Gyda’r tymor rygbi rhyngwladol ar ben am flwyddyn arall, daeth yr amser i roi’r tîm cenedlaethol yn y glorian…

Mae Gwyn Jones yn teimlo bod buddugoliaethau tîm rygbi Cymru dros Ffiji ac Awstralia’n “ergyd seicolegol bwysig” i’w gwrthwynebwyr, a bod gemau Cyfres yr Hydref yn “well llinyn mesur” na Phencampwriaeth y Chwe Gwlad wrth i Gymru ddechrau edrych tuag at Gwpan y Byd 2023.