Wedi deufis o drafod a darogan mae’r cytundeb cydweithio hirddisgwyliedig rhwng Llafur a Phlaid Cymru wedi dod i’r fei.

Gyda’r addewidion am “raglen radical a gwleidyddiaeth newydd” mae’r ddêl yn cynnwys 46 o feysydd polisi gwahanol, o brydau ysgol am ddim i greu gwasanaeth gofal cenedlaethol.