrau nes dechrau 2020.

“O leiaf nawr mae’r dewis wedi cael ei wneud, a gobeithio bydd newid yn ei ddilyn.

“Dyw gwneud dim byd ddim yn opsiwn.”

Sefydlu “tîm bach o fewn Llywodraeth Cymru” i oruchwylio’r Gwasanaeth Iechyd yn “siomedig”

Roedd Dr Olwen Williams wedi galw am sefydlu corff annibynnol ag “arweinyddiaeth genedlaethol” er mwyn sicrhau bod yr un safonau’n bodoli dros Gymru