Mae holl drigolion Ynys Môn wedi cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn arolwg sy’n cael ei lansio yr wythnos hon, i gasglu darlun llawn o’r defnydd o’r iaith Gymraeg ar yr ynys.

Sicrhaodd Menter Iaith Môn a Chyngor Sir Ynys Môn gyllideb drwy Gronfa Adfywio Cymunedol y Deyrnas Unedig i gomisiynu Prifysgol Bangor i gwblhau’r gwaith ymchwil, ac mae gwahoddiad i bawb gymryd rhan – o siaradwyr rhugl i ddysgwyr, i’r rhai sy’n ymwybodol o’r iaith ar yr Ynys.

“Dyma’r tro cyntaf i ni ymgymryd â phrosiect ymchwil o’r math hwn ar lawr gwlad ym Môn,” meddai Elen Hughes, Prif Swyddog Menter Iaith Môn.

“Rydan ni’n hynod o falch o fod yn cyd-weithio gyda Phrifysgol Bangor. Bydd eu harbenigedd a dealltwriaeth o’r maes ymchwil yn rhoi data fydd yn werthfawr i ni ac yn helpu ni gynllunio ein gwaith dros y blynyddoedd nesaf.

“Yn ystod yr wythnosau nesaf byddwn yn ymestyn at gymunedau a chymdeithasau Môn er mwyn sicrhau bod cymaint o bobl â phosib yn cael y cyfle i lenwi’r holiadur.

“Y mwya’n byd fydd yn cymryd rhan, y gorau’n byd – i ni gael y darlun llawn, felly plîs ewch ati i’w gwblhau.

“Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni gyd.”

Bydd canfyddiadau’r holiadur yn helpu Menter Iaith Môn a Fforwm Iaith Môn i greu cynllun gweithredu yn seiliedig ar y canlyniadau, fydd yn gosod seiliau cadarn i’w gwaith o ran datblygu a hyrwyddo’r iaith fel iaith fyw ar yr ynys dros y blynyddoedd nesaf.

‘Cyfle pwysig’

“Mae’r prosiect yma’n cynnig cyfle pwysig i ni roi’r chwyddwydr ar sut mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio o ddydd i ddydd ar Ynys Môn,” meddai Dr Rhian Hodges, sy’n Uwch Ddarlithydd Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor.

“Mae’n gyfle i ni ddysgu mwy am y cyfleoedd amrywiol i ddefnyddio’r Gymraeg yn gymunedol, ond hefyd i ni geisio deall rhai o’r rhwystrau sy’n atal rhai unigolion rhag defnyddio’r Gymraeg hefyd.”

Mae Dr Cynog Prys hefyd yn Ddarlithydd Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol ym Mangor.

“Dyma gyfle gwych i astudio ardal unigryw o Gymru, ac ardal sydd  â chanran uchel o siaradwyr Cymraeg,” meddai.

“Mae’r astudiaeth hon yn cael ei chynnal yn ystod cyfnod diddorol, yn enwedig felly wrth i ni ymdopi â nifer o newidiadau cymdeithasol rydan ni wedi eu gweld yn sgil y pandemig.”

Mae’r holiadur yn rhan o waith Menter Iaith Môn sydd wedi derbyn £250,000 o Gronfa Adfywio Cymunedol Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a nhw yw’r unig fenter iaith i sicrhau cyllideb o’r gronfa honno.

Yn ogystal â’r gwaith ymchwil, mae prosiectau a gweithgareddau eraill ar y gweill ac yn cael eu cydlynu gan dîm y Fenter.

Mae Menter Iaith Môn yn rhan o deulu ehangach Menter Môn ac yn cydweithio gyda phartneriaid dan faner Fforwm Iaith Môn fydd yn rhan o’r gwaith o gyflawni amcanion dan y cynllun hwn.