Mae angen “arweinyddiaeth genedlaethol” i fynd i’r afael â’r problemau o fewn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol [GIG].

Dyna farn dros 20 o sefydliadau sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i fwrw ymlaen gyda’u hymrwymiad i sefydlu Gweithrediaeth GIG yn unol â’u cynllun Cymru Iachach a gyhoeddwyd nôl ym mis Mehefin 2018.

Cadarnhaodd Dr Olwen Williams, Is-lywydd Coleg Brenhinol y Ffisegwyr, eu bod nhw’n un o’r 22 sefydliad sy’n galw am ddod â’r holl wasanaethau iechyd “o dan yr un ymbarél”.