Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn heriol i athrawon wrth addasu i gyfyngiadau Covid-19.

O addysgu ar-lein i helynt graddau arholiadau, mae’r straen i’w deimlo yn ein hysgolion yn ôl undebau athrawon.

Ond bellach mae yna ofid fod staff ysgolion yn dioddef ergyd pellach i’w morâl gydag addysgwyr yn profi sarhad difrifol ar wefannau cymdeithasol.

Yn ddiweddar mae athrawon ledled Cymru yn dweud eu bod wedi cael eu recordio a’u huwchlwytho ar-lein gan ddisgyblion sy’n cael aros yn anhysbys.