Ateb y Ceidwadwyr i economi’r Deyrnas Unedig yw “taro Jac yr Undeb arni”, yn ôl Liz Saville Roberts.

Yn ystod dadl ar yr economi yn San Steffan, dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan nad yw “nostalgia yn adeiladu economi”.

Gwnaeth ei sylwadau wrth iddi ladd ar record Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig o ran yr economi – o lymder i godi’r gwastad i drafnidiaeth.

Dywedodd mai eu hateb i’r sefyllfa yw “taro Jac yr Undeb arni a chanu cân o fawl i ogoniant y gorffennol”, gan ladd arnyn nhw am dorri eu haddewidion maniffesto i sicrhau na fyddai Cymru’n colli pwerau nac arian o ganlyniad i Brexit.

Dywedodd fod Llywodraeth Cymru’n amcangyfrif fod trefniadau cyllido ôl-Brexit Cymru £772m allan o boced o ran arian strwythurol ar gyfer y cyfnod rhwng 2021 a 2025.

“Dewisiadau ideolegol” yw penderfyniadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig, meddai, a’r rheiny “wedi cyfuno i waethygu’r argyfwng costau byw”.

‘Eistedd ar eu dwylo wrth i’r economi fethu â gweithio’

“O’r argyfwng bancio hyd at heddiw, mae’r Blaid Geidwadol wedi ceisio bob cyfle i gyflwyno llymder, cyflwyno Brexit caled o’u gwirfodd eu hunain, a’r rheiny wedi cyfuno i waethygu’r argyfwng costau byw,” meddai Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd.

“Dewisiadau ideolegol ydi rheiny, a fydd yn cael eu cofnodi’n hanesyddol fel creadigaethau Torïaidd.

“Wedi rhedeg allan o syniadau ac eithrio canoli’r hyn nad oes ganddyn nhw, a beio’r hyn nad ydyn nhw’n ei wybod, mae’r Ceidwadwyr yn eistedd ar eu dwylo wrth i’r economi fethu â gweithio i aelwydydd a busnesau ledled y Deyrnas Unedig.

“Yn y lle cyntaf, dydy’r Bil Codi’r Gwastad ac Adfywio’n gwneud dim er mwyn cywiro camgymeriadau’r gorffennol nac yn cyflwyno dim ar gyfer y dyfodol.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi bod trefniadau ariannu ôl-Brexit y Llywodraeth hon i Gymru’n brin o £772m o arian strwythurol ar gyfer y cyfnod o 2021 i 2025.

“Nid yn unig y mae hyn yn ‘ymosodiad ar ddatganoli yng Nghymru’ – geiriau Gweinidog yr Economi Llafur, nid fy rhai i – ond yn addewid wedi’i dorri.

“Yn ehangach, mae ffynonellau gan gynnwys Bloomberg yn dangos methiant i gynnal y safonau presennol, heb sôn am gyflwyno unrhyw welliant, heb sôn am gynnal safonau presennol, ar draws y rhan fwyaf o’r Deyrnas Unedig ac yn enwedig ledled Cymru.

“Nid dyma gafodd ei addo ar dudalen 15 maniffesto’r Ceidwadwyr Cymreig yn 2019 – ’nad yw’r un rhan o’r Deyrnas Unedig yn colli allan ar arian tynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd’ – ac yn sicr ddim yr hyn gafodd ei addo ar dudalen 29 – ’na fydd Cymru’n colli unrhyw bwerau nac arian o ganlyniad i’n hymadawiad â’r Undeb Ewropeaidd’.

“Yn hytrach na chywiro tangyllido Cymru o HS2 o fwy na £5bn, mae Cymru’n cael Rheilffordd Prydain Fawr.

“Yn hytrach na chydweithio â Thrafnidiaeth Cymru, ein corff trafnidiaeth perchnogaeth gyhoeddus ein hunain, mae’n ymddangos mai ateb San Steffan i dangyllido hanesyddol yw sathru ar ein hateb ni ond peidio â chywiro’r problemau gwaelodol y mae angen eu trwsio.

“Yn blwmp ac yn blaen, dull y Llywodraeth hon o fynd i’r afael â phroblem anodd yw taro Jac yr Undeb arni a chanu cân o fawl i ogoniant y gorffennol.

“Dydy nostalgia ddim yn adeiladu economi.”