Mae’r penderfyniad i sefydlu “uwch dîm bach a chryfach o fewn Llywodraeth Cymru” i oruchwylio’r Gwasanaeth Iechyd yn un “siomedig iawn”, yn ôl Dirprwy Lywydd Coleg Brenhinol y Ffisegwyr Cymru.

Roedd Dr Olwen Williams wedi galw am sefydlu corff annibynnol ag “arweinyddiaeth genedlaethol” i fynd i’r afael â’r problemau o fewn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Fis Tachwedd y llynedd, roedd Coleg Brenhinol y Ffisegwyr yn un o 22 sefydliad oedd yn galw am ddod â’r holl wasanaethau iechyd “o dan yr un ymbarél” er mwyn sicrhau bod yr un safonau’n bodoli dros Gymru.

Fodd bynnag, mae Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, wedi penderfynu sefydlu Gweithrediaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar ffurf model hybrid.

Bydd hwnnw’n cynnwys “uwch dîm bach a chryfach” o fewn Llywodraeth Cymru, “wedi’i atgyfnerthu a’i ategu drwy ddwyn ynghyd arbenigedd a chapasiti presennol cyrff cenedlaethol yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a fydd yn gweithredu o dan fandad uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru”.

‘Siomedig’

“Mae hwn yn newyddion siomedig iawn,” meddai Dr Olwen Williams.

“Fis Tachwedd y llynedd, fe wnaethom ni ymuno â thros 20 o fudiadau yng Nghymru i alw am un corff cenedlaethol gyda goruchwyliaeth strategol dros Wasanaeth Iechyd Gwladol Cymru er mwyn gyrru gwelliannau yng ngofal cleifion a dal byrddau iechyd yn atebol.

“Wrth gyhoeddi “uwch dîm bach a chryfach o fewn Llywodraeth Cymru” yn hytrach na Gweithrediaeth Annibynnol Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru, mae’r Ysgrifennydd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi methu cyfle enfawr i wella gofal cleifion a mynd i’r afael ag ôl-groniad.

“Mae amryw adolygiad annibynnol wedi galw am wahaniaethu cliriach rhwng rheolaeth strategol Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru a phwy sy’n cyflwyno blaenoriaethau Llywodraeth Cymru.

“Daw’r cyhoeddiad heddiw bedair blynedd ar ôl i Lywodraeth Cymru ymrwymo i sefydlu Gweithrediaeth.

“Allwn ni ddim fforddio gwneud cynnydd mor araf: mae gweithlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn cael trafferth ymdopi, mae yna filoedd o gleifion ar restrau aros cynyddol, ac mae targedau perfformiad yn cael eu methu’n ddyddiol – dyw hi ddim yn ddigon da gosod y bai am y diffyg gweithredu ar Covid-19 pan na wnaeth y pandemig ddechrau nes dechrau 2020.

“O leiaf nawr mae’r dewis wedi cael ei wneud, a gobeithio bydd newid yn ei ddilyn. Dyw gwneud dim byd ddim yn opsiwn.”

‘Canlyniadau, mynediad a phrofiad gwell’

Dywed Eluned Morgan fod sefydlu Gweithrediaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn “rhan hanfodol” o’r gwaith o sicrhau bod y system iechyd yn addas ar gyfer y dyfodol.

“Ei diben canolog fydd cynorthwyo’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i ddarparu gofal o ansawdd gwell i bobol ledled Cymru – gan arwain at ganlyniadau, mynediad a phrofiad gwell a thecach i gleifion, llai o amrywiad, a gwelliannau o ran iechyd y boblogaeth,” meddai.

“Bydd Gweithrediaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn darparu arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol cryf – gan alluogi, cefnogi a chyfarwyddo’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru i drawsnewid gwasanaethau clinigol yn unol â blaenoriaethau a safonau cenedlaethol drwy:

  • gryfhau arweinyddiaeth a chymorth cenedlaethol ar gyfer gwella ansawdd;
  • darparu cyfarwyddyd mwy canolog i sicrhau dull cyson a theg o gynllunio’n genedlaethol ac yn rhanbarthol ar sail canlyniadau;
  • galluogi trefniadau rheoli perfformiad cryfach, gan gynnwys y gallu i herio a chynorthwyo sefydliadau nad ydynt yn gweithredu yn ôl y disgwyl.

“O dan y trefniadau newydd hyn, ni fydd dulliau statudol o ran atebolrwydd yn newid.

“Mae holl sefydliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol eisoes yn atebol i Weinidogion a Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol, a bydd hynny’n parhau.”

Angen yr holl wasanaethau iechyd “o dan yr un ymbarél”

Sian Williams

“Rydan ni’n gweld bod gwasanaethau wedi cael eu datblygu fwy mewn rhai llefydd na’i gilydd a bod y safonau yn [amrywio]”